Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/452

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gweddill; ac mai rhwyg neu ymraniad a fuasai y canlyniad. Yr oedd llawer iawn hefyd o'r pregethwyr uwchaf eu cymeriad, a mwyaf poblogaidd eu doniau, mewn cysylltiad â rhyw grefft neu fasnach fydol, ac anhawdd iawn oedd ymddyosg oddiwrth y teimlad, fod crefft neu fasnach yn anghydweddu â gweinidogaeth yr efengyl: ac y buasai y cyfundeb yn syrthio dan warth y byd crefyddol, yn mysg pob enwad yn ngwledydd cred, am alw crefftwyr a masnachwyr i weinyddu bedydd a swper yr Arglwydd.

Ymddengys fod y dysgwyliad o gadw Methodistiaeth Cymru yn fath o attodiad, neu ychwanegiad, cysylltiedig ag eglwys Loegr, wedi gwreiddio yn. ddwfn yn mynwesau rhyw ddosbarth yn mysg ein tadau. Pa fodd y gallent ddysgwyl hyny, nis gwn, gan fod pob urdd yn eglwys Loegr wedi dangos eithaf anfoddlonrwydd i'r ysgogiad Methodistaidd o'r dechreuad, a chan nad oedd afreolaeth o'r fath ag y cyfrifid ei fod, ddim erioed wedi cael ei ganiatâu o'r blaen. Eto, yr oedd y dysgwyliad yn bod; a chwerw y profid y siomedigaeth, pan y bu raid deall fod y dysgwyliad yn ddisail.

Wrth y sylwadau uchod, fe wel y darllenydd pa fath ydoedd penbleth y cyfundeb ar yr achlysur y cyfeiriwn ato. Yr oedd y cyffro wedi dechreu tua'r fl. 1806, er na ddygwyd y cyfnewidiad i ben hyd 1811. Mae Mr. Jones o Ddinbych, yn y rhan hyny o hanes ei fywyd a ysgrifenodd ef ei hun, yn y fl. 1809, yn dweyd, —" Yr oedd amryw o'm brodyr, a minau gyda hwy, wedi bod â'u hymgais er's blwyddyn neu ddwy cyn hyn, am weinyddiad yr ordinhad o fedydd yn y corff, o'r hwn yr ydym yn aelodau, ac am weinyddiad y swper santaidd yn fwy mynych; ac os byddai modd, yn fwy cyson o ran amserau.

O'r blaen, yr oedd ein pobl yn gyffredinol yn arfer bedyddio eu babanod yn eglwys Loegr, a chryn nifer wedi bod yn arfer cymuno yno hefyd; ond yr oedd nifer y rhei'ny yn myned lai-lai. Yn ein mysg ni ein hunain, yr oedd yr ychydig eglwyswyr a ymunasent â'r corff, yn gweinyddu'r ordinhad hon mewn amryw fanau. Ond gan anamled eu nifer, a chan fod y corff hefyd, trwy fawr ddaioni Duw, wedi amlhau yn Nghymru, yr oedd niferi o gynulleidfaoedd heb fod yn gyfranogion o honi, am flwyddyn neu ychwaneg o amser, a chryn nifer heb ei chael erioed. Fel yr oedd yr achlysuron hyn yn chwanegu cwynion y corff, yr oedd rhai eglwyswyr, oedd yn dadau enwog yn y corff, yn petruso ac yn methu cydsynio yn rhwydd, i ddwyn yn mlaen y cyfnewidiad a farnai eraill yn rheidiol, sef neillduo rhyw nifer o'r pregethwyr eraill, i gynorthwyo'r eglwyswyr, a chyflawni angen yr eglwysi, o ran gweinyddiad y ddwy ordinhad. Yn y cyfrwng hwn, dygwyddodd yn y modd canlynol i mi gael fy nhynu i fyned o flaen eraill o'm brodyr, oedd o'r un llais a thueddiad yn yr achos. Wedi i blentyn gael ei eni i un o'n cyfeillion, efe a geisiodd help rhai brodyr i ddeisyf arnaf fi, a olygent fel gweinidog y gynulleidfa, ymroddi i fedyddio'r plentyn. Efe a chwanegodd amryw ddadleuon a rhesymau o blaid ei gais, ac yn erbyn myned â'i faban i un gynulleidfa arall i'w fedyddio. Minau wedi dwys-ystyried yr achos, a cheisio erfyn cyfarwyddyd gan yr Arglwydd, a benderfynais, ac a addewais y gwnawn weinyddu yr ordinhad, os byddai i gorff yr eglwys, neu y gynulleidfa,