Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/365

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid ydwyf yn petruso datgan, os cyll y weinidogaetb ei hawch a'i hawdurdod,—os cilia cwmwl y presenoldeb dwyfol draw, fel ag i roi ffrwyn i dueddiadau drwg y natur ddynol, mai gwell i'r dywysogaeth fod heb y cyfarfodydd hyn na'u cael; ac mai mwy diberygl a fyddai eu gollwng i lawr na'u cadw i fyny, wedi i'w bywyd a'u gogoniant golli. Pa beth bynag a ellir ei ddweyd yn awr, neu ei ddarogan yn mlaen llaw, am y cyfarfodydd dan sylw, dylem gydnabod gyda diolchgarwcb a syndod y goron anrbydeddus a osodwyd, anrnynt, a'r effeithioldeb diymwad a fu trwyddynt ar arferion y genedl, ac ar lwyddiant y cyfundeb, mewn amser a basiodd; ac fe ddylai adgofiâd o'r ardderchogrwydd a fu yn eu coroni, enyn ein gweddiau am i'r prydferthwch hwnw barhau, a bod yn wyliadwrus rhag llochi dim a fyddai yn peri i Ysbryd yr Arglwydd gilio.

PENNOD IX.

ATTALFEYDD Y CYNYDD.

CYNWTSIAD:

ERLIDIGAETH YN ETIFEDÜIAETH I EGLWYS DDUW—MWY O ERLID YN NGWYNEDD NAG YN Y DEHEUBARTH—ERLID ODDIWRTH EGLWYSWYR, DAN RITH AMDDIFFYN TREFN—GWRTHOD CYFLAWN URDDAU I WILLIAMS, PANT-Y-CELYN—CILGWTHIO HOWEL DAYIES, A PETER WILLIAMS—BWRW ALLAN DANIEL ROWLANDS— JOHN BERRIDGE A'R ESGOB—JONES, LLANGAN—CHARLES A LLOYD O'R BALA—ENLLIBIAU AR Y METHODISTIAID—ERLID HOWEL HARRIS YN MHONT-Y- POOL—YN NGHASTELL-NEWYDD, A CHAERLLEON, A MYNWY, AC YN SIR FAESYFED—DIRWYO PREGETHWYH DAN Y CONVENTICLE ACT— BWRW ALLAN O DAI A THYDDYNOD—CAMGYHUDDIADAU YN ERBYN Y METHODISTIAID— AMDDIFFYNIAD YN CAEL EI RODDI ARNYNT TRWY FODDION HYNOD.

Mae pob gwaith da yn sicr o gyfarfod â gwrtbwynebiad. Ni fu un ysgogiad o werth erioed na cbyfarfu â rbwystrau. Ie, medd Mab Duw, "Angenrhaid yw dyfod rhwystrau." Mae holl hanes eglwys Dduw yn profi y gosodiad. Mae gelyniaeth gwreiddiol, greddfol, ac anghymodol, rhwng y sarff a'r wraig, a rhwng y ddau had â'u gilydd. Nid yw Crist yn awr yn meddiannu dim tir yn ein byd ni, ond a ennillodd. Trwy ysigo pen y sarff, y mae yn wastad yn cael y fuddugoliaetb ; ac mor wir â'i fod ef yn ysigo pen y sarff, y mae y sarff hithau yn ysigo ei sawdl yntau. Er dyddiau Adda, y mae Abel gyfiawn yn dyoddef ar law Cain waedlyd. "Pa un o'r proffwydi ni ddarfu i'ch tadau chwi ei erlid?" Act. vii, 52. Rhaid i'r duwiol wrthwynebu yn fynych hyd ai waed. Caent brofedigaeth gynt trwy "watwar a fflangellau, ie, trwy rwymau hefyd, a charchar. Hwyntbwy a labyddiwyd, a dorwyd â llif, a demtiwyd, a laddwyd yn feirw â'r cleddyf." Ac er nad oedd y byd yn deilwng o honynt, eto bu gorfod arnynt grwydro "mewn crwyn defaid a chrwyn geifr; yn ddiddym, yn gystuddiol, yn ddrwg eu cyflwr; yn crwydro mewn anialwch, a mynyddoedd, a thyllau, ac ogofeydd y ddaear." Heb. xi, 36—38.

Fel bu i'r profffwydi gynt, felly y bu i'r apostolion diweddar. Rhwymau a blinderau oedd yn eu haros yn mhob dinas. Yr oedd mawr a bach,