Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/449

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tua'r fl. 1805, nid oedd ond tri; a pha beth oedd hyn rhwng cynifer? Pa fodd y gallai hyn ddiwallu angenion y chwe sir, a threfydd Lloegr? Amlwg ydoedd fod amgylchiadau y cyfundeb yn galw am ryw gyfnewidiad; ac ymddangosai arwyddion yma a thraw ar hyd y gwledydd, y byddai raid cymeryd cam newydd yn rhyw gyfeiriad, os mynid arbed dyryswch a rhwyg. Yr oedd llawn cymaint, os nad llawer mwy, o anesmwythdra yn mysg henuriaid ac aelodau yr eglwysi, ag oedd yn mysg y pregethwyr. A naturiol iawn oedd hyny, oblegid arnynt hwy, mewn modd neillduol, y disgynai annghyfleusderau y drefn bresenol. A'r henuriaid ymofynai yr aelodau yn nghylch bedyddio eu plant, ac yn fynych iawn yr oeddynt hwythau dan angenrheidrwydd i ddatgan nad oedd ganddynt mewn addewid yr un gweinidog urddedig, ac i gynghori yr aelodau i gymeryd y plentyn i eglwys y plwyf, neu i gapel yr ymneillduwyr i'w fedyddio. Gofynai ambell un yn niniweidrwydd ei galon, Paham na chaiff John Elias fedyddio? Neu Richard Lloyd, Beaumaris; y maent yn llawn cystal pregethwyr a'r offeiriaid. Gofynent tua sir Aberteifi, Paham na chaiff Eben Morris, neu Eben Richards, weinyddu y sacramentau ini? yr ydym yn llawn mor hoff o'u gweinidogaeth hwy a'r eiddo neb. Ofer ydoedd dweyd wrth y bobl hyn, nad oedd y gwŷr da uchod yn offeiriaid. Nid ydym yn cael fod anniddigrwydd yn hanfodi gymaint yn mhlith y pregethwyr eu hunain, eto ni allent lai na chlywed cwynion y cynulleidfaoedd, ac nid oeddynt yn canfod pa fodd y gellid diwallu eu hangenion, y rhai oeddynt yn amlhau bob blwyddyn, heb neillduo rhyw rai o blith y rhai ag oeddynt eisoes yn uchel eu cymeriad, ac yn fendithiol eu gweinidogaeth, yn mysg y pregethwyr.

Wedi deffro y wlad i ddechreu meddwl am y pwnc hwn, ac i'r drafodaeth arno gymeryd lle, nid rhwng personau neillduol yn unig, nac mewn eglwysi neillduol yn unig, ond yn fwy cyhoeddus mewn cyfarfodydd misol, a chymdeithasfaoedd, yr oedd yn anhawdd dysgwyl cael tawelwch mwyach, oddieithr fod rhesymau cryfion ac eglur yn erbyn ordeiniad pregethwyr, ag oeddynt eisoes wedi codi, neu a allent godi yn y cyfundeb mewn amser dyfodol. I'r dyben i lonyddu y wlad, yr oedd yn rhaid profi mai gan esgob yr eglwys wladol yr oedd awdurdod ddwyfol i ordeinio, ac mai trefn y Testament Newydd oedd, nad oedd yr un pregethwr, er amlyced ei alwad i'r pulpud, a hawl ganddo i weinyddu yr ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd, heb ei ordeinio i hyny. Yr oedd yn anhawdd iawn gwneyd hyn. Nid oedd y rhesymau a ddygid yn erbyn yn ymddangos yn ddigon cedyrn; ac yn wir, yn y drafodaeth a ddygwyddai fod ar yr achos, ymddangosai yn ngwrthwynebwyr y newidiad fwy o nwyd nag o reswm, a chyfeirid yn amlach at arferiad nag at y Testament Newydd.

Pe buasai yn bosibl argyhoeddi cydwybodau dynion yn lled gyffredinol, mai urddiad esgobawl eglwys Loegr oedd y mwyaf dymunol, a'r nesaf at gynllun yr ysgrythyrau, buasai yn angenrheidiol yn y fan, er mwyn boddloni y wlad, a chyfarfod ag angenion yr eglwysi, naill ai sicrhau nifer digonol, o bryd i bryd, o offeiriaid urddedig i weinyddu yn eu mysg, neu sicrhau