Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/343

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pryd hwnw," meddai, " yr wyf wedi bod yn cynorthwyo Mr. Lloyd, yr hwn sydd yn wan ei iechyd. Y Sabboth diweddaf, pa fodd bynag, daeth ataf yr holl blwyf, a dau neu dri o'r prif drigolion yn eu blaenori, gan fy nghyfarch mewn modd garwach nag a gawswn erioed o'r blaen. Gorchymynid fi yn gaeth, na phregethwn mwyach yn yr eglwys hono, oblegid ebent hwy, 'Dygasoch arnom ddigon o felldith eisoes.' Cymeraswn ddigon o ofal i lefaru dim wrthynt ond y gwir, ac na chai dim arall fod yn achos tramgwydd, ac ni chyhuddir fi o ddim arall."

Yr oedd bywyd segurllyd yn faich annyoddefol i Mr. Charles. Ond pa beth a allai wneyd? Yr oedd eisoes wedi ei droi allan o dair o eglwysi yn y wlad, ac nid oedd yr un arall mewn golwg. Cawsai brofiad eisoes fod yr Arglwydd yn foddlawn i'w lafur, ac wedi bendithio ei ymdrechiadau. Dangosai y bobl ymlyniad mawr wrtho; a chyda dagrau y crefent arno gyfranu gair y bywyd iddynt. Teimlai orchymyn Crist, "Portha fy ŵyn," megys yn cael ei gyfeirio ato ef yn bersonol; a phryd arall teimlai yr edliwiad yn y ddammeg yn ei lawn rym, "Paham y sefi yma ar hyd y dydd yn segur?" Canfyddai eraill yn llafurio yn egniol, ac yntau yn segur; meddyliai fod y nos yn dyfod, pryd na allai neb weithio: hyn oll, a llawer o ystyriaethau chwanegol, a'i llanwai a phryder, rhag ei gael yn anffyddlawni'w Arglwydd, ac ag ymofyniad dyfal pa beth oedd ewyllys Duw mewn perthynas iddo. Dyfnhaodd yr argraffiadau hyn trwy freuddwyd a gafodd yn yr adeg hon. Breuddwydiodd fod dydd y farn wedi dyfod, a thybiai glywed dedfryd y gwas drwg a diog, "Dygwch, a rhwymwch ef draed a dwylaw, a theflwch ef i'r tywyllwch eithaf; yno y bydd wylofain a rhincian danedd." Teimlai y ddedfryd megys yn cynwys ei dynghed ei hun, ac mewn dychryn mawr efe a ddeffrôdd. Acer mai breuddwyd ydoedd, eto yr oedd gormod o gymhwysder ynddo i'w sefyllfa ef ar y pryd, i oddef iddo ei fwrw heibio yn ysgafnaidd.

"O'r diwedd," medd Mr. Jones yn hanes ei fywyd, ar ol arfer ymdrech a dysgwyliad maith, a datgan ei ewyllysgarwch i weinyddu am ddim i eglwyswyr ei gymydogaeth, cafodd ei dueddu, neu yn hytrach ei nerthu mewn ymroddiad, i ddylyn arweiniadau rhagluniaeth, a bwrw ei goelbren yn mhlith y corff o bobl a elwir yn Fethodistiaid Calfinaidd, gyda pha rai yr oedd wedi bod yn cymdeithasu yn nechre ei broffes a'i yrfa grefyddol." Gwnaeth Mr. Charles hyn yn y fl. 1785. Cafodd dderbyniad parod a charedig i blith y brodyr hyn, gan eu bod eisoes yn lled adnabyddus o'i dduwioldeb personol, ac o'i ddoniau gweinidogaethol. Nid hir y bu yn llafurio yn eu plith, na ddaeth ei ragoriaethau ysblenydd i'r golwg, ac y gwiriwyd dywediad Mr. Rowlands am dano, pan y cafodd gyfleusdra o'i wrando yn pregethu, y tro cyntaf i Charles bregethu yn Llangeitho, "Rhodd yr Arglwydd i'r Gogledd ydyw Charles."[[

Trwy ymuno â'r Methodistiaid, fe wyddai Mr. Charles yn dda mai nid dyma y ffordd i dderchafiad nac elw bydol; ond fe wyddai cystal a hyny mai dyma y ffordd i gael maes eang i lafurio ynddo, ac i gael pob rhyddid