Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/316

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymwared iddynt, a hyny mewn modd annysgwyliadwy. Wedi myned trwy un rhyd, deallasant fod y dwfr yn ddyfnach nag y meddyliasant y byddai, a'r llanw yn prysur ddod i mewn. Dychwelyd yn ol ni allent, bellach; a myned rhagddynt oedd yn fwy enbyd. Tybiasant nad oedd yn eu haros ond boddi; ond yn yr adeg, daeth gŵr ar geffyl atynt, yr hwn hefyd oedd yn croesi y traeth. Hwn, wedi deall eu sefyllfa, a'u cymerodd un ar ol y llall o'r tu ol iddo, gan eu cario dros y lle mwyaf ei berygl; a mawr oedd eu diolchgarwch am y waredigaeth.

Mewn llawer amgylchiad cyffelyb i'r un uchod, yr oedd duwiolfrydedd y crefyddwyr, a gofal rhagluniaeth am danynt, yn cydgyfarfod. Ni adawai Duw i'r neb a wnai unrhyw beth i'w achos ef, ac o wir gariad ato, fod ar ei golled. Ie, ymddangosai cyfryngiad rhagluniaeth drostynt weithiau ymron yn wyrthiol. Daeth cyhoeddiad dau bregethwr i Benrhyn-deudraeth, ryw amser yn nghychwyniad Methodistiaeth yn y wlad, pryd nad oedd ond ychydig a'u derbynient i dŷ. Nid oedd cyfeillion crefydd yn y Penrhyn ar y pryd ond ychydig a thlawd. Yr oedd gŵr a gwraig yno, pa fodd bynag, wedi eu dwyn i hoffi'r efengyl, ac yn barod i wneyd yn ewyllysgar bob peth a allent i'w chroesawu. Ar eu gwaith yn clywed am ddyfodiad y dyeithriaid, ymofynasant yn bryderus iawn am borfa i'w ceffylau dros nos. Nid oedd gan y ddeuddyn eu hunain na maes na pherllan, ond gardd a gauasid i mewn ganddynt o'r cyttir, neu o'r comin fel y dywed llawer Cymro; a'r ardd hon ydoedd yn llawn o bytatws, a'r gwlŷdd, ar y pryd, yn eu blodau. Ond er cymaint a fu eu hymdrech gydag amaethwyr y gymydogaeth, ac er iddynt addo y talent yn llawn am borfa i'r ceffylau, ni allent lwyddo gyda neb i'w cymeryd. Beth oedd i'w wneyd? Ni fynent, er dim, wneuthur cam ag anifeiliaid y gwŷr dyeithr, y rhai yr edrychent arnynt fel angylion Duw. Penderfynasant, pa fodd bynag, droi y ceffylau i'r ardd, deued a ddelo yn y canlyniad. Erbyn y bore, yr oeddynt wedi pori y gwlŷdd hyd at y ddaear; a mawr y chwerthin oedd yn yr ardal am ben ffolineb y gŵr a'r wraig, am iddynt roddi eu holl fywyd megys i groesawu y crwydriaid dyeithr a ddeuent ar draws y wlad. Ond mawr oedd syndod a llawenydd y ddau grefyddwr, pan ddaeth amser codi pytatws, fod yno gnwd llawn cymaint, os nad mwy, nag oedd gan neb yn yr holl fro; a mawr oedd rhyfeddod rhai, a siomedigaeth eraill, o'u dirmygwyr, pan ddeallasant na adawyd i'r trueiniaid caredig fod dim ar eu colled. Daeth yr hanes uchod i law yr ysgrifenydd oddiwrth amrywiol bersonau gwahanol, y rhai a gytunant yn hollol yn mhrif linellau yr amgylchiad.

Gresyn a fyddai gadael allan yr hyn a draethir am Griffith Jones, gwehydd, yr hwn ar y pryd oedd yn byw mewn lle a elwid Ynys-y-pandy, uwchlaw y Traethmawr, sir Gaernarfon, a'r hwn wedi hyny a ddaeth i fyw i'r Sarnau, gerllaw y Bala. Mae y gŵr hwn yn fwy adnabyddus fyth, am mai gydag ef y bu y llanc John Elias yn brentis. Dywedir fod Griffith Siôn yn ŵr medrus yn ei grefft, yn fwy felly na llawer o'i gydoeswyr hyn a barai fod lluaws o bobl o ardaloedd pellenig yn anfon eu hedafedd iddo. Heidient ato o gyrau