Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/446

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'r dynion gwylltaf, a golchodd luaws mawr o'r rhai aflanaf. Yr oedd eu hargyhoeddiad mor nerthol a disymwth, a'r cyfnewidiad arnynt mor fawrac mor amlwg, fel y safai cannoedd yn syn i ymholi pa beth a allai hyn fod? Cerddodd y diwygiad hwn, fel y gwna tymhestl o fellt a tharanau weithiau, dros ranau helaeth o'r dywysogaeth, gan ddeffroi y trigolion trwy ei gyffro, a sirioli y gwledydd â'i gawodydd

Bellach, yr oedd y cynulleidfaoedd yn lluosogi yn gyflym mewn rhifedi; iachaodd hyn yr archollion a wnaed gan yr ymraniad; sugnodd hyn y crefyddwyr at eu gilydd; gwnaeth eu rhifedi yn amlach, a'u meddyliau yn fwy calonog i fyned â gwaith yr Arglwydd yn ei flaen. Aeth y tai anedd, gan hyny, yn rhy fychain, a daeth galwad uchel ar y crefyddwyr i helaethu lle eu pebyll, ac i estyn cortynau eu preswylfeydd. Yn yr adeg hon, gan hyny, neu yn y blynyddoedd cyntaf a ddylynodd yr ymweliad grasusol uchod, adeiladwyd mwy o addoldai nag a wnaethid o'r blaen. Deffrôdd y bobl yn yr ardaloedd ag yr oedd gradd o sirioldeb ar yr achos, i ymofyn am "le i'r Arglwydd, preswylfod i rymus Dduw Jacob."

Gwelsom mewn rhan flaenorol o'r gwaith hwn, mai tymhor yr ysgolion Sabbothol, yn anad yr un arall, a fu tymhor cynydd Methodistiaeth Cymru. A dyma hefyd a fu tymhor adeiladu capelau, yn anad yr un arall. Mae yn ffaith adnabyddus, bellach, fod agos yr holl gapelau sydd gan y Methodistiaid yn awr, wedi cael eu hadeiladu, naill ai y gwaith cyntaf, yr ail, neu y trydydd gwaith, o fewn yr hanner can' mlynedd diweddaf. Mae ymron holl gapelau Gwynedd wedi eu codi, neu eu helaethu, o fewn cof yr ysgrifenydd, tymhor nid mwy na deugain mlynedd. Tegwch hefyd ydyw dweyd mai effaith llwyddiant a chynydd y cyfundeb ydoedd hyn. Yn mhob man, fe glywid yr un galwad, "Cyfyng yw y lle hwn i mi, dod le i mi, fel y preswyliwyf." I'r alwad hon yr ufyddhawyd, a chodwyd lluaws mawr iawn o gapelau yn mhob sir yn Nghymru, ac mewn amryw o drefydd Lloegr.

Hwyrach y byddai yn ormod peth i ni allu gwadu nad allai fod gradd o annoethineb, ïe, a pheth gorphwyiledd, wedi ymddangos mewn rhyw fanau gyda'r gorchwyl, -mwy o ryfyg nag o ffydd, a mwy o sêl nag o synwyr. Eto, y mae yn rhaid addef fod llawer iawn o haelioni a ffyddlondeb wedi cael ei ddangos gan y Cymry yn y ganghen angenrheidiol hon o deyrnas y Cyfryngwr. Afreidiol ydyw dadgan fod hyn oll wedi cael ei wneuthur trwy gyfroddion ewyllysgar y bobl. "Oblegid yn ol eu gallu," fel eglwysi Macedonia, "ac uwchlaw eu gallu, yr oeddynt yn ewyllysgar o honynt eu hunain" i gyfranu o'u meddiannau yn yr achos hwn. Nid oedd yr un dreth i'w chael, ac nid oedd neb yn ei dymuno. Nid arian a sugnwyd trwy gyfraith, ond a roddwyd o fodd. Yn y modd yma, mae capelau y Methodistiaid yn britho trefydd, pentrefydd, cymoedd, a bryniau Cymru, fel cynifer o gofarwyddion o'r hyn a wna meddwl ewyllysgar. Am y mwyafrif, y mae yn hysbys mai gweithwyr tylodion, a chrefftwyr llafurus, a wnaeth hyn. Nid llawer o'r boneddigion a alwyd at y gorchwyl. Caed ambell un hefyd o'r dosbarth anrhydeddus hwn a wnaeth yn ardderchog; ond y mae yn rhaid