Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/454

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cofiant a gyhoeddodd yn Saesonaeg o'r diweddar Mr. Charles, sydd fel hyn: " Yr oedd un achos wedi cael ei ddwyn i sylw gan rai o aelodau y cyfundeb, er ys rhai blynyddau, ac wedi cael ei wasgu yn achlysurol ar ystyriaeth Mr. Charles. Hyd yma ystyriasid y Methodistiaid yn rhan o'r eglwys sefydledig. Ni weinyddai neb swper yr Arglwydd yn eu mysg ond gweinidogion o urdd esgobawl, a'u plant a fedyddid gan weinidog y plwyf y trigent ynddo. Ond yr oedd llawer yn eu mysg yn dymuno dwyn i mewn drefn wahanol; sef cael ordeinio rhai o'r pregethwyr lleŷgaidd mwyaf cymeradwy, yn ol dull ymneillduwyr neu Fethodistiaid Lloegr. Gwrthwynebodd Mr. Charles y cynygiad hwn yn gryf iawn am hir amser, efe a'r holl glerigwyr, yr wyf yn credu, ag oedd yn eu mysg; ac oni buasai i ryw amgylchiadau gofidus ddygwydd, y mae yn debygol y lluddiasid i hyny gymeryd lle yn y diwedd. Y ddadl gryfaf a feddai yr ymgeiswyr oedd annigonolrwydd nifer y clerigwyr i gyfarfod ag angen y cyfundeb. Yr oedd ymddygiad yr esgobion hefyd yn chwanegu yr anhawsdra. Yr oedd llawer o glerigwyr duwiol, heblaw y rhai ag oeddynt mewn undeb a'r Methodistiaid, yn llafurio yn achlysurol yn eu mysg, ac yn eu cynorthwyo. Ac yr oedd y clerigwyr hyny yn lluosogi. Ond yr oedd yr esgobion yn myned yn fwy caeth, ac yn gorchymyn unffurfiaeth mwy manylaidd. Rhoddai hyn fantais fawr i'r rhai a alwent am gyfnewidiad, a thaflai Mr. Charles, a llawer eraill, i benbleth flin. Ai nid doethach a fuasai yn ein llywyddion eglwysig osod trefniadau yn tueddu i adferu y sawl a giliasent ychydig o'u lle, na'r rhai o angenrheidrwydd a'u gyrent yn mhellach. Mae gor-gaethder mewn rhyw bethau yn fynych yn peri drygau mwy na gormod rhyddid. Gwell ydyw llacio y llinyn, na'i dori trwy ei dynhau. Yr effaith, pa fodd bynag, yn yr amgylchiad hwn, a fu ysgar oddiwrth yr eglwys ran fawr o'r wlad, a hòno y rhan fwyaf crefyddol o lawer."

Y cyfryw ydyw yr hanes a ddyry Mr. Morgan am yr amgylchiad dan sylw. Mae yn debyg mai yr amgylchiadau gofidus y cyfeiria atynt uchod, neu o leiaf un o honynt, oedd gwaith Mr. Jones o Ddinbych yn gweinyddu bedydd a swper yr Arglwydd, ar alwad yr eglwys yn y lle hwnw. Yr oedd yr amgylchiad hwn yn un gofidus yn ddiau, i'r sawl na fynent y newidiad. Yr oedd Mr. Jones yn wr o ddysg a dylanwad; a sicr ydyw, oni bae i Mr. Charles neidio i'r adwy pan y gwnaeth, y dylynasid Mr. Jones gan luaws o bregethwyr parchus eraill, yn ngwahanol barthau De a Gogledd, trwy wrando ar alwad yr amrywiol gynulleidfaoedd, y rhai oeddynt yn dechreu sibrwd, bellach, fod yr offeiriaid am eu dal mewn caethiwed, yr hyn beth ni ymostyngent iddo; a bod yn rhaid, bellach, ysgogi yn mlaen; ac oni wneid hyny, trwy osod gerbron ryw drefn y cytunid arni, i'r cyfundeb yn gyffredinol, y byddai gorfod ar y cynulleidfaoedd gymeryd hyny yn eu dwylaw eu hunain. Ond oddiwrth y ddau ddrwg hyn y'u gwaredodd yr Arglwydd. Gwelodd Mr. Charles y perygl, a chynygiodd foddion i'w ochel. Fe giliodd rhai o'r offeiriaid yn y Deheubarth oddiwrth y cyfundeb mewn canlyniad i'r neillduad hwn: ond ni chiliodd yr un o'r tri yn y Gogledd, eithr parhausant i lafurio yn ffyddlawn, yn ol eu talentau, ac yn ddiofid i bawb, hyd ddiwedd eu hoes.