Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amgylchiad hwn y daeth ein gwladwr i gydnabyddiaeth yr archesgob, yr hwn, wedi canfod ei ddysg a'i fedrusrwydd, a deall ei amcan, a'i hanogodd i fyned rhagddo, ac a fu o gynorthwy iddo i ddwyn allan argraffiad o'r holl Feibl.

Bu farw Harri VIII, Ionawr 28, 1547. Pabydd ac erlidiwr ydoedd hyd ei ddiwedd. Nid gweithred o ymostyngiad i'r gwirionedd oedd diddymu awdurdod y pab yn y wlad hon. Safai y pab ar y ffordd i Harri gael ei ewyllys, a symudwyd ef o'r neilldu. Awdurdod a chyfoeth oedd eilun y brenin, ac ar eu hallorau yr aberthwyd ganddo lawer aberth gwaedlyd. Swm y diwygiad a ddygwyd yn mlaen yn nyddiau y brenin anhawddgar hwn ydoedd, mewn byr eiriau, yr hyn a ganlyn:—Llwyr ddiddymwyd awdurdod y pab yn y wlad hon Tynwyd i lawr y mynachlogydd, a sefydliadau cyffelyb, nid llai na thair mil, o gwbl, mewn rhifedi. Cyfieithwyd ac argraffwyd yr ysgrythyrau; gosodwyd hwy yn y llanau; ac am rai blynyddau, rhoddwyd rhydd-ganiatad i'r werin eu darllen a'u perchenogi. Darostyngwyd ofergoelion anferth, a rhoddwyd gwyneb, mewn rhan, yn erbyn addoliad creadur. Cyfieithwyd rhai gweddiau o'r Lladin i'r Saesonaeg, a phregethwyd yr efengyl mewn ychydig o blwyfau. Eto, athrawiaeth babaidd a ddysgid gan y clerigwyr; ac hyd yn hyn, nid oedd y bobl gyffredin yn gogwyddo at y grefydd ddiwygiedig, gan ei bod mor ddiaddurn, ac yn ymddyosg mor llwyr oddiwrth bob rhwysg a gwychder, ac yn galw ar ddynion i gofleidio gwirioneddau tra diflas gan galonau beilchion a hunanol plant dynion. Ymadawodd y pab o Loegr, ond arosodd Pabyddiaeth.

Ar farwolaeth Harri VIII, daeth ei fab Edward VI, fel y dywedwyd, i'r orsedd, pan nad oedd ond naw mlwydd oed." Ac wedi cael eu dwylaw yn rhyddion, ymroes Cranmer a'i gyfeillion yn egniol i berffeithio y diwygiad a ddechreuasid. Yr oedd calon y brenin ieuanc o'u plaid, a rhai cyfnewidiadau pwysig a ddygwyd i mewn yn y flwyddyn gyntaf o'i deyrnasiad. Trwy orchymyn y llywodraeth, ymwelwyd ag esgobaethau y deyrnas. Gorchymynwyd traddodi pregeth, o leiaf unwaith bob chwarter blwyddyn, yn mhob llan; fod annog i weithredoedd o ffydd, trugaredd, a chariad, a gwarafun pob defodau yn codi oddiar ddychymygion dynol, megys crwydro ar bererindodau, offrymu arian, a chanwyllau i greiriau a delwau, na'u cusanu, cyfrif paderau, a'r cyffelyb. Gorchymynwyd dyfetha y delwau a barai i'r bobl offrymu ac arogldarthu iddynt; rhaid oedd i'r clerigwyr ymofyn am Destament Newydd yn Lladin a Saesonaeg, ac alleiriad Erasmus arno, bob un iddo ei hun, o fewn tri mis; a rhaid hefyd oedd iddynt ddarllen yn y llanau un o'r homiliau a ddarparesid iddynt, ar bob Sabboth. Galwyd yn ol ddeddf y chwech erthygl —deddf a barasai lawer brad, ac a osodasai lawer bywyd mewn eithaf enbydrwydd. Caniatawyd i'r bobl y gwin gyda'r bara yn y cymun. Yn y fl. 1548, symudwyd yr holl ddelwau allan o'r llanau: taflwyd allan o'r gwasanaeth crefyddol y rhanau Lladinaidd o hono, a diwygiwyd y Llyfr Gweddi Cyffredin, trwy dynu oddiwrtho, neu chwanegu ato, fel y byddai yr angen, modd y cymhwysid ef yn fwy i arwain a dysgu y bobl i addoli. Yr oedd i'r bobl lyfr yn eu hiaith, bellach: nid offeiriaid oedd y cwbl yn yr addoliad. Can-