rhan i, nid af byth o fewn i'w muriau mwy; os mynwch chwi, hi gaiff fod yn lletty dylluanod. Mae y bobl yn barod i ddyfod gyda fi.'
"Tystiai yr hen ŵr ei fod ef yn bresenol ar y pryd, yn gweled ac yn clywed hyn oll, ac mai yn y modd a ddarluniwyd y bu yr amgylchiad. Ac fe ŵyr pawb sydd mewn oedran i gofio hefyd, mai yn gwbl anghyfanedd ymron y bu y rhan fwyaf o'r llanau, yn y cymydogaethau hyn, am amser maith, ar ol troad Mr. Rowlands allan."
Mewn canlyniad i'r weithred hon, codwyd addoldy arall iddo, o faintioli helaeth, yn Llangeitho, lle y bu yn gweinidogaethu gan mwyaf o hyny hyd ei farwolaeth, am ysbaid, medd Mr. Owen, o 27 o flynyddau, a hyny gyda llwyddiant hynod iawn. Cydnabyddir gan y Parch. Edward Morgan, yr hwn hefyd a ysgrifenodd hanes bywyd Rowlands, "mai y weithred fwyaf wallgof ysgeler oedd ei droad of allan, a'r un a roddes yr archoll dyfnaf o'r un erioed i'r eglwys wladol yn Nghymru." Hysbysa yr un gŵr parchedig fod y Parch. Howel Davies, am yr hwn y soniasom eisoes, wedi datgan ar gyhoedd yn nghapel Llangeitho, ei fod wedi clywed gan ŵr geirwir, mai blin a fu y weithred i'r esgob a'i troes ef allan, ar ol hyny; ei fod mewn ing meddwl o herwydd hyny ar ei glaf-wely, ac iddo ddolefain, "Ymdrechais yr ymdrech, gorphenais fy ngyrfa, ond collais fy enaid, ac yr wyf, bellach, yn andwyol!" Bu farw, medd yr hanes, mewn dull arswydus gan gnofeydd cydwybod, o herwydd y weithred arswydus hon.
Ond nid attaliodd yr amgylchiad hwn fymryn ar gynydd Methodistiaeth ; yn hytrach, rhoes ysgogiad mwy grymus iddo yn mlaen. Parodd, medd yr hanes, radd o iselder, dros ryw dymhor, yn amgylchiadau bydol Rowlands. Yr oedd ganddo deulu i'w cynal, ac nid oedd ganddo tuag at eu cynaliaeth ond y weinidogaeth. Os gwir a ddywedir am ei gyflog blaenorol yn y llan, nid oedd raid fod y golled a dderbyniai yn effeithio rhyw lawer arno, gan na dderbyniai, gan ei frawd, ond £10 yn y flwyddyn, am wasanaethu yr eglwysi drosto. Pa fodd bynag, honir mai isel oedd ei amgylchiadau, a dygir yr amgylchiad canlynol i brofi hyny. Pan oedd unwaith yn myned o Langeitho i Landdowror i ymweled â'r Parch. Griffith Jones, yr hon oedd daith faith, nid oedd ganddo ond teisen yn ei logell, yr hon a fwytäai efe ar hyd y ffordd, gan yfed dwfr o'r ffynnon i'w ddisychedu. Prin yr wyf yn meddwl fod yr amgylchiad hwn yn brawf teg o dylodi ei sefyllfa; fe ddichon fod rhyw amgylchiadau eraill yn tueddu Rowlands i ddewis y dull hwnw o deithio ar y pryd. Eto, y mae yn ddigon hysbys na fu Daniel Rowlands erioed yn gyfoethog, ac nid oes sail i feddwl fod casglu cyfoeth yn un amcan yn ei olwg. Yr oedd Methodistiaeth y pryd hwnw, mewn cydmhariaeth i'r hyn ydyw yn awr, yn wanaidd ; nid oedd y rhan fwyaf o lawer o'r dysgyblion ond tlodion; ac wrth efengylu ar hyd y wlad, y mae yn ddilys y cyfarfyddai y pregethwyr cyntaf a chroesawiad tra chanolig. Ni fyddai y tai y disgynent ynddynt ond gwaelion gan amlaf, yr arlwy ond gwladaidd iawn, a'r tâl arianol a dderbynid yn gyffredin, ond bychan a phrin.
Er hyny, teg ydyw dyweyd yma, fod lle i feddwl fod Rowlands yn