ni y fraint hon? Yr ydym yn cael pregethu Crist, yn cael ei broffesu, ac yn cael credu ynddo.-A gawn ni gofio iddo farw drosom?"
"Na chewch yn y lle hwn," ebe Mr. N. Rowlands.
"Nid i chwi yr archwyd i mi ofyn," ebe Charles, "ond i'r Gymanfa."
Ar hyn, methodd Jones o Langan ag ymattal, ond gwaeddodd allan, "Cewch; pa bryd wyt ti am gael hyny, Dio bach?--mi ddof fi i'ch helpio i gofio am dano."
Ar hyn, rhuthrodd Rowlands ar offeiriad Llangan yn llawn anwydau; ond cymundeb a gafwyd o hyny allan, er maint oedd gwrthwynebiad y gŵr mawr crybwylledig.
Yr oedd pregethwr parchus iawn yn Llanwinio, swydd Gaerfyrddin, o'r enw Dafydd Evan, yr hwn oedd ŵr duwiol a defnyddiol nodedig. Hwn hefyd ar un tro a gyflwynodd yr un fath gais a Mr. Charles am gael gweinyddiad y sacramentau yn ei gartref yntau. Cafodd hwn hefyd ei drin mewn modd tra annheilwng, mewn amryw gymanfaoedd. Rhuthrwyd arno unwaith yn ffyrnig iawn, mewn cymdeithasfa yn sir Benfro; a pha beth a wnaethid iddo, nis gwyddom, oni bae i Ebenezer Morris, yr hwn bellach, oedd ŵr o ddylanwad cyfartal i neb o offeiriaid ei oes, neidio i'r adwy, a'i amddiffyn gyda gwroldeb a deheurwydd mawr.
Tua'r fl. 1794, daeth y Parch. D. Jones o Langan i artrefu yn sir Benfro. Priododd wraig weddw o'r enw Mrs. Parry, yr hon oedd yn byw yn Maenorowen, lle o fewn dwy filldir i Abergwaun. Treuliai ran o'i amser bob blwyddyn yn Morganwg, sef yn mhersonoliaeth Llangan, er ei fod yn cartrefu yn Maenorowen. Y mae coffa parchus am ei ddefnyddioldeb yn mro Abergwaun hyd heddyw, fel un a fu o les mawr i'r achos crefyddol yn mhlith y Methodistiaid yno. Pan ddaethai i'r wlad hono i fyw, nid oedd ond tua 80 o aelodau yn eglwys Abergwaun; ond yr oeddynt yn 200 cyn ei farwolaeth. Eithr nid oedd y sacramentau yn cael eu gweinyddu yma am rai blynyddoedd ar ol ei ddyfod ef i Maenorowen. Gwnaed cais aml dro i gael hyny i Abergwaun, ond N. Rowlands a safai yn erbyn yn wastadol. Fe ddeuai Rowlands i Abergwaun i bregethu, ond nid i'r capel; pregethai yn wastad yn yr eglwys. Wedi pregethu, â'i i dŷ hen ferch weddw, yr hon oedd yn gorwedd yn glaf; ac mewn ystafell fechan ac anghyfleus yn y tŷ hwn, y gweinyddai efe yr ordinhad o swper yr Arglwydd, lle yr ai holl aelodau yr eglwys Fethodistaidd ar ei ol i'r dyben hyny. Erfyniwyd llawer arno i ddyfod i'r capel; ond yr ateb bob amser a fyddai, "Na, na;" ac yn fynych dywedai, "Na ddeuaf byth!" A bu cystal a'i air. Ond cymerodd Mr. Jones yr achos mewn llaw; ac mewn cymdeithasfa yn Llangeitho yn 1802, fe lwyddodd i gael gweinyddiad o'r ordinhadau arwyddol yn nghapel Abergwaun. Y Parch. John Williams, Pant-y-celyn, oedd y cyntaf, yn ol y cof sydd gan fy hysbysydd, a weinyddodd yn y modd hyny yn y capel hwn. Wedi marwolaeth y Parch. Howel Davies, daeth ei fab-yn-nghyfraith, y Parch. N. Rowlands, i gymeryd arolygiaeth yr eglwysi yn sir Benfro ar ol ei dad-yn-nghyfraith, fel pe buasai yn drefdadaeth iddo. Yn y fl. 1807, pedair