caddugol ei wlad yn y fl. 1785, trwy sefydlu ysgolion dyddiol rhad a chylchynol. Rhoddasid iddo eisoes gyfleusderau, pan ar ei deithiau i bregethu, i ganfod pa mor isel oedd ansawdd gwybodaeth o'r ysgrythyrau yn y wlad. Trwy ymholiad pwyllog, fe gafodd allan nad oedd cymaint ag un allan o bob ugain yn medru darllen yr ysgrythyrau; ac mewn rhai cymydogaethau, nad oedd odid un dyn i'w gael a dderbyniasai un addysgiad mewn darllen. Gwelodd fod y bobl yn parhau yn anwybodus, ie, lle y gwrandawid pregethu yn gyson, tra na fedrent ddarllen y Beibl eu hunain, a thra nad oedd moddion yn cael eu defnyddio i'w hegwyddori yn ngwirioneddau'r efengyl. Poenodd hyn lawer ar ei feddwl, a dwys-fyfyriodd pa foddion a ellid gael i wrthweithio y drwg anferth a gormesol hwn. Ymgynygiodd i'w feddwl y gallai cyflogi athraw i'w symud o ardal i ardal, fod yn foddion agos, ac wrth law, ac y gallai fod yn foddion effeithiol hefyd, o leiaf i ddysgu i niferi o'r bobl ddarllen yr ysgrythyrau. Dechreuodd yn y fan ofyn cynorthwy hwn ac arall i roddi cychwyniad i'r gwaith da. Anfonodd at amryw o foneddwyr a chyfoethogion Lloegr, a gosododd yr achos gerbron y rhai hyny yn Nghymru ag oedd â modd ganddynt; ac nid aneffeithiol a fu ei gais. Ar y cyntaf, nid oedd ganddo y'nghyflog ond un athraw; ond fel y chwanegodd y cynorthwy arianol, felly y lluosogai yntau yr athrawon, nes oeddynt yn ugain o rifedi. Wrth gydnabod tanysgrifiad at yr ysgolion hyn oddiwrth foneddiges yn Lloegr, fe ddywed ef ei hun, yn y fil. 1796:
"Wrth ymdaith, er ys mwy na naw mlynedd yn ol, trwy amryw barthau o'r wlad, mi a welais fod ardaloedd helaeth yn mynydd-dir Gwynedd wedi soddi i'r anwybodaeth dyfnaf o bethau Duw; nifer y bobl a fedrent ddarllen yn fychan iawn; ac yn gyffelyb o ran Beiblau yn eu tai. Mewn dwysder, dechreuais feddwl pa fodd yr oedd yn bosibl symud aflwydd mor drwm; ac ni fedrais ddirnad am un ddyfais a allwn ei defnyddio, ond hòno o roi ysgolfeistriaid ar waith, yn ol y cynorthwyon a gawn, a'u danfon i'r lleoedd tywyll, i addysgu yn rhad bawb oll a ddeuent i'r lle, i ddarllen y Beibl yn eu hiaith eu hunain, ac i'w hyfforddi yn mhrif egwyddorion Cristionogaeth. Trwy gymhorth cyfeillion ewyllysgar, i'r rhai y datguddiaswn fy meddyliau yn yr achos, gosodwyd hyn ar droed; ac y mae wedi llwyddo tuhwnt i'm dysgwyliad: y galwad am ysgolfeistriaid a fawr-amlhaodd; ac yr oedd cyfnewidiad amlwg yn egwyddorion a moesau y bobl y buasai yr ysgolion yn eu plith. Gosodais ysgolion Sabbothol, ac ysgolion y nos, ar droed, er mwyn y rhai yr oedd eu gorchwylion a'u tlodi yn eu hattal rhag dyfod i ysgol y dydd.
"Pa ymgais bynag o'r natur hwn a wnaethom, fe lwyddodd yn rhyfedd, nes llenwi y wlad ag ysgolion o ryw fath neu gilydd; ac yr oedd pawb yn cael eu dysgu ar unwaith. Yr oedd yr effeithiau daionus yn gyfatebol; difrifwch cyffredinol yn nghylch pethau tragwyddol a gymerodd le mewn aml ardal eang; llawer o gannoedd a gawsant eu deffroi i deimlo eu pechod, a'u heisiau o Grist; y rhai y mae genyf bob sail i goelio eu bod heddyw yn ddylynwyr ffyddlawn iddo. Mae yr ysgolion eto ar droed (cychwynasid