Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/457

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn un man yn sir Aberteifi tra fu Rowlands fyw, ond yn Llangeitho; —yn sir Benfro, nid oedd am faith amser ond capel Woodstock, ac wedi deng mlynedd diweddarach, y Capel Newydd ;—yn sir Gaerfyrddin, nid oedd ond Llanlluan; ac yn sir Forganwg, nid oedd ond Llangan, ac yn mhen enyd amser, Capel-Gyfylchu, gerllaw Castell-Nedd. Rhaid oedd i'r aelodau hyny yn mysg y Methodistiaid fyned o bob man i'r naill neu y llall o'r manau uchod, os mynent gyfranogi o swper yr Arglwydd, neu ynte gyfranogi o hono o ddwylaw offeiriaid nad oeddynt yn eu hoffi. Ac i'r lleoedd uchod yr âi yr hen bobl yn lluoedd ar Sabboth pen mis; a mawr iawn, yn ddiau, a fyddai y mwynhad a'r sirioldeb a dderbynient ynddynt. Yn y dechreuad cyntaf, nid oedd, fel y dywedwyd, ond Llangeitho ei hun yn holl sir Aberteifi, lle y gweinyddid y sacramentau; ond yn mhen amser maith, fe ganiatawyd y fraint i Aberystwyth a'r Twrgwyn. Ar y dechreu hefyd, Llys-y-frân, lle yr oedd Howel Davies yn pregethu, oedd yr unig fan y cyrchai Methodistiaid sir Benfro iddo; ond yn y fl. 1754, yr oedd capel Woodstock yn cael ei adeiladu, a gweinyddid yr ordinhadau bellach yn hwn, gan Howel Davies yn benaf, ac yn mlaenaf, a chan offeiriaid eraill gydag ef, ac ar ol ei ymadawiad ef. Tua'r fl. 1763 yr agorwyd y Capel Newydd yn nghŵr gogleddol sir Benfro, yr unig un ar y pryd yn yr holl wlad. Yr oedd capel Llanlluan, yn sir Gaerfyrddin, yn sefyll yn mhell oddiwrth yr holl gapelau eraill yr oedd cyfranu ynddynt, a byddai yma gyrchfa fawr o bobl bob Sabboth cymundeb, nemawr llai, meddir, ar ryw dymhorau, na dwy fil o gymunwyr. Yr un modd y bu Llangan yn sir Forganwg. Ond yn y Gogledd, nid oedd un man o'r fath, oddieithr y Bala yn unig. Ni roddid caniatâd, chwaith, yn y Deheubarth, ond megys o orfod, i chwanegu at eu nifer.

Yr oedd De a Gogledd yn gwahaniaethu yn nifer ac yn nylanwad yr offeiriaid. Nid oedd yn y Gogledd, yn yr amser y bu mwyaf, ond tri o honynt; ac fe fu y rhan yma o'r dywysogaeth hanner cant o flynyddoedd, ymron heb gymaint ag un clerigwr o'i fewn. Yr oedd yr achos, gan hyny, yn cael ei ddwyn yn mlaen yn ystod yr hanner can' mlynedd hyny, gan leygwyr yn hollol, yn mhob rhan o hono, ond gweinyddiad yr ordinhadau arwyddol yn unig. Yn y Deheubarth, yn y gwrthwyneb, yr oedd cryn nifer o offeiriaid, megys y pedwar hyn ar y dechreu:

Parch. Daniel Rowlands,
Parch. Howel Davies,
Parch. Peter Williams,
William Williams.

At y gwŷr hyn fe chwanegwyd cryn nifer, o bryd i bryd, megys,—

Parch. Christopher Bassett
"W. Davies, Castellnedd
"D. Jones, Llangan
"D. Griffiths, Nevern
"D. Davies, Cynfil
"J. Williams, Lledrod
"W. Jones, Llandudoch
"W. Davies, Goetre
"D. Jenkins, Llanddewi
"J. Hughes, Sychbant
"Hez. Jones
"Daniel Jones
"Howel Howels
"J. Williams, Pant-y-celyn
"J. Davies, Llanfyrnach
"Lewis Lewis, Carrog.


Wele restr o 20 o weinidogion eglwys Loegr wedi ymddangos, mewn