Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/429

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

heibio, yr oedd doniau ac addysgiadau y pulpud wedi amlhau yn ddirfawr; ond nid felly lênyddiaeth y genedl. Yr oedd llyfrau da a buddiol yn brinion iawn, ïe, yr oedd yr ysgrythyrau santaidd yn anaml iawn. Yr oedd pob dyn tyner ei galon, a chraff ei sylw, yn canfod y gwall hwn, ac yn gofidio o'i blegid. Ond yr oedd cryn anhawsder ar ffordd y dyn a fynai ddiwallu yr anghen, a'r anturiaeth gysylltiedig â'i ddiwallu yn ddirfawr. Rhaid oedd i'r neb a ymgymerai â'r gorchwyl, fod yn meddu ar lawer o wroldeb meddwl, ac ymroddiad penderfynol, yn ogystal a medrusrwydd a dysg. Nid llawer o'r cyfryw oedd i'w cael yn mysg y Methodistiaid cyn y fi. 1770: y mae yn amheus a oedd neb yn medau ar y cymhwysderau priodol, ar y pryd, ond y Parch. P. Williams. Pa un bynag, efe oedd y gŵr a ymosododd at y gorchwyl. Cyhoeddodd argraffiad pedwar-plyg o'r Beibl, gyda nodau cyferriol ar ymyl y dail, a sylwadau eglurhaol ac addysgiadol ar ol pob pennod. Ni fu yr un argraffiad o'r Beibl yn Gymraeg erioed o'i fath. Y cais cyntaf ydoedd yn Gymraeg at eglurhau yr ysgrythyr yn y modd hwn. Cyfarfu â chroesawiad parod a helaeth gan y genedl. Cyhoeddwyd tri argraffiad o hono yn oes yr awdwr, neu yn agos felly, gan i angau ei ddal cyn bod y trydydd argraffiad wedi ei gwbl orphen. Yn y tri argraffiad hyn o'r Beibl santaidd, fe chwanegwyd nifer y copiau o hono yn mhlith y Cymry, fwy na deunaw mil.

Yn mhen tair blynedd ar ol yr argraffiad cyntaf o'r Beibl, cyhoeddodd yr un gŵr "Fynegeir Ysgrythyrol" (Concordance) yn Gymraeg. "Gwaith defnyddiol iawn i'r Cymry," medd Mr. Charles am hwn, "ag oedd o'r blaen heb un cyhoeddiad o'r fath i'w gael yn gyffredin-trueni fod un teulu hebddo." Yr oedd hwn hefyd yn gyntaf o'i ryw yn yr iaith, ac am hyny yr oedd y gwaith o'i gyfansoddi yn fwy gorchestol, ac yn gofyn meddwl mwy penderfynol. Ond yn nghanol y llafur dirfawr hwn, a thra yr oedd defnyddioldeb y gŵr duwiol yn ei uchafiaeth mwyaf, ymddangosodd cwmwl bychan ar ei awyr, yr hwn oedd yn darogan ystorm ar godi. Ymddangosodd rhai ymadroddion yn y sylwiad ar y bennod gyntaf o efengyl Ioan yn neillduol, a barent anniddigrwydd ac anfoddlondeb. Nid yn ebrwydd y craffwyd ar yr ymadroddion amheus, ac nid oedd ynddynt ddim a allai dynu nemawr o sylw y darllenydd cyffredin. Eto, parodd y sylwadau hyn, ar athrawiaeth y Drindod, anfoddlonrwydd i lawer, a chynhyrfodd ddadleuon ac ymrysonau.

Yn mhen tua saith mlynedd ar ol y "Mynegeir," cyhoeddodd argraffiad newydd o'r Beibl, mewn plyg llai, cymhwys i'r llogell. Yr oedd llythyren hwn yn fân, a nodau cyfeiriol John Canne ar ymyl y dail, a nodiadau byrion o'r eiddo ei hun ar eu godrau. Wedi argraffu hwn, dwyshaodd ei drallod yn fawr. Yn y Beibl hwn yr oedd wedi amrywio oddiwrth y cyfieithiad awdurdodedig, gan feddwl yn ddiau ei wella a'i berffeithio, ond fe wnaeth hyn o hono ei hun, ac heb un cyd-ymgynghoriad â'i frodyr crefyddol. Chwanegodd hyn, yn ddiamheuol, yr anfoddlonrwydd a gynyrchasid eisoes trwy ei syniadau ar y Drindod. Ymddangosodd gradd o'r un syniadau yn y Beibl bychan, heblaw y newidiad a wnaed yn y cyfieithiad. Fe ddywedir i ni gan ei