Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn aros heb ei benderfynu am saith mlynedd. Os rhoddai y pab ganiatâd i ysgar Catherine, tynai Charles V, amherawdwr Germani, yn ei ben, yr hwn oedd frawd iddi: os na roddai ganiatad, fe ddigiai frenin Lloegr. Beth oedd i'w wneyd? Oedwyd y penderfyniad am flynyddau, gan ddysgwyl y blinai efe y pleidiau felly allan o wynt; ond nid un felly oedd brenin Lloegr. A phan y profodd fod uchafiaeth y pab ar ei ffordd ef i gael ei amcan i ben, dechreuodd feddwl a oedd gan babau Rhufain yr awdurdod a honent fod ganddynt; ac o radd i radd, disgynwyd ar y penderfyniad, nad oedd gan y pab o Rufain ddim hawl i ymyraeth â helyntion y deyrnas hon. Cyhoeddwyd y brenin yn ben yr eglwys yn Lloegr; a gwaharddwyd i neb bwrcasu un awdurdod oddiwrth y pab, yn groes i uchel-fraint coron Lloegr.

Yn ganlynol i'r drafodaeth a fu ar yr achos, y brenin a briododd Anne Boleyn, merch i Iarll Wiltshire. Y pab yntau, pan glywodd hyn, a anfonodd ato i roi heibio Anne Boleyn, a galw y frenines yn ol; ond ni welodd Harri yn dda ufyddhau i'w santeiddrwydd yn y peth hyn. Diwedd yr ymrysonfa anhywaith hon oedd, diddymu holl awdurdod y pab yn y deyrnas hon. Eto, pabaidd oedd eglwys Loegr, a'r brenin oedd ben arni, yn lle y pab. Gan hyny, talwyd i'r brenin y blaen-ffrwythau, a'r ddegfed o'r personaethau, y rhai a anfonid cyn hyny i Rufain. Bellach, yr oedd materion crefyddol, yn gystal a gwladol, dan arolygiad y brenin a'i gynghorwyr, a'r ffordd yn rhydd i ddwyn yn mlaen unrhyw ddiwygiadau pellach, heb ymgynghori â chymanfa yr offeiriaid yn y wlad hon, ac heb gymeradwyaeth esgob Rhufain. Ac er fod y wlad yn gyffredin eto yn aros dan dywyllwch, a llyffetheiriau pabaidd, eto yr oedd amryw o uchafiaid y deyrnas, a blaenoriaid y genedl, yn teimlo angen am ddiwygiad, yn mysg y rhai yr oedd y frenines Anne Boleyn, ac amryw o'r esgobion.

Cafodd y brenin allan fod aneddwyr y mynachlogydd yn fwy gwrthwynebol i'r ysgogiadau diwygiadol hyn na neb arall, ac yn cyfodi eu llef yn fwy croch yn erbyn mesurau y brenin; am hyny, disgynodd ei anfoddlonrwydd ef arnynt hwythau hefyd. Dinystriwyd, gan hyny, trwy orchymyn y brenin, 376 o fynachlogydd, a rhoddwyd i'r brenin yr holl ardrethi a berthynai iddynt. Fel hyn fe chwalwyd, trwy foddion tost mae'n wir, ac wrth nwyd afreolaidd y brenin, luaws mawr o sefydliadau lle y nythai pob aderyn aflan, celloedd pob drygioni, a llochesau pob ffieidd-dra. Yn y modd yma y defnyddiodd Duw greadur halogedig a ffyrnig i wneyd y gwaith budr hwn. Nid dwylaw tyner, tebygid, oedd oreu i gwblhau y fath orchwyl.

Gan nad fy amcan ydyw ysgrifenu hanes y diwygiad Protestanaidd yn y wlad hon, rhaid gadael heibio nifer lawer o amgylchiadau pwysig a hynod, a chrybwyll yn unig am brif linellau yr ysgogiad, i wasanaethu fel arweiniad i mewn i'r diwygiad Methodistaidd yn Nghymru. Yr oedd Harri VIII yn ddyn hynod. Yr oedd yn babydd creulawn, eto efe a fynai ymwrthod ag awdurdod y pab; chwalai y mynachlogydd pabaidd ar y naill law, a merthyrai y Protestaniaid ar y llaw arall;—trwy y naill ddeddf, gwasgai ar sodlau yr offeiriaid pabaidd yn dost, a thrwy ddeddf arall, cyfyngai ar ryddid y diwyg-