Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/465

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y llefarai;—gŵr yr oedd ei ysbryd yn wir grefyddol, a'i rodiad yn ddifrycheulyd;—gŵr yr oedd ei nwydau yn lled ddigyffro, ond ei feddwl yn benderfynol pan yr argyhoeddid ei farn;—gŵr hefyd digon cadarn ei ysbryd i sefyll dros yr hyn a farnai yn wirionedd, er pob gwrthwynebiad a fyddai. Yr oedd y ŵr hwn yn sefyll yn uchel yn meddwl Ebenezer Morris, fel dyn craff ei farn, a chywir ei ysbryd; ymgynghorai y ddau â'u gilydd ymhob peth pwysig perthynol i achos crefydd, ac felly y gwnaethant yn yr ymdrechfa hon. Nid oedd un dyben i neb gymeryd yr achos hwn mewn llaw heb gwbl ymroddiad sefyll drosto, yn wyneb gwrthwynebiad cryf a phenderfynol. Yr oedd yr offeiriaid yn wŷr o ddysg, o ddawn, o gyfoeth, ac o dduwioldeb, ac felly yn meddu dylanwad mawr iawn. Yr oedd hefyd yn eu pleidio lawer o ddynion cyfoethog ar hyd y gwledydd; ac oll ymron yn benderfynol i sefyll yn erbyn y cynygiad. Yr oedd Ebenezer Morris wedi bwriadu cael rhyw un mwy cyfrifol o ran ei sefyllfa, a mwy ei ddylanwad cyhoeddus, i osod yr achos i lawr yn y gymdeithasfa, ond methu a wnaeth i gael neb i wneyd hyny, er ceisio llawer; am hyny, dywedodd wrth Evan Davies, y disgynai y gorchwyl hwnw arno ef; ac yn hytrach na'i ollwng i lawr, yntau a gydsyniodd i wneyd hyny.

"Y dyn cyntaf a glywais," medd hysbysydd arall o sir Aberteifi, yn gosod y mater i lawr yn gyhoeddus (a hyny a wnaed mewn cymdeithasfa yn Llangeitho), oedd gŵr o'r enw Evan Davies, tad y Parch. Jenkin Davies o'r sir hon. Yr oedd amryw eraill yn cydweithredu âg Evan Davies, sef Owen Enos, Blaenanerch, a Richard Jenkin, Borth, ac amryw eraill; eto Evan Davies a osodwyd yn enau drostynt i osod yr achos ger bron. Gofynid gŵr cadarn nerthol i wneyd hyn, gan y gwyddid yn flaenorol y teimlad cyffrous oedd gan rai gwŷr mawr yn erbyn. Gosodwyd yr achos i lawr yn ostyngedig gan y genad, ac amneidiai ei fod yn ofni fod cam yn cael ei wneyd âg eglwys Crist, gan y diffyg oedd o weinyddiad y sacramentau yn eu plith."

Edrychwyd ar y gosodiad yn syn iawn gan lawer, ac yn enwedig gan yr offeiriaid. Dylai y darllenydd ddeall fod cryn nifer o wŷr, o'r hen bobl yn enwedig, y rhai a fagesid dan yr oruchwyliaeth hon, yn anfoddlawn iawn i'r newidiad. Honent fod yr Arglwydd wedi bendithio y corff mor fawr o dan y ffurf oedd wedi bod arno, ac yn neillduol ei fod wedi rhoddi arwyddion mor ddiymwad o'i bresenoldeb ar Sabbothau cymundeb, fel na allent oddef y meddwl am ddisgyn i un ffurf arall. Eto nid oedd nifer y gwŷr hyn yn llawer, mewn cymhariaeth i'r rhai a lochesent syniadau gwrthwyneb.

"Nid yw yn hysbys i mi," medd fy hysbysydd, "a fuasai sylw mewn siroedd eraill ar y neillduo cyn hyn ai peidio, pa fodd bynag am hyny, mae yn debyg mai Evan Davies a'i gosododd yn gyntaf o flaen y gymdeithasfa. Parodd y cynygiad gyffro anarferol, yn enwedig yn mysg yr offeiriaid. Yr offeiriaid y pryd hyny oedd cynrychiolwyr y cymanfaoedd, a hwynthwy a eisteddent fel llywyddion ac arolygwyr ar bob trefniadau. Ar yr achlysur hwn, Mr Jones, Llangan, oedd cadeirydd y gymdeithasfa. Pan gosododd Evan Davies ei gwyn i lawr, gwaeddodd y cadeirydd yn gyffrous:—