Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/476

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfundeb; yr oedd ei ddiragrithrwydd, ei ysbryd hynaws, a'i ddefnyddioldeb digyffelyb, wedi rhoddi pwys anarferol yn ei ddylanwad; ac heb ei gydweithrediad ef, y mae yn anhawdd dychymygu pa fath a fuasai y canlyniad. Ond yr oedd dyddiau efengylydd Llangan wedi nesu i farw;—yr oedd y cwmwl gwlithog hwn wedi bod eisoes yn dyferu ar Gymru râs am hanner can' mlynedd, a gresyn oedd i un amgylchiad gyfarfod â'r gweinidog ffyddlon, yn min y bedd, a fuasai yn chwerwi ei goffadwriaeth yn mysg ei frodyr.

Ond fe'i gwaredwyd ef rhag hyn; ni chaed ef mwy yn nghymdeithasfaoedd y Methodistiaid, canys Duw a'i cymerodd ef ato ei hun. A thrwy farwolaeth Jones, a chydweithrediad Charles, fe droes y glorian yn gwbl o blaid y neillduad. Yr oedd Mr. Griffiths, Nefern, yn ŵr o ddylanwad helaeth, yn enwedig yn ei wlad ei hun. Yr oedd ef yn ŵr boneddig o gyfoeth, ac yn weinidog o dalentau helaeth iawn, a chyrhaeddai ei ddylanwad yn rymus o fewn cylch ei fro ei hun. Ond nid oedd Cymru yn gyffredinol yn gwybod ond ychydig mewn cymhariaeth am dano;—nid ymroddasai erioed i wasanaethu y cyfundeb yn gyffelyb fel y gwnaethai Jones a Charles;—yr oedd yn anewyllysgar i weinyddu y sacramentau ond yn yr eglwysi plwyfol, ac wedi dangos mwy o ymlyniad wrth yr eglwys wladol nag wrth y Methodistiaid fel cyfundeb, fel nad oedd iddo ef yn yr achos dan sylw, gyffelyb ddylanwad yn mysg ei frodyr, ag oedd i'r ddau eraill.

Nid oes angenrheidrwydd i mi, ond yn unig gwneuthur y crybwylliad fod y neillduad, o'r diwedd, wedi cymeryd lle yn y Deau a'r Gogledd, yn ol y cynllun a osodid i lawr gan Mr. Charles, yr hwn sydd argraffedig yn safon y cyfundeb, ac yn adnabyddus ond odid i'r darllenydd eisoes. Cymerodd y neillduad le yn y Gogledd yn y Bala yn mis Mehefin, 1811, ac yn y Deheudir yn Llandeilo Fawr, yn mis Awst, yr un flwyddyn.

ENWAU Y PREGETHWYR A NEILLDUWYD Y TRO CYNTAF.

DEHEUDIR.
John Evans, Llwyn-ffortun,
David Rees, Llanfynydd,
Arthur Evans, Cynfil,
David Charles, Caerfyrddin,
James James, Abergaveni,
David Parry, sir Frycheiniog,
Evan Evans, Ffôs, sir Frycheiniog,
Ebenezer Morris, Twrgwyn,
John Thomas, Aberteifi,
Ebenezer Richard, Tregaron,
Evan Harris, sir Benfro,
Hopkin Bevan, Morganwg,
John Rees, sir Fynwy.

GOGLEDD.
John Elias, Môn,
Richard Lloyd, Môn,
Evan Richardson, Caernarfon,
Thomas Jones, Dinbych,
John Davies, Nantglyn,
John Roberts, Llangwm,
William Jones, Dol-y-fonddu,
Evan Griffiths, Meifod.


Nid oes yr un o'r rhestrau uchod yn awr yn fyw.