Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/463

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

meddwl fod syniad Rowlands y tad yn gwahaniaethu cymaint oddiwrth syniad Rowlands y mab, am y sefydliad gwladol, ac am ymneillduaeth, ag oedd ysbryd a dawn y cyntaf yn rhagori ar yr olaf. Ond ni a ddychwelwn at yr ymdrech a fu i gael gweinyddiad mwy cyson o'r sacramentau.

Y mae yn taro meddwl y darllenydd, yn ddiamheuol, fel yr eiddo yr ysgrifenydd, o ba le y codai y mawr wrthwynebiad i weinyddu yn y naill gapel mwy na chapel arall, yn yr un cyfundeb, i'r un bobl, a chan yr un gweinyddwyr? Yr oeddid eisoes yn gweinyddu yn y capel newydd, ac yn nghapel Woodstock yn sir Benfro, y rhai ni chysegrasid gan yr un esgob; a pha wrthwynebiad a allai fod i Abergwaun, neu Dŷ Ddewi, y mae yn gwbl uwchlaw ein gallu ni i ddyfalu. Yr ydym yn teimlo anhawsder ar y naill law i dybied fod gwŷr da fel Mr. Griffiths, Nefern, a Jones, Llandudoch, mor llwyr yn meddiant mympwy mor ffol; ac ar y llaw arall, yr ydym yn methu cael allan pa beth ond mympwy a allasai beri y gwrthwynebiad. Pe cadwesid o'r dechreuad yn hollol a llwyr at y llanau neu at gapelau eglwysaidd, ni a allasem ganfod rywbeth tebyg i rith barn a chydwybod yn y gwrthwynebiad, ond nid felly yr oedd. Yr oedd gweinyddu y sacramentau eisoes wedi bod yn Llangeitho er ys 30 mlynedd, mewn addoldy cyffredin; chwanegwyd drachefn Aberystwyth a'r Twrgwyn Gweinyddai N. Rowlands ei hunan, mewn dau os nad tri o gapelau anghysegredig eisoes, yn sir Benfro; beth, ynte, amgen na mympwy, neu ryw beth gwaeth na mympwy, a barai nacâu yr un ragorfraint i eglwysi eraill?

PENNOD XIV.
GWRTHWYNEBIAD I'R NEILLDUAD

CYNWYSIAD
YR AMGYLCHIADAU CYCHWYNOL—EVAN DAVIES, TWRGWYN, AC EBENEZER MORRIS —GOSOD YR ACHOS I LAWR YN LLANGEITHO—CYFFRO YN Y GYMDEITHASFA—Y DRAFODAETH A FU AR YR UN ACHOS YN NGHYMANFA ABERTEIFI—ANSAWDD Y TEIMLAD YN SIR BENFRO—CENADWRI TYDDEWI I GWRDD MISOL LLANDUDOCH GYDA THOMAS REES, TREPIUET—Y CYFFRO MAWR A BARODD-DYLANWAD EBENEZER MORRIS AR HYN O BRYD—YMDDYGIAD MR. WILLIAMS, LLEDROD —A'R EIDDO MR. CHARLES—PARCH. ROWLAND HILL YN NGHYMDEITHASFA ABERTAWE—MARWOLAETH MR. JONES, LLANGAN.

OND yr ydym bellach yn dynesu at ymdrech galetach fyth, sef at y cais a wnaed i luosogi y gweinyddwyr trwy ordeiniad amgen na'r un esgobaethol. Nid oedd y cyfundeb, bellach, yn gallu ymfoddloni ar luosogi lleoedd y gweinyddiad, rhaid oedd cael amlhau nifer y gweinyddwyr. Nid oedd nemawr o obaith y ceid nifer digonol o gierigwyr, pe buasai y cynulleidfaoedd yn boddloni arnynt. Yr oedd nifer yr eglwysi yn amlhau yn fwy-fwy, a'r alwad am y sacramentau yn cynyddu mewn grym a phenderfyniad. Erbyn hyn yr oedd yr Arglwydd wedi codi dynion yn mhlith y cynghorwyr, fel y'u gelwid, y rhai oeddynt, o ran dawn a gras, a phob cymhwysder, yn ogyfuwch â neb o'r clerigwyr; a hyny mewn De a Gogledd; a disgynai yr ymofyniad, "Pa ddeddf sydd i luddias i'r cyfryw wŷr weinyddu bedydd a swper yr Arglwydd yn ein plith?" yn rymus, ar feddyliau lluaws o bobl gall a grasol.