Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/308

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mawr oedd eu cariad at eu gilydd, a mawr oedd y mwynhad y naill o'r llall. Nesâent at eu gilydd fel y gwna y defaid pan y'u hymlidir gan y cŵn. Yr oedd eu gweddiau yn daerion ac yn aml. Gweddient yn fynych bymtheg o weithiau yn y dydd. Dywedir y byddai llwybrau cochion yn cael eu gwneyd gan y Lowri Williams uchod, gan y cyniwair a wnai i goedydd, ac i ogofeydd y creigiau, i ymdrechu â Duw. Ac i'r graddau y byddai eu hymdrech gyda Duw mewn gweddiau, y byddai hefyd eu hymdrech i rybuddio dynion. Nid oes i ni feddwl, er hyn, nad oedd llawer o waeleddau yn perthyn i'r hynafiaid; ac nid oes i ni feddwl, chwaith, eu bod oll mor rhagorol â'u gilydd. Yr oedd llawer o raddau yn eu mysg hwy, a gwaeleddau yn nglŷn â hwy oll; eto yr oeddynt, ar y cyfan, yn fwy gwyliadwrus ar eu camrau, ac yn fwy egniol eu hymdrechion gydag achos Mab Duw, nag y ceir eu holynwyr heddyw. Profasent oruchwyliaethau dwysach, a chysuron melysach; ac felly, cymhwysid hwy i gyflawni gorchwylion caletach, ac i ddyoddef tywydd mwy.

Nid oedd manteision yr hen bobl ond prinion iawn, wrth eu cydmharu â manteision yr oes hon; eto, fe ymddengys y gwnaent ddefnydd rhagorol o'r rhai a feddent. Yr oedd llawer un o honynt wedi cyrhaedd gradd helaeth o wybodaeth mewn duwinyddiaeth, er na feddent nemawr lyfrau ond y Beibl. Y mae yn syndod i ni, pa fodd y gallai llawer pregethwr yn mysg yr henafiaid gyrhaedd y fath helaethrwydd o wybodaeth, pan y cofiom nad oeddynt wedi cael ond ychydig, neu ddim, addysg yn eu mebyd; nad oedd yr un ysgol Sabbothol yn yr holl wlad; nad oedd llyfrau da a buddiol ond ychydig eu rhif, a phrin eu haddysg; ac nad oedd ar gael neb yn gyfeillion a allai estyn iddynt un cymhorth. Rhaid oedd fod eu hawydd am wybodaeth yn angherddol, pan y cyrhaeddent lawn cymaint o wybodaeth ysgrythyrol, dan anfanteision mawrion o'r fath a nodwyd, ag a gyrhaeddir gan lawer yn yr ocs hon, dan amgylchiadau llawer rhagorach.

Dywedir am an Ellis Edward, pregethwr yn Darowain, sir Drefaldwyn, ei fod yn hyddysg iawn yn yr ysgrythyrau. Codai ef a'i wraig yn foreu iawn, yn enwedig ar y Sabbothau, i drysori yr ysgrythyrau yn eu cof. Bu mor llafurus yn dysgu llyfr yr Arglwydd, nes y bernid gan y rhai a'i hadwaenai, fod yr ysgrythyrau ymron oll yn ei gof. Oddiar y gwerth yr oedd ef yn ei weled mewn gwybodaeth fuddiol, cynghorai ei gyfeillion i brynu yr ychydig lyfrau a gyhoeddid yn ei oes; ac os dywedid fod prinder arian yn llesteirio, annogai i brinhau yn ngwerth neu yn ngwychder gwisg, neu i roddi heibio rhyw arferion treulfawr eraill, i'r dyben i'w cyrhaedd. Annogai weision i brynu canwyllau, fel y gallent gael goleu i ddarllen; ac annogai bawb a fyddent yn cwyno yn herwydd diffyg amser, i godi yn foreuach i'r un dyben. Da fyddai pe bae swyddogion eglwysi Methodistiaid y dyddiau hyn yn cymeryd esiampl oddiwrth yr hen bregethwr hwn. Mae manteision yr oes. bresenol yn annhraethol fwy na'r eiddo yr henafiaid; ond nid yw ein cynydd yn cyfateb i'n breintiau. Gwell ydyw gan lawer un y bibell ffwgws na'r