Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/339

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Mi a'i clywais y tu arall i fûr yr ardd, trwy dwll ag oedd yn y mûr, ac nis anghofiaf byth yr effaith a gafodd arnaf."

Ymddengys yn dra eglur yn hanes y gwahanol siroedd, pa effaith ei faint a gafodd troedigaethau hynod ar gynydd Methodistiaeth yn Nghymru. Yr oedd hyn yn amlycach yn nhymhor boreaf y diwygiad, nag yr ymddengys ei fod ar ol hyny. Yr oedd dychweliad llawer o'r hen Fethodistiaid yn nodedig o ran y dull a'r gradd, yn gystal ag o ran y moddion. Pan oedd moddion gras yn brinion yn y wlad, defnyddid yn amlach ryw foddion hynod, ac allan o'r llwybr cyffredin, o leiafi ddofi gwylltineb dynion, ac i godi ynddynt syched am fwynhad o foddion mwy rheolaidd a gosodedig. Yr oedd amryw o'r rhai a ddychwelid, hefyd, yn ddynion nodedig, naill ai am eu cymeriad anfucheddol ac erlidgar, neu ynte am eu dylanwad bydol; ac ymddangosai eu troedigaeth o gymaint a hyny yn fwy nodedig, a pharai fwy o sylw a dylanwad. Yr oedd yr amgylchiadau hyn yn troi allan mewn modd effeithiol, ac i raddau ehelaeth, er llwyddiant i'r efengyl. Gall Methodistiaeth edrych ar lawer ardal lle y mae yn awr yn flodeuog, ac olrhain ei gychwyniad, a llawer o'i gynydd, i droedigaeth rhyw bechadur nodedig ei ddrygioni yn y fro. Mawr oedd y syndod yn ngwersyll y gelyn gynt, pan y dychwelwyd Saul o Tarsus, a mawr iawn oedd y llawenydd a'r cryfhad a brofai y saint trwy yr un amgylchiad. Yn y cyntaf, yr oedd sibrwd mawr, gan ddweyd, "Onid hwn yw yr un oedd yn dyfetha yn Jerusalem y rhai a alwent ar yr enw hwn?" ond y rhai olaf "a ogoneddasant Duw ynddo ef."

Nid ydwyf yn gweled angenrheidrwydd i ymhelaethu ar y ganghen hon, gan y daw amgylchiadau i sylw, dan hanes pob sir, ac a ddangosant i'r darllenydd, i ba raddau y mae cynydd Methodistiaeth wedi codi oddiar droedigaethau nodedig rhyw ddynion hynod mewn gwahanol ardaloedd.

PENNOD VIII.
YSGOLION SABBOTHOL YN FODDION CYNYDD Y CYFUNDEB

CYNWYSIAD:—
YR YSGOL SABBOTHOL YN DRYDYDD YSGOGIAD MAWR I FETHODISTIAETH CYMRU—MR. CHARLES—GWEDD METHODISTIAETH AR GYCHWYNIAD YR YSGOL SABBOTHOL—PRIF DDEFNYDDIOLDEB MR. CHARLES—YR YSGOLION RHAD CYLCHYNOL—DECHREUAD YR YSGOL SABBOTHOL—EU RHAGORIAETH AR YSGOLION LLOEGR—ANHAWSDER Y GWAITH O'U SEFYDLU—MR. RICHARD, TREGARON, YN GYNORTHWYWR EGNIOL I MR. CHARLES MR. OWEN JONES O'R GELLI—ΕΙ DDEFNYDDIOLDEB YN ABERYSTWYTH, LLANIDLOES, AMWYTHIG, PERTHI, &c.—EFFEITHIAU YR YSGOL SABBOTHOL AR GYNYDD Y CYFUNDEB, AC YN ACHLYSUR SEFYDLIAD Y "FEIBL GYMDEITHAS FRUTANAIDD A THRAMOR."

GELLIR golygu cyfodiad yr ysgol Sabbothol fel y trydydd ysgogiad mawr a roddwyd i Fethodistiaeth Cymru. Y cyntaf, fel y gwelsom, oedd gweinidogaeth y tadau a gychwynasant yr ysgogiad; yr ail oedd y diwygiad mawr tua'r fl. 1762, yr hwn a iachaodd archollion yr ymraniad a gymerodd le rhwng Harris a Rowlands; a'r trydydd oedd y deffroad rhyfeddol a gynnyrch-