fy ngalw i hyny, ar ol cyd-erfyn ar yr Arglwydd am iddo eu cyfarwyddo a'u harwain, yn ol ei air a'i ewyllys. Wedi iddynt gydgyfarfod, hebof fi, ac ystyried yr achos gydag ymbiliau ar Dduw, hwy a hysbysasant im' eu bod oll, hyd at un aelod oedd mewn gradd o ofn a phetrusder, yn galw arnaf i wneuthur felly.
"Yr oedd yr achos cyn hyn wedi bod gyda dwysder ar fy meddyliau, ddydd a nos; a thrwy ymarfer â gair Duw a gweddi, yr oeddwn yn ymofyn am addysg ac arweiniad. Wedi i gyfaill neu ddau, oedd yn lled agos atom, fy ngwrthannog gyda math o ddwysder, os nid poethder hefyd, mi a aethum yn drallodus fy helynt; eto, wrth ystyried eu dadleuon, gan daer-ymbil gerbron yr Arglwydd, yr oedd y clorian yn troi yr un ffordd ag o'r blaen. Yr oeddwn yn deall fy mod yn groes (os nid i ordeiniad a gorchymyn), eto i arferiad y corff o bobl yr ymunaswn o galon a hwynt; ac yr oedd yn ddrwg genyf, ac y mae yn ddrwg genyf hyd heddyw, dristâu neb o'm brodyr. Ie, yr oedd yn dra gofidus genyf feddwl am dristâu un brawd, a thad yn enwedigol; yr hwn yr oedd, ac sydd â'i goffadwriaeth heddyw, yn fwy parchus yn fy meddwl, nag un gŵr y bu i mi gymdeithas neillduol ag ef ar wyneb y ddaear. Ond trwy y pethau hyn i gyd, myned yn mlaen a wnaethum, neu a fu raid i mi, gan adael y canlyniad yn llaw yr Hollwybodol a'r Hollalluog Dduw. Yr oeddwn yn gorfod meddwl, os oedd efe wedi fy ngalw i bregethu ei air (yr hyn nis medrwn ei lwyr-amheu), yna, fod ei alwad hwnw, ynghyd â'r galwad oedd arnaf gan gynulleidfa Gristionogaidd, ynghyd ag amgylchiadau eraill, yn ddigon o alwad arnaf i weinyddu yr ordinhad o fedydd. Felly gyda chryndod, a rhyw fesur o ymdaweliad hefyd yn yr Arglwydd, fel yr wyf yn meddwl, mi a anturiais at y gwaith. Yn lled fuan ar ol hyn, darfu i nifer o'm brodyr, mewn cyfarfod misol, adael neu oddef i'r gynulleidfa ac i minau gael canlyn rhyddid ein cydwybodau, mewn golygiad ar yr ordinhad arall, swper yr Arglwydd. Yn ganlynol, ni a dderbyniasom y fraint hòno, ac a gawsom y mwynhad o honi gyda gradd o ofn duwiol, llawenydd, a diolchgarwch. Ac erbyn y cyfarfod chwarterol a ganlynodd yn y Bala (Mehefin 1810), yr oedd yr Arglwydd wedi gogwyddo ei was,[1] yr hwn yr oedd gan y corff oll y parch mwyaf, a mwyaf teilwng, iddo, a'r ofn mwyaf rhag ei ofidio: ac er mawr lawenydd i'r brodyr oedd yno yn gynulledig, efe a ymroddodd yn ewyllysgar a llawen i ddwyn yr amcan yn mlaen mewn modd araf a graddol, fel yr oedd pawb o'r brodyr yn cydfarnu ei fod yn fwyaf cymhwys, Yn mhen blwyddyn ar ol hyn, y bu i wyth o honom gael ein neillduo (ar alwad a dewisiad yr eglwysi oll, yn ol y drefn sydd i'w gweled yn argraffedig) i weinyddu y ddwy ordinhad santaidd, ynghyd â phregethu y gair, yn mha le bynag y byddai i'r corff, neu ryw ganghen o hono, alw am ein gwasanaeth, Bu wedi hyn neillduad cyffelyb ar amryw frodyr yn y Deau a'r Gogledd."
Yr hanes a ddyry eglwyswr caredig a pharchus am yr amgylchiad, yn y
- ↑ Mr. Charles.