Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/305

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi hyny yn ysgafn, nac mewn natur ddrwg; ac ni chlywodd neb ef yn dywedyd gair segur. Gôf ydoedd wrth ei alwedigaeth; ei enw oedd Evan Moses. Byddai ei bin, ac inc, a phapyr, yn ei ymyl bob amser yn yr efail, i ysgrifenu hymnau a gyfansoddai wrth guro yr haiarn, neu rywbeth arall a ddeuai i'w feddwl. Yr oedd ei symlrwydd yn nodedig iawn, ac yn argyhoeddiad i bawb a ddeuent ato â'u gwaith. Dechreuodd gynghori cyn ei farw; cyhoeddodd ei hun i gadw oedfa am bump o'r gloch y bore, bob bore tra y byddai byw. Cadwodd at hyny ei hun, er bod ei gynulleidfa ond bechan yn aml. Galwai yn aml dan ffenestri ei gyfeillion, "Codwch, frodyr, at yr Arglwydd, a pheidiwch gwrando ar y cnawd." Ni ddiffygiodd nes gorphen ei yrfa, yr hyn a wnaeth gyda dyddanwch a llawenydd."

Yr oedd bychander yr achos yn ei gychwyniad, a thlodi a gwaeledd yr offerynau, yn rhoddi mantais i naws eu hysbryd ddod i'r golwg yn fwy amlwg a dysglaer. Ac ar y dechre, bychan a gwanaidd iawn oedd yr achos. Rhyw swp bychan o bobl druain dlodion, heb na dysg na dawn, na chyfoeth na dylanwad, yn cyfarfod â'u gilydd mewn rhyw dŷ bach llwydaidd, tebyg i weithdy y gwŷdd, neu feudy y fuwch; yno y gweddient, yr ymddyddanent, ac y clywent "holl eiriau y fuchedd hon." Ond er ised eu hamgylchiad, ac er lleied eu rhif, yr oeddynt o ysbryd rhagorol: yr oedd eu sobrwydd, eu diwydrwydd, a'u ffyddlondeb, yn nodedig iawn. Yr oeddynt yn goddef llawer yn mhob ffordd, er hyny yn siriol; ac yn gwneyd eu hunain yn bob peth i bawb, er mwyn ennill rhai. Gwerthfawrogent yn fawr y cyfleusdra, pan rhoddid iddynt gael pregethwyr, yr hyn oedd yn dra anfynych, i draethu iddynt air Duw yn ei burdeb a'i iachusrwydd. Aent yn ddyfal i'r llanau bob Sabboth, ac ymgymysgent â'r dyrfa wrth fyned a dychwelyd, yn dirion a chyfeillgar, er mwyn hysbysu yr hyn a wyddent am bethau yr efengyl. Cymerent achlysur, oddiwrth ryw air yn y Salm neu y Llith am y diwrnod, a ddarllenasid, neu ar destun y bregeth, i dynu ymddyddan am bethau Duw. Nid yn fynych y byddai dim yn y llan y pryd hyny, ond y gwasanaeth cyffredin; a phregeth, efallai, unwaith bob tri neu bedwar mis. Ac nid oes amheuaeth, pan y dygwyddai fod pregeth, mai llai y budd a dderbynid trwyddi o lawer, nag a weinyddid gan ambell Gristion deffro, tlawd, wrth ymddyddan â'i gymydog ar y ffordd adref.

I ddangos o ba ysbryd yr oedd proffeswyr yr oes hono, gallwn adrodd hanesyn am amaethwr bychan yn sir Feirionydd, o'r enw Griffith Ellis, am yr hwn y cawsom achlysur i son o'r blaen, ac y mae'n debygol y cawn eto. Cafodd y gŵr hwn ei gymhell, pan oedd yn aredig yn y maes, i fyned ugain milldir o ffordd, i geisio gan bregethwr ddyfod y Sabboth canlynol i'w ardal i bregethu. Gollyngodd y wêdd yn y fan, a chychwynodd i ffordd ar ei draed. Cafodd y pregethwr gartref, a chafodd ganddo, gan faint ei daerni, gydsynio â'i gais. Y Sabboth a ddaeth, a'r pregethwr hefyd; ond nid oedd na chapel na chynulleidfa yn barod iddo. Eithr yr oedd rhyw nifer o bobl yn y llan; dysgwyliwyd, gan hyny, am i'r bobl ddyfod allan, a safodd y pregethwr i fyny, ar ryw dwmpath yn agos i'r ffordd y dychwelent ar hyd-