Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/317

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sir Feirionydd, o ardaloedd y Penrhyn, Talsarnau, a Harlech. Meddai ef ei hun wrth y Parch. Daniel Evans, gynt o Harlech, ond yn awr o'r Penrhyn, "Mi a fyddwn yn arfer a myned â'r eiddo adref ar ol ei wau; a chan fod genyf y ddau draeth (y Traeth-bach a'r Traeth-mawr) i'w croesi wrth fyned i ardal Talsarnau, ni allwn fyned a dychwelyd yr un diwrnod; ond yr oeddwn, gan hyny, dan angenrheidrwydd, y rhan amlaf, o letya dros nos yr ochr draw i'r Traethydd; a gwnawn hyny yn gyffredin yn nhŷ perchenog yr eiddo a ddygid adref genyf. Ar yr achlysuron hyny, gofynwn genad i ddarllen a gweddio yn y teulu y lletywn ynddo. Aeth hyn yn adnabyddus yn fuan trwy y fro, mai y cyfryw oedd fy arfer. Felly, cyn hir amser, pan y ceid lle i ddysgwyl fy mod yn dyfod trosodd, gwahoddai y naill wraig y llall i'w thŷ, gan ddywedyd yn siriol, "Dowch acw heno;-y mae gwehydd Ynys-y-pandy yn dyfod, a chewch ei glywed ef yn gweddio ar dafod leferydd." Yn mhen amser, deuent yn lluoedd i'm cyfarfod, yn enwedig y rhai y gweithiwn eu heiddo, a phob amser arosent oll i glywed y weddi hwyrol; ac amryw o honynt a ddeuent drachefn ar yr un neges y boreu dranoeth; a mawr y rhyfeddu a fyddai fy mod yn gallu gweddio heb lyfr. Aethum drosodd yno unwaith ar brydnawn Sadwrn, a methais ddychwelyd y noson hòno gan y llanw; ac felly, bu gorfod arnaf aros yno dros y Sabboth. Y bore Sabboth hwn yr oedd gwrandawyr y bennod a'r weddi yn lled luosog. Yn y fan y codais oddiar fy ngliniau y tro hwn, wele un yn fy ngwahodd i'w dŷ i giniaw, gan ofyn i mi ddarllen a gweddio yno; ac arall a'm gwahoddai i swper, gan erchi yr un peth. Meddyliais fod llaw Duw yn hyn. Ammodais, gan hyny, â'r bobl hyn, i ddyfod â'r eiddo adref o hyny allan ar nos Sadwrn, a threulio y Sabboth gyda hwynt." "Dyma'r amser," ebe yr hen ŵr, "y dechreuais bregethu, heb yn wybod i mi fy hun."

Tua'r un amser, yr oedd gŵr o'r enw Robert Roberts yn byw yn Tŷ Mawr, Talsarnau. Trwy ryw foddion, daliwyd y gŵr hwn â dychryn yn nghylch mater ei enaid; ac i'r dyben i dawelu gradd ar y storm, ymroddai i fyw yn foesol a dichlynaidd iawn. Ai yn gyson i'r eglwysi plwyfol o amgylch iddo i wrando yr offeiriaid. Ond er pob moddion o'r fath a ddefnyddid, nid oedd yn cyrhaedd gorphwysdra. Yr oedd rhyw eiriau o'r Beibl yn ymdroi yn barhaus yn ei feddwl, megys y rhai hyn, "Mae un peth eto yn ol i ti," a'r cyffelyb. Ond yn nghanol ei drallod, clywodd fod rhyw offeiriad hynod yn Llanberis, yn sir Gaernarfon. "Codais," eb efe, "yn foreu ryw Sabboth, a chyrhaeddais yno erbyn y gwasanaeth boreuol. Pan oedd yn dechreu pregethu, daliwyd fi â difrifwch, a deallais yn bur fuan mai gwir a glywswn i yn fy ngwlad am y pregethwr; canys nid oeddwn wedi clywed dim yn debyg erioed o'r blaen. Dangosid y pechadur fel un heb ddim da ynddo, a'i gyflwr yn llawn o drueni; ac O! fel y darluniai barodrwydd a chymhwysder y Gwaredwr, ac mor daer y galwai bechaduriaid ato! Aethum yno amryw Sabbothau olynol; ond unwaith, wedi dyfod allan o'r llan, pan oeddwn eto ar y fynwent, cyfeiriodd yr offeiriad ei gamrau ataf, a gofynodd i mi, O ba le yr oeddwn yn dyfod? a gwahoddodd fi i'w dŷ i gael ciniaw.