addef, yn y cyffredin, mai ceiniogau y tlodion, a sylltau y canolradd, ac nid punnoedd y cyfoethogion, a adeiladodd ein capelau. Ni allwn lai, gan hyny, nag edrych ar yr adeiladau fel cynifer o dyst-arwyddion o'r lles a dderbyniasid trwy yr efengyl, ac o'r cariad a fynwesid tuag ati. Ysgrifena un gŵr ataf, a dywed, "Deugain mlynedd yn ol, y tŷ gwychaf, neu yr adeilad hynotaf, yn mhob pentref yn Nghymru, ydoedd y dafarn neu y gwesttŷ; ond yn awr, yr adeilad sydd yn tynu mwyaf o sylw, fel yr helaethaf a'r cryfaf, ydyw yr addoldŷ." Ychydig o ddiolch a fuasai i neb am hyn, pe trwy drais a threth y gwnaethid y cwbl; ond gan mai ffrwyth cariad ydynt, ac mai o'u "dwfn dlodi" y cyfranwyd atynt, y maent yn anrhydedd i'r preswylwyr, ac yn ogoniant i'r wlad.
Am y modd yr adeiladwyd yr holl addoldai hyn, nid rhaid i'r ysgrifenydd ddywedyd dim, yn gymaint a bod hyny yn adnabyddus i bawb. Dechreuwyd adeiladu tai addoliad trwy gasgliad cyffredinol trwy Wynedd o chwecheiniog a dimai yn y chwarter, sef dimai yn yr wythnos, oddiwrth bob aelod yn y cyfundeb. Dygid yr arian i'r gymdeithasfa chwarterol, a chyfrenid hwy yno yn ol yr angen, wrth farn y cyfeisteddwyr a osodasid ar hyn yma. Ni allai fod swm y casgliad hwn yn fawr, yn ystod yr amser y parhaodd, gan nad oedd nifer y cymunwyr y pryd hwnw yn Ngwynedd ond bychan; eto fe adeiladwyd llawer capel trwy y moddion hyn. Y pryd hwnw hefyd, nid oedd raid i'r addoldai fod yn fawrion o ran maintioli, ac nid oedd awydd chwaith eu cael yn wych a chostus. Y pryd yma hefyd, ni adewid dyled arnynt. Gwneid hwy fel y gellid talu am danynt.
Mae rhai enghreifftiau, hefyd, i'r brodyr o'r Deheudir gynorthwyo eu brodyr yn y Gogledd i ddwyn ambell adeilad yn mlaen. Rhoddwyd cynorthwy yn y modd yma i adeiladu y capel cyntaf yn Penrhyn-deudraeth, ac yn Nolgellau yn sir Feirionydd. Fe ddichon i'r cyffelyb gynorthwy gael ei roddi i fanau eraill, er na ddaeth dim hanes felly i law.
Dangoswyd llawer o ffyddlondeb a haelioni gan luaws dirif, o bryd i bryd, trwy Dde a Gogledd, mewn ffordd o gynorthwyo i adeiladu tai addoliad; ond er maint y caredigrwydd a ddangoswyd, fe fethwyd eu codi heb gryn lawer o ddyled arnynt, Fe allai fod lle i gwyno yn erbyn rhyw fanau am ryfygu i ormod o gostau, a beichio cynulleidfaoedd yn y manau hyny â mwy o logau blynyddol nag a allent eu cyfarfod. Ar yr un pryd, y mae ymdrech a haelioni anarferol wedi eu harfer, yn enwedigol yn y blynyddoedd diweddaraf, i ddileu ymaith yr holl ddyled ag oedd yn aros ar y tai addoliad, a llawer gwlad ymron wedi cyrhaedd eu hamcan; ac yr ydys yn lled hyderus, gan yr ymdrech a wnaed, ac sydd eto yn cael ei wneuthur, i glirio y capelau oddiwrth ddyled, a chan y gofal a gymerir yn awr i beidio chwanegu dim arni, y bydd y cyfundeb cyn hir yn abl i ganu yn iach iddi.