Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

colli, i'r graddau yr oedd gweinidogaeth Cradoc yn llwyddo. Y cyfryw ydyw sefyllfa y fasnach hon, a phob masnach arall sydd yn dibynu ar dueddiadau llygredig dynion, a'u hofer-ymarweddiad. Llwyddasant, pa fodd bynag, i gael Cradoc i ffordd. Cafodd y gelyn yn hyny ei amcan.[1] Eto, er hyn, "ni ddychwelodd y gair yn wag." Yn amser gweinidogaeth Cradoc yn Ngwrecsam, yr oedd gŵr ieuanc o'r enw Morgan Llwyd yno yn yr ysgol, i'r hwn y bu gweinidogaeth Cradoc yn fendithiol. Daeth hwn i fod yn olynydd i Cradoc yn Ngwrecsam, ac yn awdwr amryw lyfrau hynod. Wedi ymlid Cradoc ymaith, efe a aeth i Lanfair Waterdine, yn swydd Henffordd. Fe fu yr un arddeliad ar ei weinidogaeth yno ag a fu yn Ngwrecsam; ac yn mysg eraill a ddychwelwyd at Dduw, yr oedd Vavasor Powel, gŵr a fu mor lafurus a llwyddiannus ar ol hyny yn ngwasanaeth yr Arglwydd yn mhlith y Cymry. Yr oedd Vavasor Powel eisoes dan argyhoeddiadau dwysion; ond gweinidogaeth Walter Cradoc, naill ai yn Ngwrecsam, neu yn Henffordd, a fu yn foddion i'w gadarnhau a'i gysuro. Aeth Mr. Cradoc o Lanfair Waterdine i'w wlad enedigol i Sir Fynwy; a bu yn cydlafurio â Mr. Wroth, hyd y fl. 1639 neu 1640, pan y bu Mr. Wroth farw. Cuddiwyd ef dan nodded rhagluniaeth yn ystod y terfysgoedd blinion ag oedd y blynyddoedd hyny yn aflonyddu y wladwriaeth, y rhai a godent o'r ymrysonfa ag oedd rhwng y brenin Charles a'r senedd. Wedi rhai blynyddoedd o lafur yn Nghymru, tebygid, galwyd ef i Lundain, a bu yn gweinidogaethu yn eglwys All Hallows the Great am rai blynyddau. Fe fu yn pregethu yno o flaen y senedd yn amser Oliver Cromwell, gan yr hwn y derbyniodd Cradoc lawer o barch ac ymddiried.

Dychwelodd eilwaith i Gymru tua'r fl. 1659; ac er iddo gychwyn tua Llundain yn ei ol, eto, wedi clywed fod Charles ar gael ei adferu i'w orsedd, trôdd yn ol i'w wlad, a bu yno hyd ei farwolaeth, yr hyn a ddygwyddodd yn fuan ar ol hyn, sef ar ddydd Nadolig yr un flwyddyn.

Mr. Wroth, a Mr. Cradoc, oeddynt y diwygwyr cyntaf yn Nghymru, o ddim enwogrwydd, a fu yn y wlad ar ol darostyngiad Pabyddiaeth; ac anmhosibl, wedi treigliad cymaint o amser, ac oddiar yr hysbysiadau mewn llaw, fyddai dweyd i ba raddau mor fawr yr effeithiai eu llafur ar Gymru. Hyn a sicrheiri ni gan nifer o wŷr geirwir, mewn erfyniad at y brenin Charles I, yn y fl. 1641, nad oedd cynifer o weinidogion efengylaidd yn Nghymru ag oedd o siroedd yno, a'r rhai hyny dan gaethiwed ac erlidigaeth. Ond yn y fl. 1652, yr oedd yn y wlad, yn ol tystiolaeth Mr. Whitelock, dros 150 o weinidogion effro a grymus. Gwelwn fod y ffrwyth a gynyrchwyd mewn amser mor fyr ag un mlynedd ar ddeg yn rhyfeddol, ac agos yn anghredadwy, gan nad mor ychydig oedd yr offerynau, heb gofio mai Ysbryd Duw oedd y gweithiwr. Yr oedd yr offerynau yn ychydig mewn nifer, ond yn danllyd eu hysbryd, yn bur eu dybenion, ac yn ddiflino eu hym-

  1. Dywed rhai mai rhyw fragwr, o'r enw Timothy Middleton, a fu y prif offeryn i gael Cradoc o Wrecsam, wedi iddo ddeall mai ei bregethau ef oedd yr achos fod llai o alw am frag.