Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/464

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Effeithiai amryw amgylchiadau, bychain ynddynt eu hunain, yn ngwahanol barthau y wlad, i roddi ysgogiad i feddyliau dynion yn yr achos hwn; amgylchiadau gwahanol hefyd, mewn gwahanol wledydd, a gyd-wasanaethent i wneuthur yr ysgogiad yn rymusach, ac yn fwy unedig. Yn sir Aberteifi, yr oedd gweinidog ymneillduol o'r enw Mr. Gray, yr hwn ydoedd olynwr i'r Parch. P. Pugh, am yr hwn y soniwyd gair eisoes. Yr oedd y Mr. Gray hwn yn gweinidogaethu mewn amrywiol ardaloedd yn y sir, ac yn dra chyfeillgar â Mr. Rowlands, Llangeitho Yr oedd y gŵr hwn, wrth gwrs, yn gweinyddu y sacramentau, yn ol dull yr ymneillduwyr, mewn amrywiol gynulleidfaoedd, megys Llwyn-piod, Abermeirig, a Ffos-ffin. I'r cymundeb yn y lleoedd hyn, ymgasglai cryn nifer o ddysgyblion Mr. Gray o'r amrywiol ardaloedd. Ysgrifena gŵr cyfarwydd ataf, fod llawer iawn o ardaloedd Pensarn a manau eraill cyfagos, yn arfer myned i wrando Mr. Gray i Ffos-ffin, ac yn enwedig ar Sul y cymundeb; a chan fod Mr Gray yn garenydd agos i'r Methodistiaid, er bod ar enw ymneillduwr, fe geid llawer o honynt yn mysg gwrandawyr Mr. Gray, ac ond odid yn mysg ei gymunwyr. Dygwyddodd unwaith, pa fodd bynag, a hyny yn gwbl ddifwriad, i nifer o aelodau eglwysig Pensarn gwrdd â'u gilydd, yn nhŷ un chwaer grefyddol yno, pan y disgynodd yr ymddyddan, megys yn ddamweiniol, am waith Mr. Gray yn gweinyddu swper yr Arglwydd yn Ffos-ffin, ac am y mawr ddiffyg oedd o hyny yn eu mysg hwy; a gofynai un o'r chwiorydd oedd yn bresenol, mewn dull ag a barai sylw arbenig, "Paham na chaem ninau ein pregethwyr, y mae y fath arddeliad ar eu gweinidogaeth, i weinyddu yr ordinhadau hyn?" Wedi gosteg syn dros enyd, atebodd un, "Nis gwn i,"—ас arall, "Nis gwn inau,"—a'r un modd y dywedasant oll. Yr amgylchiad damweiniol a dibwys hwn a roes gychwyniad, meddir, i'r drafodaeth a barodd i Fethodistiaeth Cymru siglo hyd ei sylfaeni. Nid oes i ni feddwl mai hwn oedd yr unig amgylchiad a barodd y fath effeithiau, oblegyd yr oedd amgylchiadau eraill, yn siroedd eraill y Deheubarth, ac yn y Gogledd hefyd, yn cymeryd lle tua'r un amser, ac yn tueddu i'r un dyben; er nad oedd y dynion yn y naill ddosbarth o'r wlad yn gwybod dim am y dosbarth arall.

Yr oedd Ebenezer Morris i fod yn pregethu ac yn cadw cyfarfod eglwysig, yn ol ei arfer, yn nghapel Pensarn, dranoeth neu dradwy, a phenderfynodd y cyfeillion cynulledig ofyn yr un cwestiwn iddo yntau, ar ol i'r gwasanaeth crefyddol derfynu; ac yr oedd ar hyn o bryd fagad yn ychwaneg o bobl ynghyd. "Paham?" ebe Mr. Morris, " paham hefyd? Ac ar bwy y mae y bai, ond arnoch chwi y cymdeithasau eglwysig? na baech yn galw arnom at y gwaith, ac yn ein gosod yn rheolaidd ynddo." "O'r dydd hwnw allan," medd fy hysbysydd, "ni bu gorphwysdra na dydd na nos, nes gorchfygu pob rhwystr, a chyrhaedd y nôd yr amcenid ato."

Yr oedd yn Mhensarn flaenor, o'r enw Evan Davies, yr hwn a elwid fynychaf Evan Twrgwyn, tad i'r Parch. Jenkin Davies; yr oedd y gŵr hwn yn ddyn cadarn nerthol ei feddwl, er ei fod yn fychan o gorpholaeth;—gŵr a feddyliai lawer, ac a ddywedai ychydig, ond a ddywedai yn effeithiol pan