Pa le yn awr y ceir y ffeiriau prydnawn Sabbothau? Y nosweithiau llawen, pa le maent hwy? y cardiau, a'r cwrw gwa'dd? Pa le yn awr y cynelir y twmpathau chwareu gan yr ieuenctyd, a'r hen bobl hwythau yn eu calonogi â'u presenoldeb, ac yn eu rhwyddhau â'u cynghorion? Pa bryd yn awr y clywir son am un plwyf yn ymryson rhedeg, neu yn ymryson chwareu neu ymladd â phlwyf arall? Pa berson a faidd yn awr aros ar y fynwent, ar ol y gwasanaeth, i arolygu y chwareu a ddylynai, ar dô y llan? Yn mha le yn awr y mae y bedyddiadau a anurddid mor ofnadwy trwy ymgynulliad lluaws at eu gilydd i loddesta a meddwi? Nid oes nemawr ychwaneg na chof am y siòt cynhebrwng, â'r priodasau gwahodd. Ac os dygwydd fod ambell le eto yn eu harddangos, gwneir hyny yn fwyanfynych, mewn dull mwy llechwraidd, ac i raddau mwy cymhesur, fel nad ydynt ond megys digon i adgofio i ni pa fath ydoedd arferion ein henafiaid.
Y mae y gofyniad, bellach, yn dymchwel arnom yn rymus iawn, O ba le y daeth y cyfnewidiad? Pa foddion grymus a ddefnyddiwyd i ddarostwng arferion mor ddwfn eu gwreiddiau, mor hen eu rhwysg, mor fawr eu dylanwad, ac mor hyfryd i'r archwaeth? Pa offerynau a gaed yn ddigon awchlym i'w dryllio? pa dalentau yn ddigon gloywon i'w dynoethi? neu pa fraich yn ddigon cryf i'w bwrwilawr? Wele gwreiddiasent yn y tir er's oesoedd; ymdaenasent dros wyneb yr holl wlad; noddasid hwy gan hen ac ieuainc, gwreng a boneddig, gwŷr liên a gwŷr lleŷg. "A newidiodd un genedl ei duwiau, a hwy heb fod yn dduwiau?" Anaml iawn y mae neb yn newid eu duwiau, er gwaeled fyddo y duwiau hyny. Nid mor hawdd chwaith ydyw gan genedl newid eu campau a'u syniadau. Ond fe wnaeth y Cymry hyny mor llwyr, fel mai o'r braidd y gallai un pe codai oddiwrth y meirw, ar ol can' mlynedd o ddyeithrwch, ddeall mai yr un bobl a fyddem. Gwelid y mynyddau yn yr un man, yr afonydd yn llifo yn gyffelyb i lawr y creigiau, ac ar hyd y nentydd a'r cymoedd gwelid crib y bryniau, a glanau y moroedd, yr un fath a chynt: ond y bobl, oh mor wahanol! Nid yw eu syniadau yn gyffelyb, na'u harferion yr un. Parod fyddai y cyfryw ymwelydd dyeithr i ofyn, Pa adeiladau yw y rhai hyn? gan gyfeirio at y capelau sydd yn britho pob cwm a phentref. A hawdd y gallai y cyfryw un synu. Pan aethefi'w wely pridd, oddeutu can' mlynedd yn ol, nid oedd gan ymneillduwyr Cymru ond 35 o'r cyfryw adeiladau: yn awr y maent tua 2000! Y pryd hyny, ac yn mhell ar ol hyny, ni fynai neb gymaint a gwrando ymneillduwr yn pregethu: yn awr, prin y maent yn foddlawn i wrando neb arall! Y pryd hyny, un neu ddau mewn plwyf a feddai Feibl, ac a fedrai ei ddarllen: yn awr, ychydig mewn plwyf sydd i'w cael heb fod yn berchenog arno, ac yn alluog i wneyd defnydd o hono. Gynt y twmpathau chwareu a sugnent y bobl yn lluoedd atynt; yn awr, gweinidogaeth yr efengyl. Ceir llawer o lôwyr Mynwy a Morganwg, ac o chwarelwyr Arfon a Meirion, yn fwy hyddysg yn awr yn y gwyddion a'r celfyddydau, ac yn enwedig mewn gwybodaeth ysgrythyrol, nag oedd boneddwyr y tir gynt, neu athrawon awdurdodedig y bobl.