Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/430

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gofiantydd,[1] fod y Methodistiaid wedi addaw iddo bob cynorthwy tuag at ledaenu y Beibl hwn, cyn ei ymddangosiad; ac y mae yn beio yn dost arnynt am dori ammod ag ef, gan iddo gael, yn lle cynorthwy, bob gwrthwynebiad i'w ledaenu. Nid wyf fi yn teimlo un awydd i amddiffyn y tadau mewn dim ag oedd feius ynddynt, er mai teg â'u coffadwriaeth ydyw iddynt gael y gwir.

Nid yw yn ymddangos i mi yn un toriad ammod ag ef dynu eu dwylaw yn ol oddiwrth ledaeniad y Beibl hwn, oddieithr fod yr addewid wedi ei gwneuthur iddo, gan ddeall ei fod yn bwriadu newid y cyfieithiad: a hyn, mi feddyliwn, ni wnaed. Yr oedd hi yn fwy esgusodol fyth i'r gymdeithasfa wrthod cymeradwyaeth i'r Beibl hwn, os oedd syniadau neillduol y cyhoeddwr ar athrawiaeth y Drindod, wedi ymlithro i'r nodiadau ynddo, yn ychwanegol at y newidiad yn y cyfieithiad. O'm rhan i, yr wyf yn synu yn fwy at Mr. P. Williams, pan y gwyddai fod anfoddlonrwydd eisoes i'r syniadau hyny gan wŷr da a dysgedig yn y cyfundeb, ei fod yn anturio eu traethu yma drachefn; yn enwedig, os oedd yn dysgwyl, ar yr un pryd, am gynorthwy i'w ledaenu; —yr wyf yn synu at hyn, meddaf, yn fwy nag at y gwrthwynebrwydd a brofodd. Weithian, wedi i'r gymdeithasfa wrthod ei chymeradwyaeth i'r Beibl bychan, ac i ddynion uchel eu cyfrif, ac eang eu dylanwad, osod eu hwynebau yn erbyn ei ledaeniad, arafodd ei werthiad yn fawr, safodd llawer o'r argraffiad ar law y cyhoeddwr, a pharodd iddo, yn ddiamheuol, golled fawr.

Dywedasom fod dadl wedi bod o'r blaen rhyngddo â rhai o'i frodyr mewn perthynas i athrawiaeth y Drindod, ac yn neillduol mewn perthynas i dragwyddol Faboliaeth Crist; ac nid oedd yr amgylchiad anffodus perthynol i'r Beibl bychan, yn tueddu dim at iachâu y teimladau, a chyfànu y rhwyg, ond yn hollol yn y gwrthwyneb. Fe gyfeiria ef ei hun at hyn yma yn yr ymadroddion canlynol:—"Ond amheu yr wyf, fod rhyw rai yn cyffroi cynhen, trwy adgoffa'r hen ddadl yn nghylch maboliaeth ein Hiachawdwr Iesu Grist; sef, pa un ai trwy genedliad tragwyddol o sylwedd y Tad, fel y dywed rhai; ai o herwydd y natur ddynol a genedlwyd trwy yr Ysbryd Glân, o Fair y Forwyn, fel yr wyf fi yn ostyngedig yn meddwl, y cafodd ei alw yn Fab," Salm ii. 7.

Ymddengys oddiwrth hyn, fod y gŵr parchedig yn gwybod cyn cyhoeddiad y Beibl bychan, a fu mor golledus iddo, fod anfoddlonrwydd cryf i'w olygiadau ar y Drindod: amgylchiad sydd yn peri i ni synu pa fodd yr anturiai roddi un amlygrwydd i'r golygiadau hyny drachefn, os oedd yn dysgwyl cynorthwy ei frodyr yn lledaeniad y llyfr a'u cynwysai. Nid oes amheuaeth nad oedd yr hen frawd parchedig yn gydwybodol yn sefyll dros yr hyn a ystyriai efe yn wirionedd; ond yr oedd yn angenrheidiol iddo gredu, mewn barn cariad, fod ei frodyr yn gydwybodol yn credu y gwrthwyneb, ac am hyny ni allai ddysgwyl eu cydweithrediad.

  1. Mr. O. Williams, Waun-Fawr, Arfon.