Rhoddid yn erbyn Mr. Harris y bai o'u hudo yno, ac o'u hysbeilio ou meddiannau wedi dyfod yno. Taenwyd y chwedlau hyn ar hyd y gwledydd, a duwyd cymeriad Mr. Harris fel un a driniai ei deulu yn galed a gormesol. Nid yw yn ymddangos, pa fodd bynag, fod y gwr da hwn wedi gwneuthur twyll bwriadol â neb, nac wedi arfer moddion i lithio neb ato, a llawer llai i hudo benywod i'r teulu i ddybenion ffiaidd a halogedig. Pa amryfusedd bynag a fu, ymddengys iddo godi yn fwy oddiar gamsyniad nag oddiar fwriad drwg, oddiar annoethineb nag oddiar dwyll. Ymddengys na elwodd Harris ddim oddiar y sefydliad; gwariodd, o debyg, gymaint, os nad llawer mwy nag a dderbyniodd. A chan nad oedd yn arfer dim twyll i ddenu rhai 'ato, ond yn unig yn derbyn y rhai a ddeuent yn wirfoddol; a chan nad oedd ganddo awdurdod i'w cadw yno ddim yn hwy nag y dewisent eu hunain, gellir dadleu mai nid ei fai ef oedd eu dyfodiad na'u harosiad yno: os bai hefyd, mai wrth eu drysau hwy eu hunain yr oedd yn gorwedd. Peth arall ydyw doethineb a buddioldeb y fath sefydliad, a pheth arall ydoedd y dull a'r modd y llywodraethid ef. Nid oedd a wnelai y Methodistiaid fel y cyfryw â'r sefydliad, o'i ddechreu; mewn enciliad oddiwrth y Methodistiaid y bu yr achlysur o'i gyfodi; gan hyny, ni pherthyn yn briodol i hanes y Methodistiaid olrhain dim ar hanes Mr. Harris yn mhellach na'i ymneillduad oddiwrthynt. Tybygwn, er hyny, mai teg ydyw dadgan na fu dim a wnelai y Methodistiaid â'r sefydliad, boed dda boed ddrwg: os da ydoedd, ni pherthynai y clod iddynt hwy; ond os drwg, nid wrth eu drysau hwy yr oedd y bai. Teg hefyd, tybygem, o gyfiawnder â choffadwriaeth Mr. Harris ydyw dadgan y syniad, nad yw yn ymddangos iddo yn yr amryfusedd hwn fwriadu na thwyllo na gorthrymu neb; ond ei fod wedi rhoddi argraff dwfn ar feddyliau y rhai a wyddent fwyaf am dano, mai dyn gonest a duwiol ydoedd. Nid oes amheuaeth nad oedd yn perthyn iddo lawer o gryfder meddwl, a llymder ysbryd; ie, mai hyn a'i harweiniodd i gilio oddiwrth ei frodyr. Ni fynai ei wrthwynebu, am y credai ei fod yn ei le; ond yr oedd yn anghofio, ond odid, y tybiai y blaid wrthwyneb iddo, eu bod hwythau yn eu lle hefyd; ac i'r graddau yr oedd y ddwy ochr yn dal gafael yn uniondeb eu hachos, i'r graddau hyny yr oeddynt yn rhwym i ymbellhau oddiwrth eu gilydd.
Y cwbl a dybiem yn angenrheidiol i ni ei chwanegu o hanes y gŵr hynod hwn ar ol yr enciliad, a ddywedir bellach mewn ychydig o le. Yn y fl. 1759, ysgrifenai Mr. Harris fel hyn:—" Er dechreuad y gwaith yn Nhrefeca, ni a gladdasom ddeugain o bobl, ac y mae eto yn nghylch yr un rhifedi yn y teulu, ac yn nghylch deg-ar-hugain eraill mewn ffermydd yn y gymydogaeth yn perthyn iddo. Yr wyf yn gobeithio i'r gair gael ei bregethu yma gydag awdurdod a nerth, dair gwaith bob dydd, a phedair gwaith bob Sul, dros saith mlynedd. Diau y gallaf ddywedyd mai gwaith yr Arglwydd yw hwn, canys gwelodd yn dda ei arddel hyd yma, trwy anfon a chadw pobl yma, a thrwy roddi i minau ysbryd ffydd i sefyll yn erbyn fy mhechodau fy hun a'r eiddo eraill, trwy lawer o rwystrau caled:— efe a'n hanrhydeddodd ni, trwy