Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/328

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

myned i'r gwely, dywedai y cyfaill wrth y llall, "Ar fy——,os soniwch chwi air wrthyf heno am yr hyn y soniasoch a dano neithiwr, mi a dalaf i'ch croen chwi yfory; oherwydd ni chysgais i ddim trwy y nos, wedi clywed eich chwedlau chwith o'r blaen." Ond fe ymddengys fod Ysbryd Duw wedi anfon saeth y gwirionedd i gydwybod y ddau; i gydwybod un trwy y bregeth yn y Bont; ac i gydwybod y llall, trwy ei hadrodd gan yr hwn a'i gwrandawodd, wrth ei gyfaill. Ymunodd y ddau, yn mhen enyd, gyda'r bobl a ddirmygid ganddynt gymaint, ac aent yn gyson, bellach, gyda Robert Llwyd, i'r cyfarfodydd yr eiddigeddent unwaith gymaint nad elai Robert Llwyd iddynt.

Yr oedd y gŵr a aethai gyda Robert Llwyd i'r Bont, yn ŵr o sefyllfa barchus, ac yn ŵr cryf o gorff. Yr oedd hefyd wedi bod yn benigamp yn chwareuon ei fro, ac yn un a ofnid fel ymladdwr tost. Yr oedd bellach, pa fodd bynag, wedi ei lwyr ddofi, a dychwelai yn fynych o'r Bont dan orfoleddu a bloeddio gogoniant, ar hyd yr holl ffordd, ac ar hyd heolydd Rhuthin nes adsain y dref. Ac ni feiddiai neb o'r erlidwyr ymosod arno, ond ei wawdio yn ddirgelaidd ac o hirbell.

Yr oedd gair yr Arglwydd yn werthfawr y dyddiau hyn. Mewn cydmhariaeth i'r hyn sydd genym ni, yr oedd prinder mawr o foddion, ac yr oedd y crefyddwyr yn sychedig iawn am eu mwynhau. Teithient yn mhell yn fynych er mwyn eu cael, a thrwy rwystrau anarferol. Y bore, âi dau nêu dri o'r proffeswyr cyntaf a nodwyd o Ruthin, â thamaid yn eu llogellau i'r Bontuchel; i Dan-y-fron, plwyf Llansanan, erbyn dau o'r gloch; a deuent i hen gapel y Dyffryn, plwyf Llandyrnog, erbyn yr hwyr; ac oddiyno gartref yn ddiwall a siriol eu gwala, ar ol cerdded deng milldir ar hugain. Nid oedd swper yr Arglwydd yn cael ei weinyddu gyda chysondeb yn un man yn yr holl wlad, nes na'r Bala. Yr oedd Robert Llwyd yn un o'r rhai a arferent fyned yno. Yr oedd, o leiaf, ugain milldir o ffordd rhyngddo a'r Bala; a'r pryd hyny yr oedd y ffyrdd yn anhygyrch, ac yn arwain dros fynyddau, fel y cymerai i ŵr ar ei draed tuag wyth neu ddeg awr i fyned yno o Ruthin. Unwaith, cytunodd gŵr ag oedd yn byw ychydig yn y wlad, i fyned gyda Robert Llwyd yno, ond iddo alw heibio am dano ar ei ffordd. Ar hyd y nos yr oedd yn rhaid teithio, er mwyn cyrhaedd y Bala erbyn 9 o'r gloch boreu Sabboth; a'r noson hòno yr oedd hi yn bwrw eira yn dost, ac yn bygwth noswaith ddigysur iawn. Galwodd Robert Llwyd am ei gyfaill yn ol y cytundeb, ond efe ni fynai fyned. Er hyn, ni fyned Robert Llwyd gael ei luddias, ac yn mlaen yr aeth ef yn unig, ar hyd y nos, dros y mynyddoedd, yn nghanol yr eira, a chyrhaeddodd y Bala cyn i'r dydd prin wawrio. Dychwelodd adref nos Sabboth yn llawen ei ysbryd, ac fel un wedi cael ysglyfaeth lawer. Dywedai fod y wledd ysbrydol a fwynheid yno yn gan mil mwy na digon o dâl am yr holl lafur a lludded.