y gallwn ddychymygu, fod yr holl ystyriaethau hyn yn cyd-weithio i'w gylymu wrth yr eglwys wladol, i raddau tra mawr; ond er hyn oll, ymadael a wnaeth. A pha beth a allai fod yr achos o'i ymadawiad ? Nid mympwy penchwiban dyn ansefydlog ei feddwl; nid prysurdeb gorphwyllog dyn nwyd-wyllt ei dymher; ac nid chwerwder ysbryd gŵr uchelfrydig wedi ei siomi yn ei amcan, ydoedd. Pa beth, ynte, a'i cymhellodd i ymadael? Costiodd y tro i Mr. Charles ymdrechfa galed, gweddiau, a dagrau. Ymgynghorodd, gweddiodd, a myfyriodd lawer. Ceisiodd farn dynion call a duwiol, a gweddiodd am arweiniad y nef, a phenderfynodd yn bwyllog ac ystyriol, i ymddyosg oddiwrth rwymau a theimladau personol, yn cyfodi oddiar ddygiad i fyny, cyfeillgarwch, anrhydedd, ac elw, a bwrw ei goelbren yn mhlith enwad o bobl a ddirmygid yn fawr gan y byd, ond a anrhydeddid yn fawr, yn ol ei farn ef, gan Dduw. Pa beth, eto, a allai fod yr achos o hyn? Mae yr ateb, tybygaf, yn amlwg, ac mewn rhan wedi ei roddi eisoes. Gweled yr ydoedd, na allai aros yn nghymundeb yr eglwys wladol, heb wneyd cam a'i gydwybod; neu mewn geiriau eraill, argyhoeddedig ydoedd fod rhagluniaeth ac ewyllys Duw yn awgrymu iddo y dylai ymadael. Mae awdwyr eglwysaidd, wrth gyfeirio at yr amgylchiad hwn a'i gyffelyb, yn cymeryd sylw neillduol, ac yn gosod arbenigrwydd tra mawr ar hyn yma, sef y duedd gref oedd yn ymddangos ynddo ef, ac eraill, i aros yn y sefydliad gwladol, pe cawsent; a mynant i ni gredu fod hyn yn ddadl rymus o blaid y sefydliad. I mi, pa fodd bynag, y mae yn ddadl gref yn y gwrthwyneb. Po cryfaf ydoedd ymlyniad y gwŷr hyn wrth yr eglwys, amlycaf yn y byd y rhaid fod amnaid rhagluniaeth a barai iddynt ei gadael. Yr oedd tueddfryd o'i phlaid, ond yr oedd cydwybod yn ei herbyn. Mynent hwy weithio ynddi, a mynai Duw iddynt weithio allan o honi. Gwrando ar lais rhagluniaeth a wnaethant, ac nid ymgynghori â chîg a gwaed; ac allan yr aethant. Troisant eu cefnau ar sefydliad a gaethiwai eu cydwybodau yn eu hymdrechiadau tros Grist. Gan y gwrthodid iddynt ddweyd y gwir o fewn iddi, teg ydoedd iddynt er mwyn y gwirionedd fyned allan o honi; a chan fod eu gonestrwydd dros y gwirionedd yn eu cau hwynt allan o bulpudau yr eglwys, dyledswydd arnynt oedd mynegu y gwirionedd hwnw o bulpudau eraill. A hyn hefyd a wnaeth Mr. Charles, fel llawer eraill o'i flaen; ac nid ei golled ef a fu yr ymadawiad, ac nid colled ei genedl, ond colled yr eglwys ei hun. Hyd y dydd heddyw, y mae y gwarth heb ei ddileu oddiar yr eglwys sefydledig, am fod ei threfniadau y fath, na oddefant i'r fath ddynion a Rowlands a Charles fod yn weinidogion yn ei chymundeb.
Ar ol ei briodas, aeth Mr. Charles i Langeitho, i gymdeithasfa a gynelid yno. Yr oedd yno ar y pryd, fel y dywed ef ei hun, oddeutu ugain o offeiriaid, a rhwng tri-ugain a phedwar-ugain o gynghorwyr, fel y gelwid hwy, sef dynion heb urddau eglwysig. Yn yr un llythyr y mae yn hysbysu ei gyfaill, ei fod wedi addaw gwasanaethu rhyw eglwys blwyfol yn ei wlad; ond ar ol gwneuthur hyny am ddau Sabboth, anfonwyd ato lythyr maith a moesgar iawn, yn dweyd na fyddai raid wrth ei wasanaeth ef mwy. "Er y