Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddynt â'r Saeson. Edrychai y Cymry arnynt fel gormesiaid; hwythau a lygadent yn ddiorphwys ar gael yr holl wlad i'w meddiant, wedi gosod eu bryd ar lwyr ddarostwng yr holl wlad i'w hawdurdod. Ac er fod yr holl drigolion, bellach, yn proffesu yr un grefydd, eto ni chai y Cymry pabaidd ddim chware teg gan Babyddion Lloegr; a chawn fod deiseb yn cael ei hanfon, gan dywysogion Cymru, at y Pab Innocent, yn achwyn yn dost ar drais ac anghyfiawnder coron Lloegr, ac archesgobaeth Caergaint. Cwynant fod esgobion yn cael eu gosod arnynt, anwybodus o'u moesau a'u hiaith—rhai heb fod yn caru y bobl na'u gwlad—rhai â'u bryd ar eu llywodraethu, ac nid eu llesâu—rhai yn eu hysbeilio o bob peth a allent, i gyfoethogi mynachlogydd Lloegr ac os y Cymry a amddiffynent eu hunain a'u gwlad rhag ymgyrchion ysbeilgar eu cymydogion y Saeson, esgymunid hwy am hyny gan archesgob Caergaint. Rhag y cyfryw sarhad a cham, y maent yn erfyn ar ei santeiddrwydd y pab edrych yn dosturiol arnynt, ac achub eu cam. Ond er mor rhesymol cu cais, ac urddasol y gwŷr a anfonwyd i Rufain, aflwyddo a wnaeth eu deisyfiad, er i Giraldus fod bedair blynedd wrth y gwaith o geisio cyfiawnder, a theithio i Rufain dair gwaith yn yr achos.

Anfuddiol fyddai i mi gadw y darllenydd yn hwy gyda hanes yr hynafiaid. Yr oeddynt, bellach, yn llawn o ofergoeledd pabaidd, ac yn dyoddef yn arswydus gan ryfeloedd, gan ymgyrchion y Saeson a chenedloedd eraill, a chan ymrysonau lawer yn mysg eu tywysogion eu hunain.

O'r diwedd, lladdwyd Llywelyn-ap-Gruffydd, y mwyaf, a'r olaf o dywysogion Cymru, ac unwyd y wlad â choron Lloegr, gan Edward I, yr hwn, mewn dichell, a gafodd gan flaenoriaid y genedl addaw cymeryd yn dywysog arnynt, y neb a enwid ganddo ef, os byddai yn enedigol o'r wlad, heb fedru Saesonaeg, ac o gymeriad difai. Hwn ydoedd ei fab ei hun, yr hwn oedd wedi ei eni yn Nghastell Caernarfon y pryd hyny, trwy fod y frenines wedi myned o Lundain yno i esgor. Yr ydym, bellach, yn disgyn at amserau mwy gobeithiol, amser o heddwch a seibiant gwladol, ac amser y torai gwawr goleuni a diwygiad ar y wlad, wedi oesoedd maith o dywyllwch ac ofergoeledd.

PENNOD II.

AGWEDD GREFYDDOL CYMRU, O DDYDDIAU WICKLIFF HYD Y DIWYGIAD METHODISTAIDD.

CYNWYSIAD:

"SEREN FORE" Y DIWYGIAD, NEU WICKLIFF A'I AMSERAU—WALTER BRUTE— ARGLWYDD COBHAM—GWAWR Y DIWYGIAD—HARRI VIII A'I AMSERAU—WILLIAM SALSBURY—EDWARD VI—MARI WAEDLYD—Y FRENINES ELIZABETH A PHROTESTANIAETH—RHYS PRITCHARD—WROTH, O LANFACHES—WILLIAM ERBURY—WALTER CRADOC—VAVASOR POWEL—GOUGE A STEPHEN HUGHES—JOHN WILLIAMS—MORGAN LLWYD—HENRY MAURICE—HUGH A JAMES OWEN.

GELWIR Wickliff yn "seren fore" y diwygiad Protestanaidd. Yr oedd y grefydd babaidd, yn ystod y ddwy ganrif o'r blaen, wedi ymagor yn gyflawn.