Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/404

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i olygu rhyw ddosbarth neillduol, neu i gynorthwyo y golygwyr. Acer mai George Whitfield a ddewiswyd yn gymedrolwr gan y gymdeithasfa (y gyntaf, mae'n debyg) a gynaliwyd yn Watford, yn swydd Morganwg, a Howel Harris i gymeryd ei le yn ei absenoldeb; eto Harris oedd y cymedrolwr gwirioneddol, gan na allai Whitfield, o herwydd amgylchiadau, fod yn gymedrolwr oddieithr mewn enw yn unig. Anhawdd iawn, gan hyny, ydoedd i ŵr o ysbryd tanbaid ac anhyblyg Harris, yn yr amgylchiadau yr oedd ef ynddynt yn mysg ei gyd-lafurwyr, oddef yn ddiddig ei wrthwynebu ganddynt; a methu dyoddef a wnaeth. Chwerwodd ysbrydoedd y cyfeillion hyn, yn ddiau, tuag at eu gilydd, a phellhasant y naill oddiwrth y llall i'r fath radd, nes i'r cweryl addfedu i ymraniad cyhoeddus.

Mewn cymanfa fechan yn Llanidloes, yn y fl. 1751, y dywedir i'r ymraniad ddyfod i hollol benderfyniad: o hyny allan, aeth y bobl yn ddwy blaid, dan yr enw pobl Mr. Rowlands, a phobl Mr. Harris. Dylynwyd yr ymraniad hwn ag effeithiau galarus iawn trwy holl Gymru. Aeth y pleidiau i ymddadleu ac i ymryson â'u gilydd, hyd nes y drylliwyd y cymdeithasau bychain ar hyd y wlad yn chwilfriw, ac yr aeth crefydd i wedd isel a diflanedig mewn llawer o ardaloedd lle y buasai arwyddion tra gobeithiol unwaith. "Clywais lawer o'r hen bobl (meddai Mr. Charles) yn siarad yn alarus am effeithiau niweidiol a dychrynllyd yr ymraniad hwn: bu amseroedd meithion ar ol hyn, deg neu bymtheg mlynedd, heb ddim diwygiad neillduol yn un parth o'r wlad, ac achos crefydd yn isel a gwywedig iawn." Gellid ofni, gan mor alaethus yr effeithiodd yr ymraniad ar yr achos yn ei fabandod a'i wendid, y dygwyddasai iddo fel y gwnaethai gynt i'r diwygiad a gychwynasid gan' mlynedd yn ol, trwy weinidogaeth Mr. Wroth a'i ddylynwyr. Ymrafaelion, yn anad dim, a arafodd gamrau hwnw, a bygythid y diwygiad Methodistaidd yr un modd. Gan na ellid ei lethu trwy drais a gorthrech, nid oedd ond ceisio ei wenwyno trwy anghydfod ac ymraniad; a sicr ydyw i'r ymraniad fod yn ganwaith mwy dinystriol a difaol i grefydd yn Nghymru, nag a fuasai yr holl erlid blaenorol. Gellid dweyd fod y wlad o flaen yr ymraniad fel gardd Paradwys mewn cydmhariaeth, ond ar ei ol fel diffeithwch anghyfaneddol.

Effeithiodd yr ymraniad hwn yn niweidiol ar Harris ei hun; o leiaf, fe'i harweiniodd i gylch llawer cyfyngach ei ddefnyddioldeb, ond amlach o lawer ei brofedigaethau. Ciliodd Harris yn fuan ar ol yr ymraniad i'w dŷ ei hun, lle y pregethai gan amlaf ddwy waith neu dair yn y dydd i'r rhai a ddeuent i wrando arno. Fe gymerodd rai teithiau ar ol hyn yn ystod y blynyddoedd cyntaf ar ol ei ymneillduad; eto cyfyngodd ei weinidogaeth gan mwyaf, yn gyntaf, yn ei dŷ priodol ei hun, a thrachefn mewn adeilad a godasid i'r perwyl.

Yn Ebrill, 1752, y gosododd sail yr adeilad hòno, a gwnaeth hyny, medd yr hanes, pryd nad oedd ganddo na chyfeillion nac arian. Yr oedd wedi cael rhyw dystiolaeth, yn ol fel y barnai ef ei hun, er ys rhai blynyddau yn ol, y rhoddid iddo gael adeiladu tŷ i Dduw; ac ymosododd ar y gorchwyl