Yr oedd yn ddigon naturiol i Mr. Hill gymeryd rhan yn y drafodaeth, a theimlo gradd o agosrwydd at yr hyn a amcenid ei gyrhaedd, o herwydd amgylchiad a ddygwyddasai yn Hwlffordd,—amgylchiad ag oedd yn dwyn cysylltiad â Mr. Hill ei hun. Yr oedd y Parch. Howel Davies wedi bod yn gweinyddu mewn undeb a phregethwyr eraill yn Hwlffordd, er amser boreol Methodistiaeth, ac yn y fl. 1777 adeiladwyd y capel yno a elwir y Tabernacle, lle bellach yr ymgynullai y Methodistiaid. Yr oedd Mr. Hill yn teimlo rhyw ymlyniad wrth y lle hwn, ac arferai bregethu ynddo, ar ryw adeg o'r flwyddyn, dros gryn amser. Ar ryw achlysur efe a anfonodd ŵr o'r enw Mr. Joss yno i bregethu, a ci weinyddu y sacramentau. Nid oedd Mr. Joss wedi derbyn urddau esgobol, fel yr oedd mwyaf yr anffawd; a pharodd y tro afreolaidd hwn dramgwydd mawr i'r Parch. Nath. Rowlands, yr hwn oedd, ar y pryd, wedi cymeryd arolygiaeth yr eglwysi yn sir Benfro, yn lle ei dad-ynghyfraith, Howel Davies. Wele wr wedi ei anfon gan Mr. Hill yn pechu yn erbyn Mr. N. Rowlands. Safai Mr. Hill dros gymhwysder y gweinidog a anfonasai yno, a safai Rowlands dros hawl offeiriad yr eglwys yn unig i weinyddu y sacramentau. Y canlyniad, pa fodd bynag, a fu ymraniad yn nghynulleidfa y Tabernacle; safodd y naill ran yno gyda Mr. Hill a'r gweinidog a anfonasai; ond y lleill, sef y rhai a dybid yn Fethodistiaid trwyadl, a lynasant wrth Rowlands. Collwyd y Tabernacle, gan hyny, i'r Methodistiaid, a chodwyd capel arall i Rowlands, lle y byddai yn arfer pregethu tra gallai, tra bu fyw. Yn awr, pa fodd bynag, mae capel Nathaniel Rowlands yn Hwlffordd, er yn llawer dydd, wedi ei droi yn efail gof. Gan i Mr. Hill yn y modd yma gyfarfod ei hun ag amgylchiad a roddasai brawf iddo o syniadau cyfyng yı offeiriaid, yn y pwnc o weinyddiad y sacramentau, yr oedd yn fwy parod a chymhwys i gymeryd rhan yn y drafodaeth a fu ar hyny yn Abertawe. Ni a ddywedasom o'r blaen ddarfod diarddel y Parch. N. Rowlands, tua'r fl. 1807, am afreolaeth mewn buchedd, a chydag ef y collwyd y capel a godasid yr Hwlffordd, gan y Methodistiaid, yn ei ddyddiau.
Erbyn diwedd y fl. 1810, yr ydoedd prif rwystr y neillduad wedi ei symud, trwy fod Mr. Charles o'r Bala wedi addaw ei gydweithrediad, a rhagluniaeth ddoeth wedi cymeryd Mr. Jones, Llangan, i wlad well;—gwlad
"Y mae pawb o'r brodyr yno'n un,
Heb neb yn tynu'n groes;
Yn moli'r Duwdod yn y dyn,
A chofio angau loes."
Yr oedd duwioldeb a defnyddioldeb y gwŷr hyn mor nodedig, a'r tynerwch tuag at eu teimladau mor ddiffuant a chryf, fel y buasai yn anhawdd iawn gan y cyfuneb ysgogi ymlaen ar draws eu teimladau, heb o leiaf ddefnyddio pob moddion yn eu cyrhaedd i'w hennill. Yr oedd Mr. Jones, bellach, wedi heneiddio;—yr oedd wedi teithio llawer trwy y dywysogaeth;—yr oedd ei weinidogaeth a'i dymherau mor ennillgar, nes oedd serchiadau y bobl, o fawr i fan, wedi ymblethu yn dyn am dano, fel nad oedd ond cydwybod i orsedd yr Hwn oedd uwch, a fuasai yn ddigonol yn ei bwysi ysgogi yn wrthwynebol iddo. Yr oedd Mr. Charles, yntau bellach, wedi llafurio am 25 o flynyddoedd gyda'r