Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tyfasai, bellach, i'w chyflawn faintioli. Yr oedd ei chyfeiliormadau a'i llygredigaethau wedi cynyddu i raddau arswydus. Yr oedd traha a thrais y pabau, ariangarwch a chreulondeb y cardinaliaid a'r esgobion, bellach, yn annyoddefol. Yr oedd teyrnasoedd a phenau coronog Ewrop yn gruddfan dan eu hiau haiarnaidd, heb neb yn gwybod pa fodd i gael ymwared, na neb yn ddigon argyhoeddiadol a gwrol i godi ei lef yn erbyn eu gorthrymder. Mae ysgrifenwyr pabaidd eu hunain yn addef y llygredigaethau a ddaethai i mewn yn yr oesoedd o flaen y diwygiad, ac yn dal mai diogi a rhysedd y mynachod, traha a thrais yr esgobion, ac uchelgais annyoddefol y pabau a roes y fath rym yn y diwygiad. Hyn a ddywedant, nid am y carant addef y gwir, ond am na fynant briodoli y diwygiad i ddylanwad dwyfol. Yn yr adeg dywell a marwaidd hon, y cododd John Wickliff. Ganwyd ef tua'r fl. 1324, mewn pentref yn agos i Richmond, yn swydd Caerefrog. Dygwyd ef i fyny yn Rhydychain, a chyrhaeddodd raddau uchel mewn dysgeidiaeth a pharch. Canfu Wickliff wyneb hagr Pabyddiaeth, a dechreuodd godi ei lef yn ei herbyn. Ymosododd ar ei chyfeiliornadau, a dynoethodd ei harferion anfad yn ddidrugaredd. Ysgrifenodd yn erbyn traws-sylweddiad, ac yn erbyn uchafiaeth eglwys Rhufain. Profai nad oedd gan Pedr ddim mwy o awdurdod nag oedd gan yr apostolion eraill; na chan esgob Rhufain ddim mwy nag esgobion eraill; ac mai yr ysgrythyr oedd unig reol ffydd ac ymarweddiad. Fel hyn, fe annelai at wraidd Pabyddiaeth; a hawdd ydyw dyfalu, nad hir y goddefid iddo fyned rhagddo yn y ffordd hon, heb dynu arno ŵg y Pabyddion gwresocaf.

Anfonwyd achwyniad yn ei erbyn i Rufain, a mynai y pab i archesgob Caergaint, ac esgob Llundain, ei alw ef i gyfrif; ond fe'i hamddiffynwyd ef gan duc Lancaster ac arglwydd Percy, fel na allwyd gosod dwylaw arno. Wedi siomi esgob Rhufain yn ei gais cyntaf, efe a anfonodd eilwaith at yr un esgobion, ac at benaethiaid athrofa Rhydychain, gan orchymyn carcharu Wickliff; ac oni allent wneuthur hyny, parai iddynt ei anfon, cyn pen tri mis, ato ef i Rufain. Ni wnaed nemawr sylw o'r gorchymyn hwn chwaith. Yr oedd balchder a thraha pabau Rhufain eisoes yn flin gan lawer o benaethiaid y gwledydd; ac nid dyma y tro cyntaf i orchymyn ei santeiddrwydd gael ei droi o'r neilldu gyda dirmyg. Parhaodd Wickliff i ddynoethi diogi a dyhirwch y mynachod, a chyfeiliornadau Pabyddiaeth, hyd ddydd ei farwolaeth. Ymdaenodd ei egwyddorion yn raddol a dirgelaidd hyd y'mhell. Ac er i'w elynion lwyddo i'w droi ef o'r swydd a ddaliai yn Rhydychain, ni allasant ei attal ef rhag pregethu ac ysgrifenu yn erbyn eu daliadau. Edrychai lluaws arno fel amddiffynydd rhyddid a gwirionedd. Ofnid ef gan y pab a'r cardinaliaid; llygadent yn eiddigeddus arno, gan sylwi yn fanwl ar ei ysgogiadau. Ar yr un pryd, perchid ef yn fawr gan senedd Lloegr, ac apelient ato am ei farn ar fater o bwys a chanlyniad; ac er ei ddiraddio o'r swydd a ddaliai yn Rhydychain, anrhegwyd ef, yn y fl. 1374, gan Edward III, â phersonoliaeth Lutterworth, yn swydd Leicester. Rhaid fod y dull y trinwyd gorchymynion y prif-esgob, a'r amddiffyniad a roddid i Wickliff, yn