wir dduwiol, gweddaidd, gostyngedig, ac ennillgar eu hagweddau, -heb fod yn gecrus, rhodresgar, diog, na siaradus. Cyn sefydlu ysgol mewn cymydogaeth, âi ef ei hun i'r gymydogaeth hòno; wedi ymddyddan ychydig å'r prif breswylwyr, galwai y cymydogion ynghyd, a chyfarchai hwynt, trwy osod allan y pwys annhraethol i'w plant fod wedi eu dysgu i ddarllen gair Duw, gan hysbysu iddynt ei fwriad i anfon athraw i'w mysg i addysgu eu plant, a phobl mewn oed hefyd, analluog i ddarllen, a fyddent ewyllysgar i ddyfod ato ar y Sabbothau, neu nosweithiau'r wythnos. Yna dybenai trwy annog y rhieni i anfon eu plant i'r ysgol, ac addaw rhoddi llyfrau i'r rhai a fyddent analluog i'w prynu. Nid oedd yr athraw i gymeryd dim arian ar dderbyniad plentyn i mewn; nid oedd iddo bwyso na gormesu ar neb; oddieithr ei wahodd yn benodol, nid oedd iddo fyned i dai neb i fwyta; a dysgwylid iddo, pan yr elai felly i'w tai, weddio yn y teulu nos a boreu, pa le bynag y lletyai dros nos, -tynu ymddyddan am ei orchwyl neillduol ei hunan, a pheidio ymlithro i ofer-siarad â neb, modd y gallai y teuluoedd yr ymwelai a hwynt wybod pa fodd yr oedd Cristion yn byw, a pha fodd y dylasent hwythau ymarweddu.
Rhyfeddol yr effeithiau daionus a ganlynodd yr ysgogiad hwn. Nid dysgu darllen Cymraeg oedd yr holl fuddioldeb, er mai nid peth bychan oedd fod rhai miloedd bob blwyddyn yn cyrhaedd y medr hwn o newydd: yr oedd y plant a ddysgid, gan mai Cymraeg a ddysgid iddynt, yn ennill drychfeddyliau drwy y geiriau; derbyniai galluoedd y meddwl ysgogiad o newydd; a deallai y plant y pregethau a glywent yn well, wedi ymgynefino a sŵn ac ystyr yr ymadroddion a ddefnyddid. Parai yr ychydig wybodaeth a ennillid yn y modd yma, fod hiraeth am fwy yn cael ei gyfodi; sychedai y gŵr ieuanc, bellach, am lyfrau i'w darllen; a pharai y medr i ddarllen Cymraeg awydd i ddysgu yr iaith Saesonaeg hefyd, a daeth lluaws mawr o breswylwyr Cymru, drwy yr ysgolion Cymraeg hyn, i gychwyn ar lwybr ag a'u dygodd i feddiannu graddau helaeth o wybodaeth gyffredinol, a defnyddioldeb yn eu hoes; a hefyd i feddu gwybodaeth gadwedigol o Dduw yn Nghrist.
Oddeutu tair blynedd cyn i Mr Charles ymuno gyda'r Methodistiaid, sef oddeutu dechreu y fl. 1782, yr oedd gŵr o'r enw Robert Raikes wedi ymosod ar y gwaith o roddi addysg i blant tlodion a charpiog Caerloyw, ar y Sabboth. Dyma'r pryd cyntaf y defnyddiwyd y Sabboth i roddi addysg i'r tlodion yn y wedd yma. Dechreuodd y gŵr boneddig hwn ar y gorchwyl daionus, trwy gyflogi pedair o wragedd oeddynt eisoes yn cadw ysgolion, i ddysgu cynifer o blant ag a anfonai efe iddynt, ar y Sabboth, gan addaw talu i bob un swllt am ei llafur. Buan iawn y canfyddwyd effeithiau daionus iawn yn canlyn y ddyfais hon. Dysgodd lluaws mawr o'r plant penrhydd hyny ddarllen; gwelwyd diwylliad mawr yn eu moesau, ac yn lle terfysgu y gymydogaeth trwy eu nadau a'u terfysg, fel y gwnaent gynt, dygwyd hwy i dŷ Dduw i addoli, a gosodwyd niferi o honynt ar y ffordd a fyddai yn anrhydeddus iddynt eu hunain, ac yn ddefnyddiol i eraill. Wedi rhoi prawf