Adeiladodd Mr. Williams gapel ymron yn llwyr ar ei draul ei hun yn Heol-y-dŵr, Caerfyrddin, yn yr hwn y pregethai, bellach, megys heb gysylltiad neillduol ag un enwad o bobl, dros yr ychydig flynyddoedd y bu fyw. Bu farw yn dangnefeddus ar yr 8fed dydd o Awst, 1796, yn 76 mlwydd oed. Prynodd y Methodistiaid y capel a godasai yn Nghaerfyrddin, gan ei deulu. yr hwn wedi ei helaethu fwy nag unwaith, sydd yn aros hyd heddyw.
Mae bellach tua thriugain mlynedd er pan ydoedd y dymhestl hon yn chwythu ar Fethodistiaeth Cymru; ac nid hir ar ol i hon ddystewi, y bu y cyfundeb heb deimlo oddiwrth ryferthwy llawer trymach; ond yr ydym yn gohirio y darluniad o hwnw dros ychydig, ac yn cyfeirio y darllenydd at ran arall o'r gwaith am yr hanes, sef hanes Neillduad Gweinidogion i'r cyfundeb, pryd y bu ymosodiad trwm drachefn ar ei heddwch a'i sefydlogrwydd.
O hyny hyd yn awr nid oes gan yr ysgrifenydd, trwy drugaredd, ddim ymosodiad neillduol ar y cyfundeb mewn dim ag a beryglai ei lwyddiant mewn modd arbenig, i'w groniclo. Prin y gellid dysgwyl perffaith unffurfiaeth yn mysg cynifer; ac fe ellid dyfalu y byddai rhyw nifer o ddynion, mewn sefyllfa anmherffaith, ymron o angenrheidrwydd yn gogwyddo i eithafion ar y naill law a'r llall; ac felly y profodd Methodistiaid Cymru yn ystod y deugain mlynedd diweddaf; eto nid oedd y gwahaniaeth rhwng y rhai pellaf y ddwy ochr, ond y cyfryw a geid yn mysg dynion da a duwiol yn mhob oes, ac yn mysg dynion hefyd a gyfrifir, ar y cyfan, yn uniongred, pryd y cadwyd corff y brodyr i sefyll yn nes i "ganol llwybr barn," ac yn foddion, trwy eu syniadau cywir, a'u hymddygiadau brawdol, i gadw heddwch a chydweithrediad yn y cyfundeb hyd y dydd hwn.
PENNOD XII.
EFFEITHIAU CYNYDD METHODISTIAETH YN NGHYMRU.
CYNWYSIAD:—
DAROSTYNGIAD HEN ARFERION LLYGREDIG—ANHAWSDER Y GWAITH O'U DAROSTWNG-MODDION EU DAROSTYNGIAD—ANSAWDD Y CYFNEWIDIAD HWN-FFYNIANT YMNEILLDUAETH—RHAGFARN YN ERBYN YMNEILLDUAETH WEDI SYRTHIO— DIWYLLIAD MEDDWL Y TRIGOLION—ADEILADU ADDOLDAI—ANHAWSDERAU AR FFORDD EU CODI—TYMHORAU Y CODWYD MWYAF O HONYNT—Y CASGLIAD DIMAI YN YR WYTHNOS, &c.
Yr ydym wedi olrhain graddau ar y moddion a fu mor effeithiol i eangu terfynau, a sefydlu gwreiddiau Methodistiaeth yn mysg ein cenedl. Cawsom olwg hefyd ar yr ymosodiadau a wnaed gyda golwg ar ei lethu, trwy erlidigaethau oddiallan, ac ymrysonau oddifewn. Naturiol, bellach, a fydd cymeryd trem ar yr effeithiau cyffredinol a ganlynodd ei gynydd. Cynyddu yn ddirfawr a wnaeth, yn enwedig yn ystod yr hanner canrif diweddaf; ac fel y gellid dysgwyl, efe a barodd effeithiau er da neu er drwg ar y dywysogaeth. Yr oedd ei gynydd yn effeithio ar arferion y wlad, ac yr oedd ei gynydd hefyd yn galw am ysgogiadau newyddion o fewn y cyfundeb ei hunan. Yr oedd amcan y diwygwyr o'r fath natur na allai lai, os llwyddid i'w gyrhaedd,