Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/478

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gapel. Parhaodd y Methodistiaid i lafurio yn y lle hwn, fel manau eraill, hyd oni chiliodd yr offeiriaid oddiwrth y cyfundeb, yn eglwys yr hwn y byddai'r aelodau yn arfer cymuno. Wedi y neillduad yn 1811, cauwyd y capel yn erbyn pregethwyr y Methodistiaid, ac aeth rhan fawr o'r aelodau at yr offeiriad, fel ag y diflanodd yr achos yn ei gysylltiad â'r Methodistiaid. Nid oedd yma, bellach, ddim pregethu ganddynt, oni ddamweiniai fod dau frawd, ar nos y gymdeithasfa yn Aberteifi, yn cael eu gwahodd i bregethu yn nghapel y Bedyddwyr. Fel hyn y bu pethau am bum' mlynedd ar hugain. Ond yn y fl. 1836, cymerwyd ystafell drachefn i ddechreu pregethu ynddi, gan fod yn y pentref eisoes rai aelodau yn perthyn i Glanrhyd ac Aberteifi; ac wedi dwy flynedd o lafur, fe adeiladwyd capel bychan a hardd yno eilwaith, lle y mae achos siriol a heddychol hyd heddyw. Yr achos o golli y capel cyntaf oedd, mai gwŷr eglwysig a'u pleidwyr oedd yr ymddiriedolwyr arno.

Y lle nesaf a gollwyd oedd Eglwys-erw. Pentref bychan yw hwnw tua chwe' milldir i'r deau o Aberteifi. Tua dechreu y ganrif hon, yr oedd yma ambell aelod yn perthyn i'r Methodistiaid yn cyfaneddu, y rhai a gadwent gyfarfodydd gweddio yma ac acw yn yr ardal, ac a aent i gymuno i eglwys Nefern, lle yr oedd y Parch. D. Griffiths yn gweinidogaethu. Ymhen rhyw enyd o amser, cymerwyd tŷ yn yr ardal, a threfnuswyd ef i fod yn addoldy, a buwyd yn cadw moddion ynddo am rai blynyddau. Yr oedd yn angenrheidiol, pa fodd bynag, i drefnu y moddion fel ag i beidio a throseddu y graddau lleiaf ar wasanaeth y llan; ac os dygwyddai yn achlysurol fod y moddion yn parhau ychydig yn hwy na'r awr benodol, fel y gwnaeth unwaith pan oedd Mr. Williams, Lledrod, yno yn pregethu, bygythid y troseddwyr â chynghaws yn llýs yresgob. Ar yr achlysur y soniwn am dano, daeth y person heibio a chanfu nad oedd y moddion yn y tŷ cwrdd wedi terfynu, a rhoes amnaid croew i'r bobl eu bod yn droseddwyr agored i gosb, ac ar hyn ebe Mr. Williams, y. hwn a adwaenai y ddefod yn dda, "Ewch, ewch, druan, gynta' galloch.' Daeth yn olynwr i'r offeiriad hwn ŵr mwy tyner a hynaws. Yn y fl. 1807 adeiladwyd yma gapel bach prydferth, yn yr hwn y cynelid moddion gra yn gyson, a chyfarfodydd misol yn achlysurol; ond wedi neillduo gweinidogion, oerodd pobl y lle at y Methodistiaid; eto ni chauwyd y capel yn hollo: ac ar unwaith, ond fe ganiateid i ambell un bregethu ynddo yn awr ac eil waith, ac o'r diwedd y moddion Methodistaidd a ddarfuant yn hollol. Eto ymhen amser daeth rhai o aelodau y cyfundeb i fyw i'r ardal; y rhai, mewn undeb ag ychydig nifer o'r un syniadau, ag oedd eisoes yn aros yn y lle, â gawsant gan bregethwyr ddyfod yno drachefn i bregethu mewn tŷ annedd Yr oedd teulu y tŷ hwn wedi eu hennill yn siriol at yr achos; ond symudasant o'r ardal, a chafwyd tŷ annedd arall i bregethu ynddo ac i gadw ysgol Sabbothol.

Tra yr oedd y moddion yn cael eu cynal yn y lle diweddaf hwn, cafwyd ryw fath o ganiatâd i fyned i'r capel, yr hwn, tybygid, oedd yn ddiddefnydd. Dangoswyd cryn lawer o anfoddlonrwydd i ddangos yr ysgrif-weithredau. fod ynddi, fel y bernid, ryw ymadrodd yn rhoddi hawl eglur i'r Methodistiaid