Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr Arglwydd ydoedd, a pha le y mae ar gael! Gorchest fawr, y pryd hyny, oedd cael offeiriaid yn medru y deg gorchymyn; a llai fyth a fedrai brofi erthyglau ffydd o'r Beibl. Ie, cryn gamp, tebygid, oedd medru gweddi yr Arglwydd yn yr iaith gyffredin!

Mae hanes Cymru yn y canrifoedd tywyll hyn, yr un a hanes Lloegr. Yr oedd y ddwy dalaeth danʼddylanwad yr un awdurdodau crefyddol. Yr oedd yr ymrysonfa fawr yn berwi fwyaf yn Llundain, rhwng y brenin a'i lys, ag esgobion pob rhan o'r wlad. Ymddangosai crefydd yn fwy fel pwnc o gyfraith, ac yn nwylaw llywodraethwyr, nag fel gwirionedd dwyfol yn effeithio ar galonau pechaduriaid. Pa oleuni personol a feddai neb o'r offeiriaid yn ngwahanol barthau y wlad, a pha faint bynag a lafuriai neb o honynt mewn cylch bychan priodol iddo ei hun, nid oes wybod. Nid yw hanesiaeth wedi treiddio i gylchoedd bychain, a chelloedd neillduedig; ac fe ddichon hefyd, nad oedd dim i'w groniclo, ond a ymddangosodd ar gyhoedd. Mewn tymhor mor dywyll, gwelid pob gradd o oleuni, er lleied fyddai, a gosodid hynodrwydd cyhoeddus arno, ond odid, gan y cyffro a barai, a'r gwrthwynebiad a ddangosid iddo. Oherwydd hyny, mi dybiwn mai nid diffyg hanesiaeth ydyw y dystawrwydd, ond diffyg defnydd hanesiaeth. Nid oedd amgylchiadau ar gael yn werth i'w croniclo. "Eisteddai y bobl mewn tywyllwch, yn mro a chysgod angau. Y pen oll oedd yn glwyfus, a'r holl galon yn llesg." Nid oedd gwybodaeth o Dduw yn y wlad.

Diamheu y bu cyfieithiad William Salsbury o'r Testament Newydd, ac argraffiad o'r Beibl yn Saesonaeg, a'i osod yn y llanau plwyfol, yn foddion i effeithio graddau ar Gymru; a gallwn feddwl fod argraffiad o'r holl Feibl yn Gymraeg, o gyfieithiad Dr. Morgan, wedi effeithio yn fwy fyth. Daeth hwn allan yn y fl. 1588. Gosodasid ar bedwar esgob Cymru, ac esgob Henffordd, trwy ddeddfiad y senedd, i barotoi cyfieithiad o'r Beibl i'r Gymraeg, yn y fl. 1563; ond fe oedwyd hyn, fel y gwelwn, hyd y fl. 1588, er fod y ddeddf yn gaeth, a bod yn rhaid iddo fod yn barod erbyn y fl. 1566, dan ddirwy o ddeugain punt bob un. Fel achos o'r esgeulusdra hwn, dywed Dr. Morgan, mai "seguryd a diogi" ydoedd. Fe ddichon hefyd, nad oedd y syniad pabaidd ddim wedi marw eto, mai afraid i'r werin bobl oedd cael y Beibl; a dywedir hefyd, fod dyben yn yr oediad hwn, i gael gan y bobl ymarferyd â'r Beibl yn Saesonaeg, a thrwy hyny fwrw yr hen iaith gynhenid i ebargofiant. Teilwng hefyd ydyw sylwi, mai nid mewn canlyniad i ddeddf y senedd y cafodd y Cymry y Beibl yn eu hiaith eu hunain; ond gwaith y Dr. Morgan ydoedd o'i fryd aiddgar ei hunan; a buasem, fel yr ymddengys, hyd heddyw heb Feibl Cymraeg, o ran y llywodraethwyr gwladol. Nid hwn yw yr amgylchiad cyntaf i'r egwyddor wirfoddol wneuthur mwy o blaid lles ysbrydol dynion, na deddfwyr gwladol. Ganwyd y gŵr clodwiw hwn yn Ewybrnant, Penmachno, Sir Gaernarfon. Ficer Llanrhaiadr yn Mochnant oedd pan y cyfieithai y Beibl. Cymaint oedd gafael Pabyddiaeth y pryd hyny ar y bobl, fel ag y gwysiwyd y doctor o flaen yr archesgob Whitgift, i ateb drosto ei hun am y gwaith hwn! Ond fe siomwyd y gelyn yn hyn; oblegid trwy yr