Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyffro bywiog yn meddyliau dynion, i "edrych a oedd y pethau hyn felly."

Pan ystyriom hefyd fod y gelfyddyd o argraffu eto heb ei defnyddio yn y deyrnas hon, a phrin wedi ei darganfod mewn un wlad, y mae yn rhyfedd i egwyddorion Wickliff gael y fath ledaeniad; ond y mae yn rhaid addef, hefyd, fod tywyllwch ac ofergoeledd y wlad yn ddirfawr, ac mewn tywyllwch dudew o'r fath, yr oedd goleuni a roddai canwyll fechan yn peri cryn sylw a chyffro. Ond ni thorodd y wawr eto. Ymddangosasai y seren fore eisoes; ond arhôdd y tywyllwch pabaidd am gant a hanner o flynyddoedd ar ol geni Wickliff. Nid ar unwaith yr oedd y fath gaddug i gael ei chwalu: nid heb orchest y gollyngai yr offeiriaid eu gafaelion o'u helw a'u hesmwythder: nid heb lafur y diwreiddid ofergoeledd y werin: ac nid heb berygl y gellid ymosod yn erbyn awdurdodau wedi hen ymblethu â Phabyddiaeth, trwy holl deuluoedd boneddwyr y deyrnas. Eto, yr oedd y ddelw, er ei maint, i gael ei malurio: yr oedd y gareg wedi ei thori o'r mynydd, nid â llaw, wedi ei bwriadu i fod yn ddinystr i'r ddelw. Ac felly hefyd y bu. Yn yr amser hwn y daeth y gelfyddyd ardderchog o argraffu i'r golwg—tua'r amser yr oedd Luther a'i gydlafurwyr ar y cyfandir yn bwrw allan o'r wasg draethodau dirif yn erbyn rhwysg anghrist, a thwyll Pabyddiaeth. Cyrhaeddodd rhai o'i ysgrifion ef i'r wlad hon. Rhoddes hyn ail gychwyniad i'r gwaith a ddechreuwyd gan Wickliff yn Lloegr, a Huss yn Bohemia. Disgynodd fel gwynt cryf, nes enyn yn fflam oddeithiol y marwor diwygiad ag oeddynt bron wedi diffodd.

Ysgrifenodd y brenin Harri VIII, yr hwn oedd bellach ar orsedd Prydain, lyfr yn erbyn Luther a'i ysgrifeniadau; a mawr y ganmoliaeth a roddid i'r gwaith gan Babyddion y gwledydd, ie, gan y pab ei hun; a rhoddwyd iddo y teitl, "Amddiffynwr y Ffydd," yn wobr am ei lafur. Atebwyd ei lyfr gan Luther, yn ei ddull eofn, grymus, a diarbed, priodol iddo ei hun. Trwy yr holl ysgogiadau hyn, yr oedd egwyddorion y diwygwyr yn dyfod yn fwy-fwy adnabyddus, a geudeb egwyddorion y grefydd babaidd, ac anfadrwydd arferion yr offeiriaid yn dyfod yn fwy-fwy amlwg. Rhoddid mantais well, trwy yr ysgrifeniadau hyn, i drigolion y gwledydd farnu drostynt eu hunain, rhwng y gau a'r gwir. Yn yr adeg bwysig hon yr argraffwyd y Beibl yn Saesonaeg, am y tro cyntaf erioed, trwy lafur William Tindal, yr hwn, gan faint oedd y perygl o argraffu llyfrau crefyddol yn y wlad hon, a aethai trosodd i'r cyfandir, ac a anfonodd yr argraffiad, ar ei orpheniad, i Brydain. Costiodd ei lafur yn cyhoeddi y Beibl Saesonaeg i William Tindal ei fywyd; eto, fe wnaeth wasanaeth annhraethadwy i'w genedl, ac yr oedd ei ferthyrdod yn goron anrhydeddus iddo. Bu farw gan weddio, "O Arglwydd, agor lygaid brenin Lloegr."

Tua'r un amser y dechreuodd y cweryl rhwng Harri VIII a'r pab. Mynai Harri roddi ymaith ei wraig Catherine, ar gyfrif, tebygid, mai gweddw ei frawd, Harri VII, ydoedd hi. Yr oedd y pab, ar y pryd, wedi cymeradwyo y briodas: yn awr, er hyny, anfonwyd ato am awdurdod i ysgar ei wraig, ac i briodi un arall. Mawr oedd penbleth y pab ar hyn o bryd, a bu y pwnc