Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei fod yn dysgu y bobl "nad oedd y bara a'r gwin yn y cymun ddim yn wir gorff a gwaed Crist; nad oedd dim awdurdod gan y pab i faddeu pechod neb; mai anghrist oedd y pab; ac mai twyllo y bobl yr oedd." Yr oedd y gŵr hwn, er nad oedd ef yn offeiriad urddasol, yn gadarn yn yr ysgrythyrau, ac yn fwy na digon i gyfarfod â dadleuon y mynachod, ac offeiriaid anwybodus yr oes hono. Ysgrifenodd ei amddiffyniad, ac a'i rhoes i'r esgob, yr hwn, ar ol ei ddarllen, a ddeisyfodd ar iddo ysgrifenu yn helaethach, a gosod ei syniadau i lawr yn eglurach. Hyn a wnaed gan Brute; ac mewn canlyniad i'r ysgrif hon, gwysiwyd ef i sefyll ei holiad ar ddydd gosodedig, yn eglwys gadeiriol Henffordd. Gwedi treulio tridiau i chwilio a phrofi ei amddiffyniad, daethpwyd i benderfyniad, o'r diwedd, ei fod yn euog o gyfeiliornad a heresi. Nid yw hysbys pa beth a ddaeth o Walter Brute ar ol hyn. Tybir iddo ddianc yn rhyw fodd o ddwylaw ei erlidwyr.

Ond er pob gofal a gwyliadwriaeth o eiddo y Pabyddion, yr oedd nifer y Lolardiaid, fel y gelwid canlynwyr Wickliff, yn lluosogi. Yr oedd syniadau gwrthbabaidd fel surdoes yn y blawd, yn gweithio yn mysg y bobl yn ddystaw a grymus, nes oedd mynwesau yr esgobion a'r offeiriaid yn llenwi gan bryder a braw. Gwnaed cyfraith yn nyddiau Harri IV, i losgi pawb a geid yn dal egwyddorion Wickliff; a galwyd cymanfa yn nyddiau Arundel yr archesgob, o esgobion ac offeiriaid, i gyfarfod yn Llundain, i ystyried pa foddion a ellid eu defnyddio i attal athrawiaeth Wickliff i fyned rhagddi. Barnwyd mai yr unig foddion effeithiol fyddai cosbi yn ddiarbed bob un yn ddiwahaniaeth, a geid yn rhoi gwyneb iddi mewn un modd; a barnwyd hefyd, fod gwr o'r enw Syr John Oldcastle, yr hwn a elwid hefyd arglwydd Cobham, cyfaill neillduol y brenin, yn galw am lymder dial yn anad neb. Yr oedd y gŵr hwn o ddylanwad mawr yn y wlad; yn un o weision teuluaidd y brenin; ac yn bleidiwr cryf ac eofn i ddaliadau Wickliff. Parodd ddwyn achwynion i'r senedd yn erbyn llygredigaethau gwarthus yr offeiriaid; a chymerodd lafur a thraul fawr i ledaenu y syniadau gwrthbabaidd, trwy gyflogi gwŷr i adysgrifenu, ac i bregethu syniadau Wickliff ar hyd ac ar led y wlad, yn enwedig yn esgobaethau Caergaint, Llundain, Rochester, a Henffordd.

Ond er cymaint oedd parch y brenin i'r gwr enwog hwn, ac er cymaint oedd dylanwad ei gymeriad, ac urddas ei deulu, llwyddwyd gyda'r brenin i’w draddodi i ddwylaw y gwyr llên; ac ar ol ei holi, traddodwyd ef yn garcharor i dŵr Llundain. Ac er iddo ddianc oddiyno, a llechu fel ffoadur rhwng bryniau Cymru am bedair blynedd, fe'i daliwyd ef eilwaith trwy gynorthwy arglwydd Powys, a dygwyd ef i Lundain. Y diwedd a fu, ei grogi yn fyw mewn cadwynau, a chyneu tân odditano, a'i losgi i farwolaeth. Ond er rhwymo a lladd arglwydd Cobham, "gair Duw nis rhwymir." Yr oedd ysgogiad eisoes wedi ei roddi gan Ysbryd Duw i egwyddorion y gwirionedd yr oedd teimladau y trigolion yn addfedu i fwrw ymaith yr iau babaidd yr oedd lluaws mawr o'r rhai mwyaf meddylgar wedi glân flino ar draha annyoddefol yr offeiriaid; a phan y daeth allan y sibrwd lleiaf fod lle i feddwl mai twyll a hoced oedd honiadau balchaidd eglwys Rhufain, rhoddwyd