Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/312

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymaith. Nid oedd un ymresymiad cryfach gyda'r tylwyth hyn, na'r ffaith fod yr hen ŵr yn chwanegu ei gyfoeth, pryd yr arferai haelioni at achos yr efengyl. Nid er mwyn cynyddu golud y gwnaethai y gŵr y caredigrwydd a wnaethai; ond am y teimlai mai ei fraint, ac mai dyledwr ydoedd i wneuthur a allai o blaid yr Hwn a wnaeth y fath gymwynas iddo ef. Ar yr un pryd, bwriodd Duw aden ei ragluniaeth drosto ef a'i deulu, fel na fu ef na'i deulu yn golledwyr; a rhoes, drwy hyny, daw ar glebar y gwŷr doeth a gofalus, a ofynent yn bryderus, "I ba beth y bu y golled hon?"

Yr oedd amgylchiadau crefydd yn Nghymru, oes neu ddwy yn ol, yn fanteisiol iawn i ddangos ysbryd a chywair meddwl ei phroffeswyr. Argyhoeddiad dwys yn y gydwybod, a chariad cryf yn y galon, yn unig oedd yn ddigon i'w calonogi i fyned rhagddynt. Pa beth arall a allai gymhell yr hen bregethwyr i fyned allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau i gynghori eu cyd-ddynion ? Nid hen arfer gwlad oedd hyn, ac nid oedd esiamplau eraill yn annogaeth iddynt. Gwyddent yn dda pa gan leied o groesaw a gaent, ie, pa faint o warth a dynent ar eu henwau, ac o beryglon ar eu personau a'u hamgylchiadau. Nid oedd ganddynt fel cyfeillion ond ychydig o ddynion tlodion a dirmygedig; a pha fantais ddaearol, ynte, a allai fod iddynt o ymuno â hwynt? Nid oedd yn amgylchiadau pethau un math o hudoliaeth i ddenu neb at grefydd; ac heb ryw ysbrydoliad neillduol o fewn, y mae yn anhawdd dyfalu y croesawid hi gan neb, gan dywylled yr amgylchiadau oddiallan. Tueddai yr amgylchiadau i attal proffes lle nad oedd gras, ac i loewi gras lle yr oedd. Mewn amser llwyddiannus ar amgylchiadau crefydd, y mae mwy o gymhelliadau i ymwisgo â phroffes, er bod yn amddifad o ras; ond llai o achlysuron i burdeb a gwirionedd ddod yn amlwg a diymwad. Yr oedd prinder moddion gras yn amser yr henafiaid, yn achlysur iddynt hwy osod mwy o werth arnynt, a chael mwy o fwynhad ynddynt. Yr oedd y wedd fygythiol a sarug ar y byd erlidgar o'u hamgylch, yn melysu iddynt eu cymdeithas â'u gilydd. Yr oedd ychydigrwydd eu rhif, a melysder eu mwyniant, yn eu cyffroi i ennill eraill atynt. Yr oedd cynorthwyon dynol mor brinion, nes awchu eu gweddiau am rai dwyfol. Yn wyneb ei bod yn cau gyda dynion, yr oedd math o angenrheidrwydd troi at Dduw. Cyfatebai Duw hefyd yr ysgwydd i'r baich, a rhoddai iddynt nerth yn ol eu dydd. Os oedd eu blinderau yn lluosog, lluosog hefyd oedd eu cysuron. "Fel yr oedd dyoddefiadau Crist yn amlhau ynddynt, felly trwy Grist yr oedd eu dyddanwch hefyd yn amlhau." Yn ol mesur yr erlidigaeth ag oedd ar y pregethwyr, yr oedd y cynorthwyon a roddid iddynt, a'r hyfrydwch a fwynhaent; ac yn ol mesur yr ymosodiad a fyddai yn erbyn y crefyddwyr i addoli, y byddai y lles a dderbynient, a'r hyfrydwch a deimlent. Dan amgylchiadau anghyffredin, rhaid oedd cael cynaliaeth anghyffredin; ond fel yr oedd amgylchiadau yn lliniaru yn eu toster, yr oedd angherdd y mwynhad yn lliniaru yn ei raddau. Mae gras neu egwyddorion priodol y credadyn yn unffurf a digyfnewid eu natur; ond yn eu graddau a'u gloewder, y maent yn amrywio yn ol yr oruchwyliaeth a fydd arnynt, neu yr amgylchiadau y bydd