fel dynion eraill, syrthiasant i lwfrdra a digalondid. Aent o'r naill eithafion i'r llall. Yr oedd eu parch i'w brodyr unwaith yn terfynu ar addoliad, a mynai Duw iddynt ddysgu "peidio a'r dyn;" bellach, yr oedd eu gafael yn y frawdoliaeth yn rhy fychan, fel ag i oeri eu hawyddfryd am ei mwynhau.
Yr oedd Mr. Harris wedi teithio mwy mewn Gogledd a De nag a wnaethai Mr. Rowlands. Yr oedd hefyd wedi bod yn foddion nodedig yn llaw Duw i ddeffroi lluaws mawr o grefyddwyr yr oes hòno. Efe, yn anad neb, oedd tad y gymdeithas eglwysig, ac a fu yn foddion i blanu cannoedd o honynt. Yr oedd Gwynedd, gan hyny, yn neillduol yn ei hymlyniad wrtho. Barnent yr achos, o bosibl, wrth a wyddent am y pleidiau, ac nid wrth a wyddent am destyn y ddadl. Ychydig o sefyll oedd gan neb dros neu yn erbyn y pwnc mewn dadl; ond safent dros neu yn erbyn y gwŷr eu hunain. Naturiol ydyw casglu y byddai, dan y fath amgylchiadau, lawer o bleidwyr gan Mr. Harris yn y Deau, ond mwy fyth yn y Gogledd. Ar yr un pryd, yr oedd y gwŷr mwyaf eu dawn a'u dylanwad, y rhai y gellid dysgwyl eu bod yn adnabod gwir deilyngdod yr achos mewn dadl, a gwir ffynnonell yr anghydfod, yn tueddu yn fwy i'r ochr arall. Fel hyn yr oedd prif weinidogion y Deheubarth yn sefyll gyda Mr. Rowlands; a hwynthwy oeddynt, ar y pryd, y rhai mwyaf eu llafur a'u defnyddioldeb o bawb. Felly y canlyniad fu i bleidwyr Harris, ar ol colli Harris ei hun, a cholli swcr a gweinidogaeth effeithiol y pregethwyr ag oeddynt yn aros gyda Rowlands, lwfrhau, ac i'r eglwysi mân wanychu. Wedi eu hamddifadu o'r moddion ag yr oeddynt eisoes wedi cael cymaint o fwynhad ynddynt, penderfynodd rhai fyned i Drefeca; ac yno yr aethant, rhai dros dymhor, ac eraill dros eu hoes. Gwanychodd hyn yr eglwysi bychain ar hyd y wlad, i'r un graddau ag y llwythid y sefydliad yn Nhrefeca â gormod nifer.
Yn y cyfamser, yr oedd y weinidogaeth yn Llangeitho yn effeithiol ac ardderchog. Parai hyn sugn anghyffredin i ddwyn yno, yn awr ac eilwaith, niferi o wŷr a gwragedd a garent yr efengyl, o bob cwr o'r wlad; a dychwelent i'w cartrefi, gan son mewn syndod a llawenydd am y pethau rhyfedd a welsent, ac a glywsent, ac a brofasent yn Llangeitho. Ar yr un pryd, yr oedd chwedlau yn cael eu lledaenu am Harris, y rhai a dueddent i gryfhau y rhagfarn mawr a allasai fod gan bleidwyr Mr. Rowlands iddo, ac i wanychu dwylaw ei ddylynwyr ei hunan. Cyhuddid ef o lithio meibion a merched o'u gwlad, ac oddiwrth eu teuluoedd, ac o'u hysbeilio o'u meddiannau. Achwynid arno yn dost gan y bwrdd a gadwai, a'r ddysgyblaeth a roddai yno ar ei ddysgyblion; dywedid fod yr ymborth yn wael, a'r gosodiadau yn erwin. Dychwelai rhai oddiyno wedi eu mawr siomi, ac nid rhyfedd, oblegid aethent yno gyda dysgwyliad rhy ehud, a rhai, fe allai, gyda dybenion annghywir, mewn canlyniad i'r hyn y dychwelent yn ol gyda theimladau tra siomedig. Codi gelyniaeth cryf yn erbyn Harris mewn rhai teuluoedd a fuasai unwaith yn lled bleidiol iddo, am i rai aelodau o'r teuluoedd hyny fynu myned i Drefeca yn waethaf eu perthynasau, a cholledu eu perthynasau trwy offrymu eu meddiannau at gynal y sefydliad yno. Gosodid hyn yn