yn ei ddywedyd yn ol yr Arglwydd, eithr megys mewn ffolineb, yn hyn o fost hyderus. Gan fod llawer yn ymffrostio yn ol y cnawd, minau a ymffrostiaf hefyd," 2 Cor. xi. 17, 18.
Fe ddywed awdwr y Welsh Looking Glass, sef y Parch. Mr. Jones o Creaton, -gŵr o dduwioldeb a defnyddioldeb yn ei dymhor, a gweinidog yn yr eglwys sefydledig hyd ei fedd, a gŵr hefyd a ddygai fawr sêl dros ei eglwys ei hun, -am yr effeithiau a ddylynodd lafur y Methodistiaid yn Nghymru, fel hyn :
"Pwy yn y dyddiau o'r blaen a dynodd sylw y wlad at grefydd ysbrydol, ac a wnaethant y bobl yn foesol? Y Methodistiaid. Pwy a ddysgodd i'r bobl gadw y Sabboth, i barchu ordinhadau cyhoeddus, ac i weddio yn eu teuluoedd? Y Methodistiaid. Pwy sydd wedi bod er ys blynyddau lawer yn dwyn eu myrddiynau plant i fyny yn egwyddorion Cristionogaeth? Y Methodistiaid. Pwy a ddarostyngodd arferion paganaidd dirif, ac a ddygodd oferwyr i barchu cyfreithiau eu Duw? Y Methodistiaid, y rhai y gosodir eu hegwyddorion allan gan lawer o offeiriaid ac esgobion dysgedig, fel rhai gwrthwynebol i foesoldeb a gweddusrwydd cyffredin. Pwy a ledaenodd gyda diwydrwydd draethodau crefyddol drwy yr holl wlad? Y Methodistiaid."[1]
Y cyfryw ydoedd tystiolaeth y gŵr parchedig uchod, yr hwn, ar y pryd, oedd yn teimlo yn ddigofus iawn wrth y Methodistiaid Calfinaidd, ac yn ysgrifenu yn eu herbyn fel "rhwygwyr corff Crist," am iddynt neillduo gweinidogion i weinyddu yr ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd, yn eu mysg eu hunain! Drachefn, fe ysgrifena,
"Atolwg, pa fath ydoedd agwedd y wlad o ran crefydd pan ddechreuodd Methodistiaeth? Duwch nos dywyll a gresynol ydoedd. Yr oedd y bobl oll ymron wedi suddo i anwybodaeth trwch a phaganaidd am bethau ysbrydol; ac nid oedd y gweinidogion yn gofalu am ddim o'r pethau hyn, ond yn treulio eu hamser gyda phethau mwy cydnaws â'u tueddiadau nag oedd dyledswyddau eu gweinidogaeth, i'r hon nid oedd ganddynt un cymhwysder. Gallent, fe allai, ddarllen Groeg, ond nid adwaenent yr Arglwydd; a hwy allent, mae'n debygol, wahaniaethu yn fwy cywir o lawer rhwng pethau da neu ddrwgifwyta ac yfed, na rhwng gwirionedd a chelwydd mewn materion duwinyddol. Collwyd golwg ar santeiddrwydd y Sabboth yn y dyddiau hyny; treulid ef mewn canu a dawnsio, yn mhob math o gampau a chwareuon: nid oedd modd cael argoelion gwaeth am agwedd pethau; oblegid fe fydd parch i'r Sabboth ac i Gristionogaeth fyw a marw gyda'u gilydd. Y cyfryw oedd arwyddion yr amserau pan clybuwyd gyntaf am Fethodistiaeth ar fynyddoedd Cymru, yr hyn a ddechreuodd, tybygwyf, yn y modd canlynol:-Duw a gyfododd ychydig o offeiriaid ffyddlawn, y rhai a gynysgaethwyd ganddo a gras a dawn, ag oedd anarferol yn mysg dynion: dechreuodd y rhai'n bregethu gyda sêl a difrifwch i'w cynulleidfa
- ↑ "Welsh Looking Glass," pp. 30.