oedd eu hunain, ac mewn eglwysi eraill yn y gymydogaeth a roddai dderbyniad iddynt; ond yn fuan cauwyd yr holl eglwysi yn eu herbyn, a throwyd y rhai amlaf o honynt allan o'u heglwysi eu hunain. Gwnaed hyn oll gan yr awdurdodau eglwysig, i amddiffyn yr eglwys, yn ddiamheu. Ond i amddiffyn pa eglwys? Yr eglwys hono a roddasent hwy i gysgu mewn diofalwch cnawdol, ac am yr hon y pryderent na aflonyddid ar ei chwsg hyd ddiwedd amser. Ond yr ychydig offeiriaid hyn, wedi ysgwyd ymaith y syrthni cyffredinol, ac wedi dryllio rhwymau marwolaeth, a aethant allan, fel cenadau oddiwrth yr Hollalluog, gan gyhoeddi drwy yr holl dir iachawdwriaeth Duw, a galw yn uchel ar bechaduriaid i edifarhau a dychwelyd oddiwrth eu drygioni at santeiddrwydd, ac oddiwrth oferedd celwydd at y Duw byw. Yr oedd yr Arglwydd gyda hwynt, a chynyrchwyd effeithiau mawrion ar bobl y wlad trwyddynt; dechreuai pechaduriaid yn mhob man ymofyn, "Pa le y mae Duw yr hwn a'm gwnaeth i!" "Ona wyddwn pa le y cawn ef!"[1]
Yn y lle nesaf, fe elwir sylw y darllenydd at effaith cynydd Methodistiaeth yn y tai addoliad a adeiladwyd at wasanaeth y cyfundeb. Ar y dechreu, nid oedd un o honynt, wrth gwrs; ac am flynyddoedd ar ol yr ysgogiad cychwynol, nid oedd un tŷ addoliad wedi ei godi. Rhoisom olwg ar hyn o'r blaen,[2] lle y gwelir pa mor hwyrfrydig a fu ein tadau i adeiladu capelau, ac oddiar ba egwyddor yr oedd hyny yn cyfodi. Nid oeddynt yn foddlon o leiaf i broffesu ymadawiad ag eglwys Loegr, hyd nes y'u gorfyddid: ond tybient mai dymunol oedd ymgadw am dymhor heb godi addoldai, ar wahan oddiwrthi. Felly yr aeth heibio flynyddoedd o bregethu heb un capel. Yr oedd un mlynedd ar ddeg wedi myned heibio cyn codi capel Llanfair-Muallt, ac wyth mlynedd wedi myned heibio er pan y penderfynai y gymdeithasfa yn Mhorth-yr-hyd i adeiladu "tŷ yn Llansawel at ddybenion crefyddol." Yr oedd y pryd hwn rai cannoedd o gynulleidfaoedd bychain wedi eu casglu, ond hwy a ymgynullent i addoli mewn tai anedd gan mwyaf, ac weithiau mewn ysguboriau, ac yn fynych yn yr awyr agored. Nid oes un capel yn Ngwynedd gan y Methodistiaid, dros gant oed, ond capel Adwy'r Clawdd. Tybygid ddarfod adeiladu hwn mor foreu, os nad yn foreuach, na chapel Llanfair-Muallt. Ond nid wyf yn cael allan fod yr un arall yn Ngwynedd cyn y fl. 1750. Yr un boreuaf yn sir Aberteifi ydyw yr un a godwyd tua'r fi. 1756, sef Llwyn-Adda yn Llechryd. Ugain o dai cyrddau bychain oedd yn y sir hòno yn mhen hanner can' mlynedd ar ol i Howel Harris ddechreu pregethu, sef tua'r fl. 1786. Yn sir Drefaldwyn, nid oedd ond chwech o gapelau ar ddechreuad y ganrif bresenol, tra y mae yno yn awr wyth neu ddeg a thriugain. Tua'r fl. 1770, nid oedd cymaint ag un capel yn holl sir Fflint i gyd, hyny yw, sir Fflint wladol. Chwech capel oedd yn holl sir Aberteifi, yn mhen agos i bum' mlynedd ar hugain ar ol y dechreuad, tra y mae yn awr dri-a-thriugain, heblaw pump-ar-hugain o ysgoldai. Nia welwn wrth y ffeithiau hyn, mai lled araf a fu yr hen bobl i adeiladu tai addoliad;