Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/361

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

parth o'r wlad am adeiladu ac eangu y capelau; ac y mae y ffaith yn amlwg heddyw i bawb a fyn ymholi, fod yr holl gapelau a fedd y Methodistiaid heddyw drwy yr holl gyfundeb, wedi eu codi yn ystod yr hanner canrif diweddaf. Prin y mae eithriad ar gael i'r hyn a ddywedasom. Adeiladodd y Methodistiaid, gan hyny, tuag 800 o dai addoliad, a rhai o honynt yn fawrion iawn, yn ystod yr hanner can' mlynedd diweddaf; ac fe wnaed hyn oblegid yr angen a deimlid am le digonol i gynwys y cynulleidfaoedd. Daeth y cynulleidfaoedd i fod yn fwy gwastad a chyson ar ol cyfodiad yr ysgol Sabbothol. Yr oedd cynulliadau mawrion o'r blaen i ryw fanau, ac i lawer o fanau yn achlysurol, oddiar yr ymgasglu a wneid o wahanol ardaloedd i'r un lle, ar ddyfodiad rhyw ŵr o enw yno i bregethu; eithr yn awr, yr oedd llai o ymgasglu o wahanol ardaloedd i'r un fan, ond yr oedd mwy o rifedi yn ymgynull i addoli yn mhob ardal, nag a fuasai erioed o'r blaen, Felly yr oedd yr hen gapelau, y rhai oeddynt yn ddigon o faintioli ar adegau cyffredin i wrandawyr yr ardal, wedi myned bellach yn llawer rhy fychain ; ac os oedd hyn yn wir am y capelau, pa faint mwy yr oedd felly am y tai annedd, y pregethid ynddynt?

Tua'r fl. 1812 yr ysgrifenai Mr. Charles am yr olwg a gawsai ar yr ysgolion, a'u llesoldeb: —" Y mae y golygiad ar yr ysgolion Sabbothol mewn llawer iawn o fanau yn Neheubarth a Gwynedd, yn fwy llewyrchus nag y bu hyd yma. Mae ymdrechiadau yr athrawon ffyddlawn a duwiol yn cael eu coroni a'r llwyddiant a ddymunasent, sef deffroad a throedigaeth, gobeithio, cannoedd o'r plant a'r ieuenctyd dan eu haddysg. Yn fy nhaith y gwanwyn diweddaf trwy rai parthau o'r Deheubarth, yr oedd yr olwg yn hyfryd mewn amryw fanau, ac yn brawf neillduol o lafur a ffyddlondeb yr athrawon. Mewn rhai ardaloedd, yr oedd yr ieuenctyd i gyd dan addysg, a'r rhan fwyaf dan ddysgyblaeth hefyd, wedi ymuno â'r cymdeithasau neillduol yn eu cymydogaethau. Yr oeddynt dan weithrediadau cryfion iawn, ac arwyddion boddlonol o ddiwygiad yn eu bucheddau. Gwnaeth ysgol Sabbothol y Penant gasgliad o £5 5s. at gynorthwyo Cymdeithas y Beiblau, ac ysgol Blaenanerch, £3 38., o wir ddymuniad i'r paganiaid tywyll i gael y fraint oruchel o feddiannu Beiblau yn eu hamrywiol ieithoedd, o ba rai yr oeddynt hwy eu hunain yn tynu gwir ddyddanwch a bendith i'w heneidiau. Hyfryd oedd genyf weled yr hen fam eglwys yn Llangeitho fel pe buasai yn cael adnewyddu ei hieuenctyd fel yr eryr unwaith eto. Dechreuodd y diwygiad presenol yn Lledrod; oddiyno taenodd i Swydd—ffynnon, Tregaron, Llangeitho; ac yn awr, clywaf fod eglwys y Morfa, a'r ysgol Sabbothol yn eu plith, yn derbyn cawodydd hyfryd.—Yn ardaloedd y Bala hefyd, y mae ychydig ddeffroad gobeithiol wedi dechreu yn mhlith yr ieuenctyd yn yr ysgolion; ac yn Ninbych, clywais fod y cyffelyb weithrediadau ar y plant a'r ieuenctyd yn yr ysgolion Sabbothol yno."

Afreidiol ar ryw gyfrifon, fe allai, ydyw dywedyd yn y lle hwn, yr hyn, o bosibl, sydd adnabyddus i'r darllenydd eisoes; ac ar yr un pryd, fe fyddai myned heibio i'r amgylchiad heb un crybwylliad, yn ymddangos fel esgeulusdra,