Yn y dyfyniad uchod o waith Mr. Morgan, y mae ymadrodd arall yn galw am sylw, sef, "Hyd yma ystyriasid y Methodistiaid yn rhan o'r eglwys sefydledig." Ni a wnaethom sylw ar hyn o'r blaen,[1] ond gan fod yr honiad wedi cael ei wneyd mor fynych, ac yn ol barn yr ysgrifenydd, yn tueddu o leiaf i gamarwain, nid anfuddiol, fe allai, ydyw galw sylw at hyn drachefn. Yr unig beth y gellir seilio yr haeriad arno, ydyw y ffaith mai gwŷr mewn urddau esgobawl a fu yn foddion i gychwyn Methodistiaeth, ac mai yn eu dwylaw hwy y bu awenau ei lywodraethiad, gan mwyaf, am lawer o flynyddoedd. Nid oedd un ddolen gysylltiol ag Eglwys Loegr ond hon. Dyma oedd yr unig un, Yr oedd y tadau hyn, fel yr oedd yn naturiol, yn teimlo math o ymlyniad wrth y sefydliad gwladol, o herwydd yr oeddynt wedi eu dwyn i fyny yn haelodau ynddi, ac wedi derbyn eu hurddau swyddol o law ei hesgobion. Edrychid hefyd gan y cyffredinolrwydd ar ymneillduaeth fel bwgan hyll iawn, neu ynte fel pla peryglus iawn, yr hwn da fyddai ei ochel er dim, os byddai modd; ac nid rhyfedd genym os oedd ein tadau hwythau yn teimlo iasau o arswyd yn eu cerdded ar ddynesiad y bwgan hwn atynt. Ond a oedd cysylltiad rhwng Methodistiaeth ag eglwys Loegr? Os oedd, yn mha beth? Ni arddelodd eglwys Loegr erioed mo hono; ac ni chymeradwyodd ei hesgobion erioed mo'r ysgogiad. Os diswyddo y clerigwyr a lafurient yn ein mysg a gyfansoddai yr undeb, fe wnaed hyny, yr ydym yn cydnabod! Os oedd erlid ein pregethwyr yn brawf o'r cysylltiad, mae digon o'r profion hyny ar gael! Gwrthodwyd cyflawn urddau i Williams, Pant-ycelyn, am ei gysylltiad â Methodistiaeth; cauwyd eglwysi sir Benfro yn erbyn Howel Davies, am yr un bai; achwynwyd ar Peter Williams wrth yr esgob, gwaharddwyd iddo bregethu am dair blynedd, a rhoddwyd ar ddeall iddo, nad oedd dim a foddlonai ei arglwyddiaeth, ond ymadawiad llwyr â'i Fethodistiaeth. Am yr un bai anfaddeuol y trowyd yr anfarwol Daniel Rowlands allan. Cafodd Mr. Charles a Mr. Lloyd yn y Gogledd wybod hefyd, nad oedd Methodistiaeth ac Eglwysyddiaeth ddim i fod gyda'u gilydd. Rhoddid profion fwy na mwy, na fynai yr eglwys wladol ddim a wnelai â Methodistiaeth. Rhaid anorfod oedd ymadael ag un, i fod mewn gwir undeb â'r llall.
Methodistiaeth yn rhan o eglwys Loegr! Naddo erioed, ac nis gallai fod. Afreolaeth y cyfrifai swyddogion a rheolau eglwys Loegr holl drefniadau Methodistiaeth. Ni roddodd ei sel erioed wrth weinidogaeth leygaidd a theithiol y Methodistiaid. Ni chafodd ei gweinidogion urddedig erioed ganiatâd awdurdodedig i bregethu yn yr un o gapelau y Methodistiaid. Gwnai ambell un hyny megys o oddefiad, ond nid o ganiatâd, a llawer llai o orchymyn. Mae holl drefniadau y Methodistiaid o'r dechreuad yn berffaith anghyson â chanonau yr eglwys wladol. Ni anturiodd y tadau ar eu gwaith hwn, mae'n wir, oddiar wrthwynebiad i eglwys Loegr, ond o ufydd-dod i Dduw; a da fuasai ganddynt hwy pe gallasent ufyddhau i Dduw, ac i'w
- ↑ Gwel tudal. 182-184.