Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/341

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ysbaid amryw wythnosau, gan gyfeirio eu gwib-daith heibio i Langeitho, fel y caent yr hyfrydwch eilwaith o wrando Rowlands, a dybenu eu crwydriadau yn Llanfihangel, yn nhŷ tad Mr. Charles. Cafodd gyfleusdra i bregethu yn eglwys ei blwyf genedigol, a chafodd fwynhau cwmni ei hen gyfaill Rhys Hugh unwaith yn rhagor, cyn ehedeg o hono i'r nef, yr hyn hefyd a wnaeth yn mhen mis ar ol yr ymweliad.

Wedi bod yn gwasanaethu curadaeth yn Ngwlad-yr-Haf, dros rai misoedd, dychwelodd i Rydychain i dderbyn ei radd B.A., a thrachefn at ei guradaeth. Fe ymddengys fod ei gydnabyddiaeth â Mr. Lloyd y Bala, wedi ei arwain i gyfeillach merch ieuanc yno, o'r enw Miss Jones, yr hon ar ol hyny a briododd; a hyn, yn rhagluniaeth fawr y nef, a fu y ddolen i'w gysylltu ef â Gogledd Cymru. Cymerodd ei briodas le Awst 20, 1783; ac o hyny allan, cartrefodd yn nhref y Bala. Gwasanaethodd Mr. Charles yn yr eglwys sefydledig, yn awr ac eilwaith, am ysbaid dwy flynedd ar ol iddo gartrefu yn y Bala; ond yr oedd amgylchiadau yn barhaus yn dwyseiddio y syniad yn ei fynwes ef ei hun, a'r eiddo ei briod, mai i faes arall y gelwid ef i lafurio. Yr oedd curadaeth Shawbury, yn sir Amwythig, lle y buasai efe dros dymhor yn gweini, yn mhell o'i gartref, ac yn dra anghyfleus; a churadaeth Llan-y-mowddwy, lle bu ar ol hyny, yn cael ei chymeryd oddiarno, o herwydd iddo dramgwyddo rhyw rai yno trwy holwyddori plant ar ol y gosper, a thrwy ei bregethau gonest a didderbyn-wyneb. Anfonodd rhai o'r plwyfolion achwyniad yn ei erbyn at y person; a digon o achwyniad oedd, ei fod yn argoeli gormod o debygolrwydd i'r Methodistiaid; ac anfonodd y person yn ddioed rybudd iddo ymadael a'i wasanaeth. Ar lawer cyfrif, nid oedd colli curadaeth Llan-y-mowddwy nemawr golled iddo. Yr oedd yn 14 milldir o bellder o'r Bala; y ffordd, y pryd hwnw, yn ddrwg; a llwybr serth Bwlch-y-groes yn rhan o honi. Nid oedd ei gyflog ond bychan, a'r dirmyg a ddangosid tuag ato gan rai o'i blwyfolion yn fawr. Ar y cyfrifon hyn, da oedd cael ymddyosg oddiwrth y gofal yn llwyr; eto, ni roddasai Mr. Charles y lle i fyny, oni bae gorfod arno, gan y rhoddid iddo gyfleusdra i arllwys awyddfryd ei galon i fod yn fuddiol i'w gyd-ddynion. Ond yr oedd gan ragluniaeth Duw faes helaethach iddo lafurio ynddo na Llan-y-mowddwy, a lle anrhydeddusach na bod yn was caeth, mewn pethau cydwybod, i neb o ddynion y ddaear.

Nid yn fyrbwyll y gadawodd Mr. Charles yr eglwys wladol; ac nis gadawodd hi chwaith oddiar ddiffyg ymlyniad blaenorol wrthi. Ymddengys yn y gwrthwyneb, fod ei dueddiad yn gryf i lafurio o fewn ei chymundeb. Nid oedd dim rhyfedd yn y tueddiad hwn. Yn eglwyswr y dygasid ef i fyny o'i febyd. Dan weinidogaeth ac ymddyddanion eglwyswyr y derbyniasai ei argraffiadau crefyddol boreuaf. Yn mhrif-ysgol yr eglwys y cafodd ei ddysgeidiaeth, ac yn ei chymundeb hi, a chan esgob ynddi, y derbyniasai ei urddau gweinidogaethol. Eglwyswyr hefyd oedd ei brif gyfeillion. Yr oedd Griffith Jones, Llanddowror, a Daniel Rowlands, wedi sugno ei galon, ac eglwyswyr oeddynt hwythau. Hawdd