Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/327

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hawdd ydyw dyfalu fod ysbryd rhagorol yr hen broffeswyr yn foddion neillduol i beri cynydd ar y Methodistiaid. Yr oedd eu hysbryd a'u rhodiad yn cyd-daro â'r weinidogaeth, i ennill eneidiau at Dduw. Wrth edrych ar eu hymarweddiad, dywedai llawer, "Awn gyda chwi, canys gwelsom fod Duw gyda chwi." Yr oeddynt yn "llythyrau canmoliaeth" i weinidogaeth y gair, wedi eu hysgrifenu "nid ag inc, ond ag Ysbryd y Duw byw; nid mewn llechau cerig, eithr mewn llechau cnawdol y galon." 2 Cor. iii, 1-3. Yr oedd Robert Llwyd, wedi tyfu i oedran, yn un o ddarllenwyr mwyaf ei oes. Y pryd hyny, yr oedd darllenwyr yn anaml iawn, ac i'r sawl na allent ddarllen a deall Saesonaeg, yr oedd pob anfantais, o ddiffyg llyfrau. Ond yr oedd ef yn deall y ddwy iaith, ac yn llosgi yn angherddol gan awydd i wybod pob peth o fewn ei gyrhaedd. Cyrhaeddasai i gryn wybodaeth a barn mewn pethau gwladwriaethol, yr hyn oedd yn ffaith anarferol y pryd hyny yn mysg crefftwyr Cymru. Yn hyn yr oedd Robert Llwyd yn fwy cyfarwydd na boneddwyr ei dref ei hun; a phan y byddai dadl rhyngddynt, at y crydd pengrynaidd yr apelient, fel yr unig un galluog i benderfynu yr achos. O herwydd helaethder ei wybodaeth yn nghylch mesurau y llywodraeth, gwledydd y cyfandir, symudiadau byddinoedd Prydain a Ffrainc yn amser y rhyfel, a phethau cyffelyb, diangai rhag cael ei faeddu a'i sarhau gan erlidwyr crefydd. Eto, dangosai ei gymydogion awydd mawr iddo roddi heibio ei grefydd; a gresynent fod y fath ddyn siriol a deallus a wnelai "â'r ffyliaid penchwiban," fel y galwent ei frodyr crefyddol. Pan oedd unwaith yn myned i'r Bont-uchel, daeth i'w gyfarfod ŵr cyfrifol o'r dref, yr hwn, gan y gwyddai i ba le yr oedd Robert Llwyd yn myned, a ymosododd arno, mewn ffordd o ymresymu ag ef, a'i berswadio i gilio oddiwrth y bobl ddyddim, ac ymuno fel dyn â'i gymydogion, yn eu syniadau a'u harferion. Dadl fawr a gymerth le rhyngddynt. Dangosai y cymydog lawer o awyddfryd i ennill gŵr, mor ddeallus a hawddgar ag oedd Robert Llwyd, drosodd at ei bobl ef; a dangosai Robert Llwyd yntau lawn cymaint o awyddfryd i wneuthur proselyt o'i gymydog. Yr oedd y ddadl yn gref, a phob plaid o ddifrif; a pharhau a wnaeth nes iddynt, megys yn ddiarwybod, ddyfod i'r Bont.

Cafodd Robert Llwyd, pa fodd bynag, lwyddo gydag ef i fyned i mewn i'r capel. Yr oedd y weinidogaeth y dyddiau hyny yn fynych yn fygythiol a tharanllyd. Ac felly yr oedd y bregeth y tro hwn. I ŵr o'r fath ag oedd y gwrandawr newydd hwn,—gŵr, mae'n debyg, na chlywsai nemawr bregeth yn ei oes, oddieithr iddo glywed darllen rhyw druth, heb na min na blas arno, yn y llan,—i ŵr fel hwn, yr oedd pregeth o'r fath a glywodd y tro hwn yn disgyn yn ddyeithr iawn ar ei glust, ac yn tueddu i gyffroi teimladau ofnadwy yn ei fynwes; ac yn enwedig pan yr ystyriom fod y weinidogaeth y dyddiau hyny, nid yn unig yn daranllyd ei chynwysiad, ond hefyd yn rymus a miniog ei naws. Dychrynodd y gŵr boneddig yn ddirfawr, ac mewn dychryn y dychwelodd adref. Y noson hòno, yr oedd yn cysgu gyda chyfaill iddo, i'r hwn y dechreuodd adrodd y pethau ofnadwy a glywsai yn y bregeth. Nos tranoeth hefyd, yr oeddynt yn cysgu gyda'u gilydd; a chyn