fan, efe a aeth. Ar ei ymddangosiad yn yr heol dan ddwylaw yr heddgeidwad, fel pe buasai leidr neu lofrudd wedi ei ddal, dyma'r floedd fawr o fuddugoliaeth oddiwrth yr haid gynhyrfus ag oeddynt yn dysgwyl ain dano, a churo padelli ffrio, a phob offer trystfawr o'r fath, o ddyben i roddi hyny o finder a sarhad ag a allent ar y crefyddwyr.
O flaen y maer yr aed, ac yno y bu yr arholiad a ganlyn:—
"Paham y dygasoch y gŵr yma ataf fi?" gofynai y maer.
"Ni a'i cawsom ef yn pregethu mewn tŷ anedd yn y dref," ebe'r swyddog.
Ar hyn galwyd Susan yu mlaen, gan mai yn ei thŷ hi y bu y peth anferth hwn, a gofynwyd iddi,—
"Ai yn eich tŷ chwi yr oedd y gŵr hwn yn pregethu?"
"Ie, Syr," ebe Susan.
"A ydyw eich tŷ ehwi wedi ei gofrestru i hyny yn ol y gyfraith
"Ydyw, syr."
"A oes gan y pregethwr drwydded i bregethu?"
"Oes, syr "
Ar hyn dangoswyd y drwydded i'r maer, a chafwyd boddlonrwydd fod pob peth wedi ei wneyd yn ol y gyfraith. Yna, gyda gradd o awdurdod a llymder, gorchymynodd i'r swyddog arwain y pregethwr i'r tŷ yn ei ol, a gofalu am ei roddi yn y man y cawsai ef. Ac yn ei gywilydd, hyn a fu raid iddo ei wneyd.
Dyma hanes yr oedfa gyntaf erioed gan y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig yn nhref Croesoswallt. Siomwyd y dyhirwyr yn ddirfawr, pan ddeallasant fod amddiffyniad cryf y gyfraith dros y pregethwr, a thros y druanes a roddasai le iddo bregethu yn ei thŷ. Ond er eu siomi yn eu hamcan y tro hwn, ymosodasant trwy lwybr arall i lethu yr achos bychan yn ei gychwyniad. Llwyddasant, trwy ryw foddion, i gael Susan allan o'i thŷ. Symudodd hithau i heol arall o'r enw Willow Street; a mynodd gofrestru hwnw, yr un modd a'r llall, i dderbyn pregethu iddo. Bu gorfod arni ymadael o'r tŷ hwn hefyd, ac o dŷ arall drachefn; a dangosai gelynion crefydd eu penderfyniad i'w hymlid hi, a'r rhai a noddid ganddi, allan o'r dref. O'r diwedd, cafodd dŷ gan ŵr ag oedd yn fwy tyner na llawer at achos yr efengyl; ac yn y tŷ hwnw yr arosodd y moddion hyd nes yr adeiladwyd y capel, yr hyn a gymerodd le tua'r fl. 1813.
Bu y chwaer hon yn gofalu yn ffyddlon am achos Mab Duw yn mysg y Cymry dros lawer o flynyddoedd. Arddelai ei chrefydd yn mhob man. Nid ymddyddanai â neb, am ychydig fynydau, na ddygai hi i mewn i'r ymddyddan ryw gyfeiriad at bethau crefyddol. Ac nid oedd gwaeth ganddi, pa un ai tlawd ai cyfoethog a fyddai y neb yr ymddyddanai â hwynt; rhoddai ar ddeall iddynt yn bur fuan, ac heb un math o rodres na hyfder anweddaidd, ond mewn dull ag a brofai ei chariad a'i chywirdeb, nad cywilydd oedd ganddi arddel Mab Duw; gloywai ei llygad gan sirioldeb, pan y rhoddid iddi hamdden i ddweyd gair am Grist ei Harglwydd; a hawdd y llithrai y gair "Bendigedig a fo 'fe," oddiar ei gwefusau, yn mharlawr y wraig foneddig,