Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyr;—ymddangosai un diwrnod yn babydd cryf, a'r diwrnod arall yn ddiwygiwr anhyblyg;—yn yr un flwyddyn ag y llosgid John Lambert trwy ei orchymyn, am wrthwynebu Pabyddiaeth, yr esgymunid yntau ei hun gan y pab, am bleidio y diwygiad. Yn y flwyddyn 1540, rhoddwyd tri phrotestant i farwolaeth, am wrthwynebu Pabyddiaeth; a thri phabydd, am wrthwynebu y brenin, trwy wadu ei fod yn ben yr eglwys. Ar y naill law, cyhoeddai ddeddf y chwech erthygl, deddf babaidd a chreulawn; ac ar y llaw arall, gorchymynai argraffu y Beibl, a rhoddai ganiatâd i'r werin ei ddarllen yn ddiarswyd, a gosod un yn mhob eglwys, fel y byddai yn nghyrhaedd y bobl gyffredin. Ag un llaw yr adeiladai Babyddiaeth, ac â'r llaw arall y tynai hi i lawr. Y cyfryw oedd Harri VIII,

Ond nid oedd eto lyfr yn Gymraeg. Bu farw Harri VIII, a daeth ei fab, Edward VI, yn naw mlwydd oed i'r orsedd, fel yr etifedd. Dewiswyd duc Somerset yn amddiffynwr, neu yn noddwr y deyrnas, tra y byddai y brenin dan oed. Yr oedd y gŵr hwn yn ddiwygiwr dirgelaidd; ac wedi cael y prif awdurdod, efe a ddangosodd pa beth ydoedd. Mynodd ymweliad cyffredinol â'r holl eglwysi trwy Loegr a Chymru. Dewiswyd gwŷr addas at hyn, a rhoddwyd gorchymyn iddynt garthu allan lawer o arferion pabaidd; edrych ar fod Beibl yn mhob llan; i roddi y gwin gyda'r bara yn y cymun; i annog y bobl i gadw y Sabboth yn santaidd; ac i fod yn helaethion mewn gweithredoedd da.

Tua'r pryd hyn yr ymddangosodd William Salsbury. Ganwyd y gŵr enwog hwn yn y Plas-isaf, yn agos i Lanrwst, tua dechre y ganrif unfed-arbymtheg. Aeth yn gyntaf i Rydychain, a thrachefn i Lundain; ac ar ei ddychweliad i Gymru, aeth i gyfaneddu yn y Cae-du, Llansanan, Sir Ddinbych.

Cyfoedol â hwn oedd y Dr. Davies, esgob Ty Ddewi. Gwr o Sir Ddinbych oedd hwn hefyd, a chynorthwyodd William Salsbury yn nghyfieithiad y Testament Newydd. Yr oedd ychydig o wyr[1] yn cydoesi â'r gwyr uchod yn Nghymru, y rhai a eiddigeddent dros wir lesâd y werin, y rhai oeddynt, hyd yma, yn Babyddion penboeth. Nid ydwyf yn cael hanes, fod ar ddechre y diwygiad Protestanaidd, nemawr neb yn Nghymru yn blaenori ynddo, heblaw y gwŷr a enwyd, yn nghydag un Thomas Huet, periglor yn Sir Faesyfed.

Gallwn gael dychymyg am anwybodaeth dudew y wlad oll yn y ganrif hon, sef yr 16eg, wrth graffu ar natur yr holiad neu yr ymchwiliad a orchymynodd esgob Hooper ei wneyd ar offeiriaid ei esgobaeth, sef,—1. Am y gorchymynion, pa nifer sydd, pa le y maent i'w cael, a pha un a allent eu hadrodd. 2. Am gredo y Cristion,—pa sawl erthygl sydd ynddo, a allent eu hadrodd o gof, a'u cadarnhau ag ysgrythyrau. 3. Am weddi yr Arglwydd,—a allent adrodd pob deisyfiad ynddi, pa fodd y gwyddent mai gweddi

  1. Enwir Syr William Herbert, a Iarll Penfro, fel cydlafurwyr William Salsbury. Yr un gŵr oedd Iarll Penfro a Syr John Prys.